A yw Firefox yn borwr preifat?

Ydy. Mae Firefox yn diogelu eich preifatrwydd gyda nodweddion megis Pori Preifat. Mae'n caniatáu i chi gadw'ch hanes pori a'ch cyfrineiriau'n breifat, hyd yn oed pan fyddwch chi'n defnyddio dyfais rydych chi'n ei rhannu â phobl eraill, fel cyfrifiadur cartref neu iPad.

Mae Firefox hefyd yn diogelu eich preifatrwydd gyda Diogelwch Uwch Rhag Tracio i rwystro tracwyr sy'n eich dilyn o wefan i wefan, gan gasglu gwybodaeth am eich arferion pori. Mae hefyd yn cynnwys diogelwch rhag sgriptiau niweidiol a drwgwar.

Cofiwch: Dydyn ni ddim yn un o'r cwmniau technoleg mawr. Rydyn ni'n gwneud pethau'n wahanol. Mae bod yn annibynnol (dim cyfranddalwyr) yn caniatáu i ni roi pobl yn gyntaf, cyn elw. Yn wahanol i gwmnïau eraill, dydyn ni ddim yn gwerthu mynediad i'ch data.

Pa wybodaeth mae Firefox yn ei chasglu?

Mae Mozilla (gwneuthurwr Firefox) yn cymryd preifatrwydd o ddifrif. Wir o ddifrif. Yn wir, mae pob cynnyrch Firefox a wnawn yn cadw'n Addewid Data Personol: Cymryd llai. Cadw'n ddiogel. Dim cyfrinachau.

Darllenwch Hysbysiad PreifatrwyddFirefox am ragor o wybodaeth. O ddifrif, edrychwch arno. Mae mewn ffont maint arferol a phopeth.