Cyfieithwch dudalen gwe gyda Firefox

Un o'r pethau gorau am y rhyngrwyd yw ein bod yn gallu cael mynediad at gynnwys ledled y byd. P'un a yw'n erthyglau newyddion, blogiau, neu hyd yn oed adolygiad o'ch teclyn technoleg diweddaraf, gallwch ddod o hyd i'r cyfan ar y we dibendraw. Gyda nodwedd cyfieithu diweddaraf Firefox, bydd y teclyn hwn yn cyfieithu tudalen we yn syth.

Tra bod porwyr eraill yn dibynnu ar wasanaethau cwmwl, mae modelau iaith Cyfieithiadau Firefox yn cael eu llwytho i lawr ar borwr y defnyddiwr ac mae cyfieithu'n digwydd yn lleol, felly nid yw Mozilla yn cofnodi'r tudalennau gwe rydych chi'n eu cyfieithu.

Pan fyddwch chi'n cyfieithu tudalen we, mae'n aros yn breifat

Pan fydd eich cyfieithiadau yn cael eu prosesu'n lleol, nid oes unrhyw ddata o'ch dyfais ddewisol yn gadael eich dyfais nac yn dibynnu ar wasanaethau cwmwl i'w cyfieithu. Mae hyn yn golygu nad yw Mozilla yn gwybod pa dudalen we rydych chi'n ei chyfieithu, ac mae'n gwneud i'n nodwedd cyfieithu sefyll allan o gymharu ag offer cyfieithu eraill.

Pa ieithoedd sy'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd?

Mae'r ieithoedd isod yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan y nodwedd Cyfieithiadau Firefox:

  • Български
  • Català
  • Čeština
  • Dansk
  • Deutsch
  • Ελληνικά
  • English
  • Español
  • Eesti keel
  • suomi
  • Français
  • Hrvatski
  • magyar
  • Bahasa Indonesia
  • Italiano
  • Lietuvių
  • Latviešu
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Русский
  • slovenčina
  • Slovenščina
  • Српски
  • Svenska
  • Türkçe
  • Українська
  • Tiếng Việt

Ac mae mwy o ieithoedd yn cael eu datblygu!

Mae Firefox yn siarad eich iaith

Mae nodwedd Cyfieithiadau Firefox yn ffordd arall mae Mozilla yn cadw'ch rhyngrwyd yn bersonol ac yn fwy preifat. Nid yw Mozilla yn olrhain pa dudalennau gwe rydych chi'n eu cyfieithu. Gyda miliynau o ddefnyddwyr ledled y byd, mae Mozilla am sicrhau bod y rhai sy'n defnyddio Firefox yn dysgu, yn cyfathrebu, yn rhannu ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar eu telerau eu hunain. Cychwynnwch arni yn eich dewis iaith drwy lwytho i lawr Firefox.