Rydym wedi bod yn mireinio, fel bod modd i chi gyflawni mwy.
Llwytho Firefox i Lawr — Cymraeg
Efallai nad yw eich system yn cwrdd â gofynion Firefox, ond mae modd i chi brofi un o'r rhain:
Llwytho Firefox i Lawr — Cymraeg
Does neb yn hoffi rhaglen sy'n cymryd yr adnoddau i gyd! Mae Firefox yn beiriant pori cynnil iawn. Gan ein bod yn defnyddio llai o RAM na Chrome, mae eich rhaglenni eraill yn gallu parhau i weithio.
Mae gweithio gyda thabiau lluosog nawr yn haws. Mae Firefox nawr yn borwr proses lluosog, sy'n golygu fod eich tabiau'n aros yn fyw, heb gymryd oes i ail-lwytho. Gyda llai na 86% o amser aros, symudwch yn sydyn rhwng tabiau hyd yn oed wrth i chi agor rhagor.
Ni sydd wedi arwain y diwydiant ar rhedeg gemau 3D ar gyflymder bron yn gynhenid ac nawr mae Firefox yn dod â gwell perfformiad i chwarae gemau ar-lein. Mae ein porwr pwerus yn lleihau oedi, yn cyflymu amserau ping ac yn gwella chwarae gemau drwy bori cynt a mwy cynnil.