Ein cenhadaeth: Cadw'r rhyngrwyd yn agored ac yn hygyrch i bawb.
Mae ein harweinyddiaeth wedi bod ar flaen y gad o ran adeiladu rhyngrwyd iachach ers y cychwyn. Mae'r hyn a ddechreuodd fel dewis amgen i oruchafiaeth gorfforaethol wedi tyfu'n rym byd-eang ar gyfer daioni ar-lein.
Pan fyddwch yn defnyddio'r Firefox newydd, rydych chi'n cael profiad cyflym ac yn cefnogi cenhadaeth Mozilla i gadw'r rhyngrwyd yn iach, yn rhyfedd ac yn groesawgar i bawb.
Darllenwch am ein gweledigaeth ar gyfer y We a sut rydym yn bwriadu dilyn y weledigaeth honno.
Ym mhodlediadau IRL Mozilla, mae Manoush Zomorodi yn rhannu straeon go iawn am fywyd ar-lein ac yn cynnal sgyrsiau creiddiol am ddyfodol y We.
Mae Mozilla yn rhoi pobl o flaen elw ym mhopeth rydym yn ei ddweud, ei adeiladu a'i wneud. Yn wir, mae sefydliad nid-er-elw wrth wraidd ein menter.
Dysgu am y Mozilla FoundationMae'r egwyddorion a ysgrifennwyd gennym ym 1998 yn dal i'n harwain ni heddiw. Ac yn 2018, gwnaethom greu atodiad i bwysleisio cynhwysiant, preifatrwydd a diogelwch i bawb ar-lein.
Darllenwch ein Maniffesto2000 o westeion nad ydynt yn gyflogedig yn cael eu croesawu bob blwyddyn
500 yn mynychu cyfres siaradwyr Berlin yn flynyddol
800 o boteli o goffi bragu oer yn cael eu hyfed bob blwyddyn.