Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cymharu Firefox Browser a Google Chrome

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Yn 2008, cyflwynodd Google y porwr Chrome, a chafod effaith uniongyrchol ar arloesedd mewn technoleg porwyr. Roedd yn gynt yn llwytho gwefannau, yn cymryd ychydig iawn o le ar y sgrin ac yn cynnig rhyngwyneb defnyddiwr syml.

Erbyn heddiw, mae tirwedd gystadleuol porwyr wedi newid gyda llawer o bobl yn dechrau cwestiynu beth sy'n digwydd i'w data ar-lein: hanes pori, cyfrineiriau, a manylion sensitif arall. Mae llawer wedi newid ers 2008 pan ddaeth Chrome i'r golwg. Yn Firefox, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ail-ddylunio ein rhyngwyneb a darparu nifer cynyddol o welliannau preifatrwydd a pherfformiad sy'n awtomatig trwy rhagosodiad i ddefnyddwyr ynghyd â digon o offer defnyddiol ynghyd â'r porwr.

Ac felly dyma ni, mae'r rhyfeloedd porwyr yn cynyddu unwaith eto ac mae'n bryd ail-werthuso a chymharu Firefox Browser yn erbyn Google Chrome

Diogelwch a Phreifatrwydd

Diogelwch a Phreifatrwydd Firefox Chrome
Modd Pori Preifat Iawn Iawn
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti Iawn Na
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio Iawn Na
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol Iawn Na

Mae gan Firefox nifer sylweddol iawn o ddefnyddwyr ymroddedig sy'n gwerthfawrogi ein hymroddiad cadarn i breifatrwydd ar-lein. Er enghraifft, mae'r fersiwn ddiweddaraf o Firefox yn cynnwys nodwedd o'r enw Diogelu Tracio Uwch (ETP) sy'n cael ei droi ymlaen fel rhagymosodiad ar gyfer pob defnyddiwr drwy'r byd i gyd. Mae ETP yn rhwystro dros 2,000 o dracwyr, gan gynnwys tracwyr cymdeithasol gan gwmnïau fel Facebook, Twitter, a LinkedIn. Mae ganddo hefyd nodwedd integredig o'r enw Firefox Monitor sy'n eich hysbysu'n awtomatig a yw'ch cyfrinair wedi'i dorri neu a oes angen ei ddiweddaru. Yn ychwanegol at y diogelwch yma, mae modd Pori Preifat Firefox yn dileu eich manylion pori, fel hanes a chwcis yn awtomatig, heb adael unrhyw ôl ar ôl i chi orffen eich sesiwn.

Rydym hefyd wedi ailddatgan yn ddiweddar ein hymrwymiad i breifatrwydd a thryloywder o ran data defnyddwyr yn ein Hysbysiad Preifatrwydd diweddaraf sy'n nodi, “Yn Mozilla, credwn fod preifatrwydd yn hanfodol i rhyngrwyd iach.”

Porwr diogel yw Google Chrome yn ôl y sôn, gyda nodweddion fel Google Safe Browsing, sy'n helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddangos rhybudd amhosibl ei anwybyddu pan fyddan nhw'n ceisio mynd i wefannau peryglus neu lwytho ffeiliau peryglus i lawr.

Mewn gwirionedd, mae gan Chrome a Firefox ddiogelwch trylwyr ar waith. Mae'r ddau yn cynnwys peth o'r enw “bocs tywod” sy'n gwahanu prosesau'r porwr felly nid yw rhywbeth fel gwefan niweidiol yn heintio rhannau eraill o'ch gliniadur neu ddyfais arall.

Er bod Chrome yn profi i fod yn borwr gwe diogel, mae ei gofnod preifatrwydd yn amheus. Mae Google mewn gwirionedd yn casglu llawer iawn o ddata gan ei ddefnyddwyr gan gynnwys lleoliad, hanes chwilio ac ymweliadau â gwefannau. Mae Google yn cyflwyno ei achos dros gasglu data gan ddweud ei fod yn ei wneud i wella ei wasanaethau - fel eich helpu chi i ddod o hyd i siwmper neu siop goffi fel yr un y gwnaethoch chi ei phrynu neu ymweld â hi o'r blaen. Fodd bynnag, gall eraill anghytuno, gan wneud y pwynt bod Google mewn gwirionedd yn casglu swm digynsail o ddata at ei ddibenion marchnata ei hun. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n cadw'ch manylion yn breifat rhag hacwyr, ond mae hynny'n amherthnasol. Mae Google ei hun yn rhedeg rhwydwaith hysbysebu fwyaf y byd, diolch i raddau helaeth i'r data maen nhw'n ei gynaeafu gan eu defnyddwyr.

Yn y pen draw, mater i chi yw penderfynu a ddylid gosod terfyn ar rannu pethau fel eich hanes chwilio a'ch hanes siopa ai peidio. Ond fel y mwyafrif o bobl, bosib eich bod wedi chwilio am rai pethau ar y rhyngrwyd y byddai'n well gennych eu cadw'n breifat.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Gwasanaethau:

Gwasanaethau Firefox Chrome
Yn rhwystro awtochwarae Iawn Na
Pori tabiau Iawn Iawn
Rheolwr nodau tudalen Iawn Iawn
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig Iawn Iawn
Dewis peiriant chwilio Iawn Iawn
Testun i leferydd Iawn Na
Modd darllen Iawn Iawn
Gwirio sillafu Iawn Iawn
Estyniadau gwe/Ychwanegion Iawn Iawn
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr Iawn Na

O ran nodweddion, mae Firefox a Chrome yn cynnig casgliadau mawr o estyniadau ac ychwanegion, gyda chatalog Chrome yn fwy o lawer nag unrhyw borwr arall tra'n integreiddio'n hwylus â gwasanaethau Google eraill, fel Gmail a Google Docs.

Er nad yw mor helaeth â chasgliad ychwanegion Chrome, mae Firefox, fel meddalwedd cod agored yn cynnwys nifer fawr o gyfranwyr egniol, hefyd yn cynnwys nifer sylweddol iawn o estyniadau defnyddiol.

Mae gan Firefox hefyd nodwedd cydweddu er mwyn gweld eich tabiau agored a diweddar, hanes pori, a nodau tudalen ar draws eich holl ddyfeisiau.

Tra bod Chrome ar y blaen gydag ychwanegion ac estyniadau, mae gan Firefox set o nodweddion mewnol wedi'u curadu'n effeithiol, fel yr teclyn cipio sgrin hynod ddefnyddiol, a'r nodwedd modd darllen sy'n dileu popeth o'r dudalen ac eithrio'r testun o'r erthygl, rydych yn ei darllen.

Os yw cael llwyth o dabiau ar agor yn bwysig i chi, yna mae'n dibynnu ar eich dewis rhyngwyneb mewn gwirionedd. Mae Firefox yn cynnwys sgrôl lorweddol ar eich holl dabiau agored yn hytrach na'u crebachu yn llai ac yn llai gyda phob un newydd. Mae'n well gan Google Chrome eu crebachu felly dim ond y favicon sy'n weladwy. Yr unig broblem gyda hyn yw pan fydd gennych chi dabiau lluosog ar agor o'r un wefan, felly rydych yn gweld yr un favicon ar draws eich holl dabiau.

Gyda chyfaddasu, bydd ein cefnogwyr yn dweud wrthych un o'r pethau maen nhw'n eu hoffi fwyaf am ein porwr yw ei allu i ganiatáu i chi symud a threfnu mwyafrif o'r elfennau rhyngwyneb i weddu orau i'ch anghenion. Mae Chrome yn caniatáu i chi guddio rhai elfennau o'r rhyngwyneb ond nid oes llawer o allu, os o gwbl, i symud pethau o gwmpas yn ôl eich dewis chi. Fodd bynnag, rhaid nodi bod Chrome a Firefox yn ei gwneud hi'n eithaf hawdd newid golwg a thema eich porwr.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Cludadwyedd:

Cludadwyedd Firefox Chrome
Argaeledd OS Iawn Iawn
Argaeledd OS symudol Iawn Iawn
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol Iawn Iawn
Rheoli cyfrineiriau Iawn Iawn
Prif gyfrinair Iawn Na

Does dim angen dweud, ond mae fersiynau o Firefox a Chrome ar gael ar gyfer y systemau gweithredu bwrdd gwaith a symudol mwyaf poblogaidd (Windows, macOS, Linux, Android, iOS).

Mae Chrome a Firefox hefyd yn caniatáu i chi gydweddu pethau fel cyfrineiriau, nodau tudalen, ac agor tabiau ar draws eich holl ddyfeisiau. Mae gan Firefox y diogelwch ychwanegol o brif gyfrinair sy'n cadw'r holl mewngofnodion a chyfrineiriau o dan glo ychwanegol. Os oes gennych gyfrif Firefox, gallwch chi eich hun anfon tab agored ar eich bwrdd gwaith i'ch dyfais symudol neu i'r gwrthwyneb. Gyda Chrome, mae'n cael ei wneud yn awtomatig os ydych wedi dewis y gosodiad hwnnw yn eich dewisiadau. Mae peidio â gorfod anfon y tab â llaw o un ddyfais i'r llall yn gyfleus pan fyddwch eisiau gwneud rhywbeth fel parhau i ddarllen erthygl na wnaethoch chi ei gorffen yn gynharach. Ond gall fod adegau pan nad yw cydweddu awtomatig yn ddelfrydol os oes siawns bod sawl defnyddiwr arall yn pori ar ôl mewngofnodi i'ch cyfrif Google chi.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Asesiad Cyffredinol

Rydyn ni'n credu ei bod hi'n deg dweud bod Firefox a Chrome yn gyfartal o ran hygludedd a defnyddioldeb, gyda Chrome bach ar bach y blaen o ran gwasanaethau oherwydd ei gasgliad enfawr o estyniadau a nodweddion ei ychwanegion. Ond o ran Preifatrwydd, mae Firefox yn amlwg yn ennill, gyda’n hymrwymiad i warchod data ar-lein ein defnyddwyr ac yn darparu gwasanaethau am ddim fel rheolwyr cyfrineiriau sydd hefyd yn eich rhybuddio os bydd tor-data yn digwydd i’ch manylion chi.

At ddibenion ymarferol, yn amlwg does dim byd yn eich atal rhag defnyddio'r ddau borwr - Firefox ar gyfer yr eiliadau hynny mewn bywyd pan mae preifatrwydd yn wirioneddol bwysig, a Chrome os ydych chi dal wedi buddsoddi yn ecosystem Google. Ac eto, gyda'r nifer cynyddol o ymyriadau i'n data personol, efallai y bydd Firefox yn ddewis gwell yn y tymor hir i'r rhai ohonom sy'n gwerthfawrogi diogelu ein preifatrwydd personol ar-lein.

Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) | Chrome (85)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.