Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Rheolwr cyfrinair am ddim

Mae Firefox yn storio'ch enwau defnyddwyr a'ch cyfrineiriau ar gyfer mynd i wefannau'n ddiogel, yn eu llenwi'n awtomatig i chi y tro nesaf y byddwch yn ymweld â gwefan, ac yn gadael i chi reoli'ch mewngofnodion wedi'u cadw gyda'i nodwedd rheoli cyfrinair mewnol.

Gyda chyfrif am ddim Cyfrif Mozilla gallwch gydweddu'ch cyfrineiriau'n ddiogel ar draws eich holl ddyfeisiau. Gallwch hefyd gael mynediad at holl gynnyrch eraill Mozilla sy'n parchu'ch preifatrwydd.

Awtolenwi cyfrinair ar gyfer mewngofnodi hawdd

Gall Firefox lenwi eich enw defnyddiwr a chyfrinair wedi'u cadw yn awtomatig. Os oes gennych fwy nag un mewngofnod ar gyfer gwefan, gallwch ddewis y cyfrif rydych ei eisiau a byddwn yn ei ddefnyddio o hynny ymlaen.

Delwedd o ffurflen mewngofnodi gwefan gyda Firefox yn dangos sawl cyfrif sydd wedi'u cadw i gael dewis un wrth fewngofnodi.

Mewnforio cyfrineiriau

Gallwch ddefnyddio'r dewin mewnforio i fewnforio'n rhwydd (bron yn hudol) enwau defnyddwyr a chyfrineiriau sydd wedi'u cadw ar Chrome, Edge, Safari neu unrhyw borwyr eraill. Dewiswch Cyfrineiriau o'r ddewislen, ac yna cliciwch ar “mewnforio i mewn i Firefox” ar waelod y dudalen Mewngofnodi a Chyfrineiriau.

Delwedd o ddeialog dewin mewnforio Firefox, yn dangos y dewisiadau i fewnforio gosodiadau a data o borwyr eraill.

Dim mwy o ailddefnyddio'ch cyfrineiriau

Cael Firefox i greu cyfrinair cryf, unigryw ar gyfer pob mewngofnod sydd gennych ar draws y we — fel hyn, os caiff un o'ch cyfrineiriau ei hacio oherwydd tor diogelwch, dim ond un cyfrif y bydd yn effeithio arno, ac nid y cyfrifon eraill hefyd.

Delwedd o ffurflen gofrestru gwefan gyda Firefox yn cynnig cyfrinair cryf y bydd yn ei gadw'n awtomatig i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

Rhybuddion diogelwch cyfrinair

Mae Firefox yn eich rhybuddio os yw cyfrinair wedi'i ddatgelu mewn tor-data fel y gallwch ei newid cyn i hacwyr gael cyfle i wneud rhywbeth fel rhentu Lambo gyda'ch cerdyn credyd.

Delwedd o reolwr cyfrinair Firefox yn dangos neges rhybudd sy'n dweud “Mae'r cyfrinair hwn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfrif arall a oedd yn debygol o fod yn rhan o dor-data. Mae ailddefnyddio manylion adnabod yn peryglu eich holl gyfrifon. Newidiwch y cyfrinair hwn.