Firefox Browser ac Opera yw dau o'r porwyr cynharaf yn y byd technoleg ar-lein sy'n dal i ryddhau diweddariadau'n aml. Er nad yw Opera wedi cyrraedd yr un lefel o fabwysiadu defnyddwyr â Firefox neu Google Chrome, mae wedi cynnal sylfaen gymharol sefydlog a ffyddlon dros gyfnod hir. Yn yr adolygiad hwn, byddwn yn cymharu'r porwr Opera â'n porwr Firefox o ran diogelwch a phreifatrwydd, gwasanaethau, a hygludedd i'ch helpu i ddewis pa borwr sydd orau ar eich cyfer.

Diogelwch a Phreifatrwydd
Diogelwch a Phreifatrwydd | ![]() |
|
---|---|---|
Modd Pori Preifat | ||
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti | ||
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio | ||
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol |
Nid yw polisi preifatrwydd Opera yn benodol iawn wrth esbonio pa fathau o wybodaeth y mae'n eu casglu a sut. Mewn rhai adrannau, mae'n dweud eu bod yn casglu enwau deiliaid cyfrifon, cyfeiriadau IP a thermau chwilio. Yr hyn sy'n ymddangos yn ddryslyd ac yn ofidus yw'r adran am drosglwyddo data Rhyngwladol; nid yw'n cael ei esbonio pryd, pa mor aml a pham y mae angen iddyn nhw drosglwyddo'ch data yn rhyngwladol.
Mae polisi preifatrwydd Firefox yn dryloyw iawn wrth ddisgrifio pa fanylion personol rydyn ni’n eu casglu gyda’r unig nod yn y pen draw yw rhoi mwy o reolaeth i chi dros y wybodaeth rydych chi'n ei rhannu ar-lein.
Mewn perthynas â diogelu preifatrwydd gwirioneddol yn y porwr Opera, mae'n cynnig modd Preifat cadarn sy'n eich galluogi i syrffio'r we heb i'r porwr dracio'ch gweithgaredd. Hefyd, yn y modd pori arferol, gallwch ddiffodd rhai nodweddion casglu data trwy fynd i'r gosodiadau i alluogi'r rhwystrydd hysbysebion ac addasu nodweddion diogelwch eraill.
Gyda'r fersiwn ddiweddaraf o Firefox, mae Diogelu rhag Tracio Uwch yn cael ei droi ymlaen fel rhagosodiad yn y modd pori arferol, felly does dim rhaid i chi chwarae o gwmpas gyda'r gosodiadau er mwyn diogelu eich hun rhag tracwyr . Gyda Diogelu rhag Tracio Uwch, mae Firefox yn rhwystro miloedd o dracwyr trydydd parti sy'n ceisio'ch dilyn o amgylch y we. Mae adroddiad diogelu wedi'i bersonoli i chi yn dangos pa mor aml y gwnaeth Firefox rwystro cwcis trydydd parti, tracwyr cyfryngau cymdeithasol, offer bysbrintwyr a chryptogloddwyr wrth i chi bori'r we.
Rydyn ni'n darparu Firefox i bobl fel chi, sy'n poeni'n fawr am breifatrwydd a diogelwch personol. Dyna pam rydyn ni'n casglu cyn lleied o wybodaeth am ddefnyddwyr ac yn dryloyw ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'r data hwnnw. Mae'n anodd gwybod sut mae Opera yn gweithredu o safbwynt preifatrwydd. Er bod nodweddion preifatrwydd cadarn, mae'r ffordd y maen nhw eu hunain yn casglu ac yn rhannu eich data yn aneglur. Mae Firefox yn parhau i fod yn gyson yn yr hyn a ddywedwn a'r hyn a wnawn wrth ddiogelu eich preifatrwydd.
Gwasanaethau:
Gwasanaethau | ![]() |
|
---|---|---|
Yn rhwystro awtochwarae | ||
Pori tabiau | ||
Rheolwr nodau tudalen | ||
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig | ||
Dewis peiriant chwilio | ||
Testun i leferydd | ||
Modd darllen | ||
Gwirio sillafu | ||
Estyniadau gwe/Ychwanegion | ||
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr |
Does dim dadl bod Opera yn borwr llawn nodweddion gyda rhyngwyneb defnyddiwr glân ac opsiynau cyfaddasu cryf. Oherwydd bod Opera wedi’i adeiladu ar Chromium, gall fanteisio ar y rhan fwyaf o gasgliad estyniadau helaeth Google Chrome. Mae Firefox hefyd yn cynnwys casgliad ychwanegion mawr, ond ddim mor fawr ag un Chrome.
Fel Firefox, mae Opera yn cyflwyno profiad tab sgrolio, sy'n golygu pan fyddwch chi'n agor mwy o dabiau nag sy'n ffitio ar y sgrin, mae'n eu sgrolio oddi ar y sgrin yn lle eu lleihau yn barhaus. Hefyd mae gan Firefox ac Opera offeryn llun sgrin sy'n caniatáu i chi ddal cipolwg ar eich sgrin neu ran o'r dudalen. Fodd bynnag, nid yw'r teclyn yn Opera yn rhoi'r gallu i chi greu un cipiad enfawr o'r dudalen we gyfan, dim ond y gyfran weladwy.
Mae Opera yn darparu llawer o wasanaethau cudd o fewn ei ryngwyneb syml a hydrin. Er enghraifft, mae cymorth fewnol ar gyfer apiau negeseuon, fel Facebook Messenger. Mae yna hefyd ddarllenydd newyddion sy'n crynhoi erthyglau o'ch dewis chi o wefannau siopau a newyddion. Enw'r nodwedd tebyg i hyn ar Firefox yw Pocket. Mae Pocket yn wasanaeth rhad ac am ddim i ddeiliaid cyfrifon Firefox sy'n ei gwneud yn hawdd i ddod o hyd i erthyglau a fideos diddorol o bob rhan o'r we. Yn ogystal, mae'n argymell amrywiaeth o erthyglau sy'n ehangu eich sylfaen wybodaeth wedi'i churadu gan fodau dynol go iawn, ystyriol.
O ran cymharu gwasanaethau, mae Opera a Firefox yn gystadleuwyr agos. Efallai bod gan Opera fantais mewn un agwedd gyda’i gydnawsedd â chasgliad estyniadau enfawr Chrome a’i fynediad iddo. Ond un ffactor arwyddocaol i'w ystyried yw'r ffaith bod Opera, oherwydd ei fod wedi'i adeiladu ar Chromium, yn borwr sy'n drwm ar y proseswr gyda'i ddefnydd RAM yn debyg i Chrome, sy'n adnabyddus am ei ddefnydd uchel o'r CPU.
Cludadwyedd:
Cludadwyedd | ![]() |
|
---|---|---|
Argaeledd OS | ||
Argaeledd OS symudol | ||
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol | ||
Rheoli cyfrineiriau | ||
Prif gyfrinair |
Mae Firefox ac Opera yn gydnaws ar draws pob platfform gan gynnwys Windows, macOS, Linux, Android ac iOS. Gall deiliaid cyfrifon Firefox gydweddu eu nodau tudalen, eu cyfrineiriau, eu tabiau agored, a'u hanes pori ar draws eu holl ddyfeisiau sydd wedi'u mewngofnodi. Mae'r un peth yn wir am ddefnyddwyr Opera sydd â chyfrif. Fodd bynnag, mae llawer o wefannau, yn enwedig hen wefannau na chawsant eu diweddaru ers blynyddoedd, yn rhwystro fersiwn ddiweddaraf Opera yn llwyr. Felly os yw ymweld â lleoedd fel hen flogiau'n bwysig, gwyliwch, efallai na fyddwch yn gallu gael mynediad at rhai o gorneli llychlyd y rhyngrwyd os ydych chi'n defnyddio Opera.
Yn ogystal â'r ap symudol arferol, mae gan Opera ddau fersiwn symudol arall o'i borwr: Touch and Mini. Mae Touch yn ysgafn ar nodweddion ond mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio wrth fynd gydag un llaw yn unig. Nod y fersiwn Mini yw gostwng y defnydd o ddata a chyflymder uwch ar gysylltiadau araf trwy israddio delweddau a dileu cynnwys. Rydym hefyd yn cynnig fersiwn arbrofol ychwanegol, er yn arbrofol o'n ap symudol Firefox, Firefox Preview, sy'n canolbwyntio ar gyflymder a diogelwch.
Mae'r mwyafrif o borwyr mawr erbyn hyn, ac eithrio Safari, yn gweithio'n ddi-dor ar draws llwyfannau a phorwyr. Nid yw Opera a Firefox yn eithriad gyda'r ddau borwr yn darparu cludadwyedd rhagorol ar draws pob dyfais.
Asesiad Cyffredinol
At ei gilydd, mae Opera yn borwr solet, gyda rhyngwyneb glân a llawer o nodweddion defnyddiol ar gael. Fodd bynnag, mae rhai pryderon preifatrwydd difrifol yn ogystal â phroblem yn ymwneud â defnyddio llawer o bŵer prosesu. Er bod gan Opera rai nodweddion rhwyddineb defnydd gwirioneddol dda, rydym yn dal i gredu bod Firefox yn parhau i fod yn borwr gwell yn seiliedig ar berfformiad a chyda'n safiad tryloywder preifatrwydd defnyddiwr ac diogelwch preifatrwydd llym.
Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) |
Opera (67)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.