Atodiad Maniffesto Mozilla
Addewid ar Gyfer Rhyngrwyd Iach
Rhyngrwyd byd-eang, agored yw'r adnodd mwyaf pwerus o gyfathrebu a chydweithredu rydym wedi ei weld erioed. Mae'n ymgorffori rhai o'n gobeithion dyfnaf ar gyfer cynnydd dynol. Mae'n galluogi cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu, adeiladu ymdeimlad o ddynoliaeth gyffredin, a datrys y problemau dybryd sy'n wynebu pobl ym mhobman.
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld yr addewid hwn yn cael ei wireddu mewn llawer o ffyrdd. Rydym hefyd wedi gweld grym y rhyngrwyd yn cael ei ddefnyddio i chwyddo rhwygiadau, ysgogi trais, hybu atgasedd, a cham drin ffaith a realiti yn fwriadol. Rydym wedi dysgu y dylwn nodi'n fwy penodol at ein dyheadau ar gyfer y profiad dynol o'r rhyngrwyd. Rydym yn gwneud hynny nawr.
- Rydym yn ymrwymedig i ryngrwyd sy'n cynnwys holl bobloedd y byd — lle nad yw nodweddion demograffig person yn pennu eu mynediad ar-lein, eu cyfleoedd nag ansawdd eu profiad.
- Rydym yn ymroddedig i ryngrwyd sy'n hybu trafodaethau dinesig, urddas pobl a mynegiant unigolion.
- Rydym yn ymroddedig i ryngrwyd sy'n dyrchafu meddwl beirniadol, ymresymu rhesymedig, gwybodaeth wedi ei rannu a ffeithiau dilys.
- Rydym yn ymroddedig i rhyngrwyd sy'n hyrwyddo cydweithio rhwng cymunedau amrywiol yn gweithio gyda'i gilydd er lles cyffredinol.