Firefox Browser

Mynd i'ch llefydd pwysig yn gynt ar eich iPhone ac iPad

Gweld eich holl dabiau agored, chwilio diweddar a'ch hoff wefannau i gyd mewn un lle gyda phorwr Firefox Browser iOS.

Llwythwch i lawr o'r App Store

Cael Firefox iOS

Sganiwch y cod QR i gychwyn

Sganiwch y cod QR i gael Firefox ar iOS

Gwnewch Firefox eich porwr ragosodedig

Nawr gall defnyddwyr iPhone a iPad ddewis eu porwr rhagosodedig eu hunain. Mae hynny'n golygu nad ydych yn gaeth i ddefnyddio Safari, a gall eich porwr symudol barhau i fod wedi'i gydweddu â'ch hoff borwr bwrdd gwaith. Hefyd, pan fyddwch chi'n gosod Firefox fel eich porwr rhagosodedig, rydych chi'n cefnogi cwmni technoleg annibynnol. Firefox hefyd yw'r unig borwr mawr gyda chefnogaeth corff dim-er-elw.

Cyflym. Preifat. Diogel

Cadwch yr hyn sy'n bersonol yn breifat heb aberthu cyflymder mawr. Hefyd, mae nodweddion pori clyfar yn rhoi'r pŵer i chi fynd â'ch preifatrwydd, cyfrineiriau a nodau tudalen gyda chi yn ddiogel i le bynnag yr ewch, gan wneud eich bywyd ar-lein yn haws.

Cadwch yn breifat ar-lein

Mae Firefox yn rhoi mwy o ddiogelwch preifatrwydd i chi tra'ch bod chi ar y we. Fel rhagosodiad, mae ein Diogelwch Uwch rhag Tracio yn rhwystro tracwyr a sgriptiau fel tracwyr cyfryngau cymdeithasol, tracwyr cwcis traws-safle. Mae Firefox yn rhoi mwy o ddiogelwch preifatrwydd i chi tra'ch bod chi ar y we. Fel rhagosodiad, mae ein Diogelwch Uwch rhag Tracio yn rhwystro tracwyr a sgriptiau fel tracwyr cyfryngau cymdeithasol, tracwyr cwcis traws-safle, cryptogloddwyr a bysell brintwyr.

Hanes yw eich hanes pori

Os hoffech chi, mae'n hawdd dewis mynd ar-lein a chwilio yn y modd pori preifat. A phan fyddwch yn cau'r modd pori preifat, caiff eich hanes pori ac unrhyw gwcis eu dileu o'ch dyfais yn awtomatig.

Cael mwy o Firefox yn eich bywyd

Ychwanegwch Firefox ar draws eich dyfeisiau ar gyfer pori diogel, di-dor. Cydweddwch eich dyfeisiau i fynd â'ch hoff nodau tudalen, mewngofnodi wedi'u cadw, cyfrineiriau a hanes pori i ble bynnag yr ewch chi. Hefyd, anfonwch dabiau agored o'ch ffôn i'ch bwrdd gwaith i barhau'r hyn roeddech yn ei wneud.

Canfod popeth yn gynt

Cael awgrymiadau chwilio yn y bar chwilio a chael mynediad i wefannau rydych yn ymweld â nhw amlaf, yn gyflym. Teipiwch eich cwestiwn chwilio, a chael canlyniadau a awgrymwyd ac a chwiliwyd yn flaenorol ar draws eich hoff beiriannau chwilio.

Creu eich sgrin eich hun

Mynd i'ch hoff rannau o'r rhyngrwyd yn gynt. Dewiswch weld eich holl dabiau agored, chwilio diweddar, nodau tudalen a'ch hoff wefannau i gyd mewn un lle.

Darganfyddwch fwy o'r hyn rydych chi'n ei hoffi

Agorwch dab newydd yn Firefox i weld y gwefannau rydych yn ymweld â nhw fwyaf, eich nodau tudalen diweddar a'ch erthyglau poblogaidd yn Pocket. Mae Firefox yn rhoi mynediad cyflym i chi i'ch gwefannau a ddefnyddiwyd yn fwyaf diweddar i'ch helpu chi i gyrraedd lle rydych yn mynd yn gyflymach.

Ynghylch Mozilla

Mae Mozilla yn bodoli i adeiladu'r Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus sy'n hygyrch i bawb am ein bod yn credu fod agored ac am ddim yn well na caeedig a rheoledig. Rydym yn adeiladu cynnyrch fel Firefox a Pocket i hyrwyddo dewis, tryloywder a rheolaeth.