Preifatrwydd. Defnyddioldeb. Gwasanaethau.

Cymharu'r saith porwr gorau yn uniongyrchol

Chwilio am well porwr? Rydym yn cymharu Firefox â Chrome, Edge, Safari, Opera, Brave ac Internet Explorer i'ch helpu chi i benderfynu.

Dylai porwr rhyngrwyd rhagorol fod â'r swyddogaethau sydd eu hangen arnoch chi, cludadwyedd ar draws dyfeisiau, a'r preifatrwydd rydych chi'n ei haeddu.

Gan mai eich porwr yw eich porth i'r rhyngrwyd, mae cyflymder, diogelwch, preifatrwydd a defnyddioldeb o'r pwys mwyaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, Google Chrome fu'r porwr blaenaf i lawer. Ond ar adeg pan mae'n ymddangos bod hysbysebion ar-lein yn ein dilyn i bobman ac mae tor-data yn rhan o benawdau newyddion, mae llawer o bobl yn dechrau mynnu mwy o breifatrwydd a pharch gan eu porwr.

Felly ai'ch porwr chi yw'r un gorau ar gyfer yr hyn rydych chi'n ei wneud ar-lein? Gall y porwr cywir wneud gwahaniaeth mawr o ran sut rydych chi'n profi'r we. Felly, heb oedi, gadewch inni gymharu Google Chrome, Firefox, Safari, Opera, Brave, Microsoft Internet Explorer ac Edge - a gweld pa rai sy'n gweddu orau i'ch anghenion.

Diogelwch a Phreifatrwydd

Pa borwr sydd orau am gadw pethau'n gyfrinachol?

Diogelwch a Phreifatrwydd Firefox Chrome Edge Safari Opera Brave Internet Explorer
Modd Pori Preifat Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti Iawn Na Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio Iawn Na Iawn Na Iawn Iawn Na
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol Iawn Na Iawn Iawn Na Iawn Na

Nid yw'n afresymol disgwyl lefel uchel o ddiogelwch data a phreifatrwydd gan y cynnyrch rydym yn eu defnyddio yn rheolaidd i fynd ar-lein. Dylai porwr o leiaf gynnig rhyw fersiwn o “modd pori preifat” sy'n dileu eich hanes a'ch hanes chwilio yn awtomatig fel na all defnyddwyr eraill ar yr un cyfrifiadur gael mynediad iddo. Yn hyn o beth, mae pob un o'r chwe phorwr sy'n cael eu cymharu yma yn sgorio pwyntiau.

Dylai'r hyn rydych yn ei wneud ar-lein ddim fod yn fusnes i unrhyw un arall.

Nodwedd porwr arall a ddylai fod ar gael yw'r gallu i atal gwefannau a chwmnïau rhag tracio'ch data pori a siopa - hyd yn oed yn y modd pori arferol.

Nid yw defnyddio porwr sy'n rhwystro tracwyr trydydd parti yn bwysig ar gyfer preifatrwydd yn unig - mae fel arfer yn golygu ei fod yn rhedeg yn llawer cynt hefyd. Dim ond sgriptiau sy'n rhedeg yn y cefndir ar nifer o wefannau yw'r mwyafrif o dracwyr. Fedrwch chi ddim mo'u gweld, ond gallwch eu teimlo yn arafu eich porwr. O fersiwn 67 o Firefox ymlaen, mae bysbritwyr a chryptogloddwyr hefyd wedi'u rhwystro. Os nad ydych yn gyfarwydd â chryptogloddwyr, dyma enghraifft o sut y gallan nhw effeithio arnoch chi: efallai eich bod wedi profi'ch cyfrifiadur yn sydyn yn rhedeg yn boeth neu'r batri yn disbyddu'n gynt na'r arfer. Yn aml, dyna sgil-effaith cryptogloddwyr yn cropian o amgylch eich dyfais.

Gwasanaethau:

Beth mae eich porwr wedi'i wneud drosoch chi'n ddiweddar?

Gwasanaethau Firefox Chrome Edge Safari Opera Brave Internet Explorer
Yn rhwystro awtochwarae Iawn Na Iawn Na Na Iawn Na
Pori tabiau Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Rheolwr nodau tudalen Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Dewis peiriant chwilio Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Testun i leferydd Iawn Na Iawn Iawn Na Na Iawn
Modd darllen Iawn Iawn Iawn Iawn Na Iawn Iawn
Gwirio sillafu Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Estyniadau gwe/Ychwanegion Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr Iawn Na Iawn Na Iawn Na Na

Yn ogystal â diogelu preifatrwydd, sy'n digwydd i raddau helaeth yng nghefndir y porwr, cynhwysyn allweddol arall i borwr wedi'i wneud yn dda yw'r rhyngwyneb defnyddiwr a'i ymarferoldeb. Mae bron pob un o'r chwe porwr yn gyfartal o ran pori tabiau, rheoli nodau tudalen, cwblhau awtogwblhau, prawf-ddarllen ac estyniadau. Mae Firefox, Edge a Opera hefyd yn cynnig swyddogaeth llun sgrin cyflym sy'n profi i fod yn eithaf defnyddiol ac yn bendant yn rhywbeth rydych chi'n sylwi ei fod ar goll pan fyddwch chi'n newid i borwr hebddo.

Cludadwyedd:

Pa mor dda y mae eich porwr yn gweithio ar draws eich dyfeisiau?

Cludadwyedd Firefox Chrome Edge Safari Opera Brave Internet Explorer
Argaeledd OS Iawn Iawn Iawn Na Iawn Iawn Na
Argaeledd OS symudol Iawn Iawn Iawn Na Iawn Iawn Na
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Na
Rheoli cyfrineiriau Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Prif gyfrinair Iawn Na Iawn Na Iawn Na Na

Y peth cyntaf i dynnu sylw ato am gludadwyedd yw nad yw pob porwr yn rhedeg ar bob system weithredu. Tra bod Firefox, Chrome, Edge, Brave ac Opera yn gweithio ar bob system fawr ac yn hawdd eu gosod, dim ond ar systemau Microsoft ac Apple eu hunain y mae Internet Explorer a Safari yn gweithio. Mae fersiwn symudol Safari wedi’i gosod ymlaen llaw ar ddyfeisiau symudol Apple, ac mae’r mwyafrif o ddyfeisiau Android yn dod gyda porwr wedi’i osod ymlaen llaw, wedi’i addasu gan y gwneuthurwr ar gyfer y ddyfais. Mae'n hawdd gosod Firefox, Chrome, Edge, Edge ac Opera a hyd yn oed eu defnyddio ochr yn ochr a'i gilydd.

Mae bron pob un o'r porwyr sy'n cael eu cymharu yma yn caniatáu cydweddu rhwng dyfeisiau bwrdd gwaith a symudol. Bydd angen cyfrif arnoch i wneud hynny a'i ddefnyddio i fewngofnodi i'r porwr ar bob dyfais a chydweddu pethau fel cyfrineiriau, hanes pori, nodau tudalen a gosodiadau.

Casgliadau:

A'r enillydd yw…

Yn seiliedig ar y meini prawf a amlinellwyd gennym - preifatrwydd, gwasanaethau, a chludadwyedd - dim ond un porwr sy'n cyrraedd y brig, a Firefox yw hwnnw. Nid ymarferoldeb sy'n eu gwahaniaeth ond preifatrwydd. Firefox yw'r porwr mwyaf preifat sydd ddim yn eich cloi i mewn i ecosystem. Gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw system weithredu, ar eich holl ddyfeisiau, a theimlo'n ddiogel wrth wneud hynny.

Mae porwyr wedi dod yn bell ers cyflwyno Chrome gan gymryd cyfran sylweddol o'r farchnad. Mae'r rhan fwyaf o'r porwyr modern wedi cau'r bwlch ar gludadwyedd ac ymarferoldeb, ac mewn rhai meysydd, fel cyflymder a phreifatrwydd, maen nhw wedi rhagori ar Chrome mewn gwirionedd. Er hynny, bydd penderfynu pa borwr sy'n iawn i chi bob amser yn dibynnu ar eich anghenion unigol a'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf wrth i chi lywio ar-lein.

Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) | Chrome (85) | Edge (85) | Safari (14) | Opera (67) | Internet Explorer (11) | Brave (1.14.81)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.

Mae Firefox yn cael ei gefnogi gan Mozilla, sy'n gorff nid-er-elw.

Mae Firefox yn gosod eich preifatrwydd yn gyntaf - ym mhopeth a wnawn. Credwn fod gennych chi'r hawl i benderfynu sut a gyda phwy rydych chi'n rhannu eich data personol. Mae Firefox yn casglu cyn lleied o ddata â phosib a fyddwn ni byth yn ei werthu. Dim ond i wneud cynnyrch a nodweddion gwell y byddwn yn defnyddio'r yr ychydig ddata rydym yn ei gasglu. Dim cyfrinachau. Ond llawer o dryloywder a phreifatrwydd go iawn.