“Iechyd y rhyngrwyd a bywyd ar-lein yw pam rydyn ni’n bodoli.”
Mitchell Baker, Prif Swyddog Gweithredol Mozilla
Mae Mozilla yn creu cynnyrch sy'n parchu preifatrwydd
-
Pori preifat a diogel
-
Erthyglau mwyaf diddorol y we
-
Arallenwau e-bost a rhifau ffôn cudd hawdd eu defnyddio
-
VPN y gallwch ymddiried ynddo
“Mae Mozilla yn hyderus bod modd dangos i’r byd bod modd gwneud busnes gydag AI dibynadwy. Mae hynny’n cynnwys rhoi pethau fel hawliau dynol, diogelu data a thryloywder wrth wraidd y ffordd y mae’r systemau cymhleth hyn yn gweithio.”
Gwleidyddiaeth

A yw Mozilla yn gorfforaeth neu'n gorff dim-er-elw? Y gwir yw, y ddau.
Mae Mozilla yn cynnwys dau sefydliad. Mae'r Mozilla Corporation yn eiddo'n gyfan gwbl i'r corff dim-er-elw 501(c) Mozilla Foundation. Mae hyn yn golygu nad ydym yn ddyledus i unrhyw gyfranddalwyr - dim ond i'n cenhadaeth.
Rhagor am y Mozilla Foundation
Ymunwch â'r frwydr dros rhyngrwyd iach
Eich llais. Eich cod. Eich syniadau. Mae yna filoedd o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu at Mozilla.
Gwirfoddoli gyda MozillaYr un tro i ni roi ein cod ffynhonnell i ffwrdd…
Sefydlwyd project Mozilla yn San Francisco yn 1998, pan wnaeth porwr Netscape y penderfyniad radical i roi cod ei raglen i'r cyhoedd i adeiladu arno a'i wella. Bryd hynny, roedd gan un cwmni fonopoli llawn ar brofiad pobl o'r rhyngrwyd.
Yn y pen draw, trawsnewidiodd project cod agored Mozilla i'r fersiwn gyntaf hynod boblogaidd o Firefox.
Heddiw, mae Mozilla yn parhau â'i symudiad tuag at well rhyngrwyd gyda miliynau o aelodau gweithgar o'r gymuned ar draws y byd, gan eiriol dros dechnoleg foesegol, AI dibynadwy ac yn cynhyrchu cynnyrch sy'n blaenori preifatrwydd ac yn rhoi mwy o bŵer i'r bobl.