Mozilla VPN
Diogelwch, dibynadwyedd a chyflymdra — ar bob dyfais, lle bynnag yr ewch chi.
Rhwydwaith Preifat Rhithwir gan wneuthurwyr Firefox.
Cael Mozilla VPN
Un tap i breifatrwydd
Syrffio, ffrydio, gemau, a gweithio, tra'n cynnal eich preifatrwydd ar-lein. P'un ai rydych chi'n teithio, yn defnyddio WiFi cyhoeddus neu'n chwilio am fwy o ddiogelwch ar-lein yn unig, byddwn bob tro'n rhoi eich preifatrwydd yn gyntaf.

Rhwydwaith cyflym a diogel
Mae Mozilla VPN yn rhedeg ar rwydwaith byd-eang o weinyddion. Gan ddefnyddio'r protocol WireGuard® mwyaf datblygedig, rydym yn amgryptio eich gweithgaredd rhwydwaith ac yn cuddio'ch cyfeiriad IP. Nid ydym byth yn cofnodi, tracio, nac yn rhannu eich data rhwydwaith.

VPN gan frand y gallwch ymddiried ynddo
Ers mwy nag 20 mlynedd, mae gan Mozilla hanes o flaenoriaethu pobl a brwydro dros breifatrwydd ar-lein. Gyda chefnogaeth corff nid-er-elw, rydym wedi ymrwymo i adeiladu rhyngrwyd gwell ac iachach i bawb. Mae popeth rydym yn ei wneud yn rhan o'n cenhadaeth ac yn dilyn ein hegwyddorion.

Cysylltu â mwy na 500 gweinydd mewn dros 30 o wledydd
Dewiswch gynllun tanysgrifio sy'n gweithio i chi
Mae pob un o'n cynlluniau yn cynnwys:
- Y gallu i gysylltu hyd at 5 dyfais
- 500+ gweinydd mewn 30+ gwlad
- Amgryptio ar lefel dyfais
- Dim cyfyngiadau lled band
- Dim cofnodi'ch gweithgaredd rhwydwaith
- Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod
Argymhellwn
Cynllun 12 mis
Arbedwch 50%
US$59.88 cyfanswm + treth
US$4.99/mis + treth
Cynllun misol
US$9.99/mis + treth
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw VPN a beth yw ei ddefnydd?
Wrth i fwy o fywyd bob bydd ddigwydd trwy'r rhyngrwyd, mae preifatrwydd a diogelwch ar-lein yn dod yn bwysicach fyth. Gall VPN, Rhwydwaith Preifat Rhithwir, eich helpu i greu cysylltiad preifat, diogel â'r rhyngrwyd. Mae'n gweithio trwy greu “twnnel” rhwng eich dyfais a'r rhyngrwyd yn gyffredinol, ac mae'n eich diogelu mewn dwy ffordd bwysig:
- Cuddio'ch gwir gyfeiriad IP. Mae hyn yn diogelu eich hunaniaeth ac yn cuddio'ch lleoliad.
- Amgryptio'r traffig rhyngoch chi a'ch darparwr VPN fel na all unrhyw un ar eich rhwydwaith lleol ei ddehongli na'i addasu.
Dyma bum enghraifft bywyd go iawn lle fyddech chi eisiau VPN ar eich dyfais.
Pa wybodaeth mae'r Mozilla VPN yn ei chadw?
Rydym yn cadw'n gaeth at Egwyddorion Preifatrwydd Data Mozilla ac yn casglu'r data sy'n ofynnol i gadw'r VPN yn weithredol ac i wella'r cynnyrch dros amser. Rydym hefyd yn olrhain data ymgyrchoedd ac atgyfeirio ar ein ap symudol i helpu Mozilla i ddeall effeithiolrwydd ein hymgyrchoedd marchnata. Darllenwch ragor yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Sut mae fy mhreifatrwydd yn cael ei ddiogelu?
Mae protocol WireGuard® yn amgryptio traffig eich rhwydwaith, gan ddiogelu eich holl ddata preifat. O’i gymharu â phrotocolau VPN presennol, mae cod ysgafn WireGuard yn haws i ddadansoddwyr diogelwch ei adolygu a’i archwilio - gan ei wneud yn opsiwn mwy diogel i’r VPN. Hefyd, mae eich gweithgareddau ar-lein yn aros yn anhysbys oherwydd fyddwn ni byth yn cofnodi, tracio, nac yn rhannu eich data rhwydwaith.
Sut mae Mozilla VPN yn cymharu â'r gystadleuaeth?
Er bod VPN rhad ac am ddim yn ymddangos yn ddeniadol, dydyn nhw ddim yn gwneud yr un ymrwymiadau i breifatrwydd â Mozilla VPN. Does gan yr un VPN taledig arall enw da Mozilla ers dros 20 mlynedd o greu cynnyrch sy'n rhoi'r flaenoriaeth i pobl a phreifatrwydd.
Pa ddyfeisiau y mae Mozilla VPN yn gydnaws â nhw?
Mae Mozilla VPN yn gydnaws â symudol, tabled, a bwrdd gwaith ar :
Beth yw polisi ad-dalu Mozilla VPN?
Y tro cyntaf y byddwch chi'n tanysgrifio i Mozilla VPN trwy wefan Mozilla, byddwch yn gallu diddymu'ch cyfrif o fewn y 30 diwrnod cyntaf, gallwch ofyn am ad-daliad a bydd Mozilla yn ad-dalu'ch cyfnod tanysgrifio cyntaf.
Os ydych chi'n prynu'ch tanysgrifiad trwy'r Apple App Store neu'r storfa Google Play, mae eich taliad yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r App Store. Rhaid i chi gyfeirio unrhyw ymholiadau bilio ac ad-dalu am bryniannau o'r fath i Apple neu Google, fel sy'n briodol.
Sut fydda i'n rheoli fy nhanysgrifiad?
Os ydych chi eisoes wedi tanysgrifio i Mozilla VPN, gallwch newid eich cynllun neu rheoli eich tanysgrifiad ar unrhyw adeg.
Sut mae llwytho Mozilla VPN i lawr pan fyddaf eisoes wedi tanysgrifio?
Ewch i'r dudalen llwytho i osod Mozilla VPN ar eich dyfais, ac yna mewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfrif Firefox Account.