Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mae Firefox yn rhwystro bysbrintio

Beth yw bysbrintio?

Mae bysbrintio'n fath o dracio ar-lein sy'n fwy ymledol na thracio cyffredin sy'n seiliedig ar gwcis. Mae bysbrint digidol yn cael ei greu pan fydd cwmni'n gwneud proffil unigryw ohonoch yn seiliedig ar galedwedd eich cyfrifiadur, meddalwedd, ychwanegion, a hyd yn oed eich dewisiadau. Mae modd defnyddio'ch gosodiadau fel y sgrin rydych chi'n ei defnyddio, y ffontiau sydd wedi'u gosod ar eich cyfrifiadur, a hyd yn oed eich dewis o borwr gwe i greu eich ôl bys.

Os oes gennych liniadur, cyfrifiadur personol neu ffôn clyfar sy'n weddol gyffredin, gall fod yn anoddach adnabod eich dyfais fel un unigryw trwy eich bysbrint. Fodd bynnag, po fwyaf o ychwanegion, ffontiau a gosodiadau unigryw sydd gennych, yr hawsaf y byddwch eich canfod. Gall cwmnïau ddefnyddio'r cyfuniad unigryw hwn o wybodaeth i greu eich bysbrint. Dyna pam mae Firefox yn rhwystro bysbrintwyr hysbys, felly gallwch barhau i ddefnyddio'ch hoff estyniadau, themâu a chyfaddasiadau heb i hysbysebion eich dilyn.

Mae bysbrintio'n ddrwg i'r we

Mae'r arfer o bysbrintio yn caniatáu i chi gael eich tracio am fisoedd, hyd yn oed pan fyddwch yn clirio storfa eich porwr neu'n defnyddio dull pori preifat - yn anwybyddu arwyddion clir gennych nad ydych chi eisiau cael eich tracio. Er gwaethaf cytundeb bron yn llwyr ymysg cyrff safonau a gwerthwyr porwr bod bysbrintio'n niweidiol, mae ei ddefnydd ar y we wedi cynyddu yn gyson yn ystod y ddegawd diwethaf.

Mae Firefox yn rhwystro bysbrintio

Mae'r porwr Firefox diweddaraf yn eich diogelu rhag bysbrintio trwy rwystro ceisiadau trydydd parti i gwmnïau y mae'n hysbys eu bod yn cymryd rhan mewn bysbrintio. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i alluogi'r amddiffyniad preifatrwydd hwn heb dorri'r gwefannau rydych chi'n mwynhau ymweld â nhw. (Darllenwch ragor yma, os ydych chi eisiau'r manylion technegol .)

Ac nid yw'n osodiad dwfn y mae angen i chi balu iddo. Yn y porwr Firefox diweddaraf, rhwystro rhag bysbritwyr yw'r gosodiad safonol, ragosodedig. Ewch i'ch Bwrdd Gwaith Diogelwch i weld sut rydych chi'n cael eich tracio y tu ôl i'r llenni a sut mae Firefox yn ei atal.

Mae'n debyg na fyddech chi'n gwerthfawrogi rhywun yn tracio'ch symudiadau mewn bywyd go iawn. Nid oes unrhyw reswm i'w dderbyn ar-lein. Os nad oes gennych Firefox eisoes, cofiwch ei lwytho i lawr a diogelu eich hun rhag bysbrintio digidol.