Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cyfaddaswch eich porwr Firefox

Mae themâu Firefox yn gadael i chi newid golwg eich porwr. Maen nhw'n gosod y cynllun lliwiau ar gyfer dewislenni porwr a thudalennau system Firefox, a gallan nhw hefyd ychwanegu delwedd gefndir i'ch bar offer Firefox.

Daw Firefox â thema system rhagosodedig ac mae wedi'i lwytho'n barod ag amrywiadau golau, tywyll a lliwgar.

Delwedd o'r themâu rhagosodedig sy'n dod gyda Firefox, yn dangos amrywiadau golau, tywyll a lliwgar.

Gallwch ddod o hyd i ragor o themâu personol rhad ac am ddim yn addons.mozilla.org. Gallwch edrych drwy'r rhai â'r sgôr uchaf, y tueddiadau a'r rhai sy'n cael eu hargymell. Neu edrychwch am themâu yn ôl categori, gan gynnwys cerddoriaeth, y tymor, chwaraeon, a natur Gallwch addasu'ch profiad yn ôl eich chwaeth. Creaduriaid ciwt, robotiaid drwg, tirweddau hardd — mae miloedd o ddewisiadau i'w gwneud Firefox eich hun yn gartrefol.

Delwedd o dair thema cyfaddas Firefox: thema porffor a phinc tywyll gydag acenion gwyn ac oren, thema llwydfelyn golau yn cynnwys paentiad dyfrlliw o adar a blodau ceirios, a thema du a gwyrdd tywyll yn cynnwys patrwm cylchedwaith technoleg uchel.