Dewiswch liwiau yn Firefox gyda'r teclyn dewisydd lliw

Mae yna lawer o resymau y gallech chi fod eisiau gwybod union god lliw hecs lliw penodol ar dudalen we - efallai eich bod chi'n adeiladu tudalennau gwe neu'n ddylunydd graffig. Mae'r teclyn dewis lliwiau, yn y fersiwn bwrdd gwaith o Firefox, yn gadael i chi ddod o hyd i godau lliw hecs penodol dim ond trwy hofran dros unrhyw liw a welwch ar dudalen we. Bydd clic yn copïo'r gwerth lliw hwnnw i'ch clipfwrdd.

Ciplun o'r teclyn dewis lliwiau yn Firefox yn dangos gwerth lliw hecsadegol un picsel ar dudalen we.

Gallwch ddod o hyd i'r dewisydd lliwiau o dan “Offer Porwr” yn y ddewislen Offer neu o dan “Rhagor o Offer” yn newislen bar offer Firefox (ar ben draw bar offer Firefox).