Dim amodau

Mae Firefox yn cael ei adeiladu gan gorff dim-er-elw. Mae hynny'n golygu y gallwn wneud pethau nad oes mod i eraill eu gwneud, fel adeiladu cynnyrch a nodweddion newydd heb agenda gudd. Rydym yn hyrwyddo eich hawl i breifatrwydd gydag offer fel Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio.

Beth welwch yw beth gewch chi

Rydym yn credu fod y Rhyngrwyd ar gyfer pobl nid elw. Y wahanol i gwmnïau eraill fyddwn ni ddim yn gwerthu mynediad i'ch data. Chi sy'n rheoli pwy sy'n gweld eich hanes chwilio a phori. Dewis — dyna beth yw Rhyngrwyd iach!

Porwr ar genhadaeth

Yn ogystal â brwydro dros eich hawliau ar-lein, rydym hefyd yn cyfyngu ar rymoedd corfforaethol, tra'n gweithio gyda chynghreiriaid o amgylch y byd i hyrwyddo ymarfer Rhyngrwyd iach. Felly, pan fyddwch chi'n dewis Firefox, rydym ni'n eich dewis chi, hefyd.