Modd pori preifat Firefox

Os ydych yn rhannu cyfrifiadur gyda phobl eraill neu os ydych am gyfyngu ar faint o ddata y gall gwefannau ei gasglu amdanoch, gallwch ddefnyddio modd pori preifat yn Firefox. Mae pori preifat yn dileu'r traciau digidol rydych chi'n eu gadael ar ôl pan fyddwch chi'n pori ar-lein - meddyliwch amdanyn nhw fel olion traed trwy'r coed.

Beth mae pori preifat yn ei wneud?

Mae'r modd pori preifat yn agor ffenestr porwr newydd. Pan fyddwch chi'n cau'r ffenestr bori breifat ddiwethaf, bydd eich hanes pori ac unrhyw gwcis tracio o wefannau y gwnaethoch chi ymweld â nhw yn cael eu dileu. Cyngor Firefox : Peidiwch ag anghofio cau eich holl ffenestri pori preifat pan fyddwch wedi gorffen!

Ffenestr porwr Firefox yn y modd pori preifat.

Yr hyn nad yw pori preifat yn ei wneud

Dyw'r modd pori preifat ddim yn dileu unrhyw nodau tudalen newydd fyddwch yn eu creu o ffenestr bori breifat, nac yn eich amddiffyn rhag drwgwar neu firysau. Nid yw ychwaith yn atal y gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw rhag gweld ble rydych chi wedi'ch lleoli'n gorfforol nac yn atal eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd rhag cofnodi'r hyn rydych chi'n ei wneud. Bydd angen VPN dibynadwy arnoch ar gyfer hynny.

Cymharwch bori preifat Firefox â modd incognito Chrome.