Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cymharu Firefox Browser ag Apple Safari

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Os ydych chi'n defnyddio Mac neu os oes gennych iPhone, mae'n debyg eich bod chi'n gyfarwydd â porwr gwe Safari. Mae'r ffaith ei fod wedi'i osod ymlaen llaw fel y porwr rhagosodedig ar gyfer defnyddwyr cynnyrch Apple yn bendant yn rhoi mantais gynnar iddo, ond mae gan Firefox ei set ei hun o nodweddion defnyddiol sy'n ei wneud yn ddewis deniadol arall ac mae modd nawr i'w osod fel eich porwr rhagosodedig ar eich Mac ac iPhone. Yma byddwn yn edrych ar y prif wahaniaethau rhwng ein porwr a Safari o ran preifatrwydd, gwasanaethau, a hygludedd rhwng dyfeisiau.

Diogelwch a Phreifatrwydd

Diogelwch a Phreifatrwydd Firefox Safari
Modd Pori Preifat Iawn Iawn
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti Iawn Iawn
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio Iawn Na
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol Iawn Iawn

Mae preifatrwydd wedi dod yn bwnc llosg i gwmnïau technoleg wrth iddyn nhw sylweddoli bod mwy a mwy o bobl yn teimlo'n fregus yng ngwyneb pethau fel tor-data, tracwyr hysbysebion a hacwyr. Ond o ran yr offer go iawn y mae pobl yn eu defnyddio i lywio'r rhyngrwyd go iawn, ai dim ond siarad yw'r cyfan neu a ydyn nhw mewn gwirionedd yn gweithredu i gadw'ch data yn ddiogel?

Fel y cyfeiriwyd ato o'r blaen, mae Apple yn un o'r cwmnïau hynny a benderfynodd yn ddiweddar i wella eu gêm preifatrwydd. Ddim yn bell yn ôl, gweithredodd Apple i atal tracwyr traws-wefan yn Safari, sy'n atal hysbysebion rhag eich dilyn o amgylch y rhyngrwyd. Mae Safari hefyd yn cynnig awgrym am gyfrinair cryf pan fyddwch yn cofrestru am gyfrif newydd ar unrhyw wefan. Ac os ydych wedi buddsoddi yn ecosystem iCloud, mae'n cydweddu'r cyfrinair hwnnw'n ddiogel â'ch dyfeisiau eraill, felly does dim rhaid i chi fyth ei gofio.

Fel Safari, rydym ni yn Firefox wedi gwneud pwynt o ganolbwyntio ar breifatrwydd a diogelwch. Ond yn wahanol i Safari, rydyn ni wedi bod ar ein blwch sebon preifatrwydd ers talwm. Mewn gwirionedd, Mozilla (ein rhiant-gwmni) oedd un o'r lleisiau cyntaf yn y gymuned dechnoleg i ganu'r gloch am breifatrwydd ar-lein.

Mae ein modd Pori Preifat yn rhwystro tracwyr ac yn dileu eich cyfrineiriau, cwcis a hanes bob tro y byddwch chi'n ei gau. Ond gallwch hefyd brofi ein nodweddion preifatrwydd uwch hyd yn oed yn y modd pori rheolaidd. Gyda'r rhifyn diweddaraf o Firefox, mae rhwystro tracio uwch yn cael ei droi ymlaen ar eich cyfer. Mae hyn yn atal pethau fel tracwyr traws-wefan rhag eich dilyn wrth i chi symudo amgylch y we. Hefyd, gyda Facebook yn cael ei ddal bron bob dydd am broblemau preifatrwydd, mae'n estyniad Facebook Container yn gwneud llawer o synnwyr. Mae'n ei gwneud hi'n anoddach i Facebook eich tracio o amgylch y we - yn debyg i'r hyn y mae Safari yn ei wneud i atal tracio traws-wefan - ond mae Firefox mewn gwirionedd yn ynysu eich sesiwn Facebook i gynhwysydd ar wahân sy'n rhwystro Facebook rhag tracio'r hyn rydych chi'n ei wneud ar wefannau eraill. Pam fod angen iddyn nhw wybod beth rydych chi'n ei ddarllen ar Golwg360 beth bynnag?

Cyn belled ag y mae diogelwch yn y cwestiwn, mae Firefox yn gadarn yno hefyd. Pryd bynnag rydych chi yn Firefox, gallwch dde-glicio yn y maes cyfrinair i gynhyrchu cyfrinair cryf yn ddiogel gan ddefnyddio'r dewis Llanw Cyfrinair. Pan fyddwch yn cadw eich cyfrinair newydd, byddwn yn eich annog i'w gadw i'r rheolwr cyfrinair mewnol, Lockwise. Rydym hefyd yn gwasanaethu defnyddwyr a deiliaid cyfrifon gyda chynnyrch defnyddiol a rhad ac am ddim arall o'r enw Monitor sy'n eich rhybuddio'n awtomatig os yw'ch data wedi'i gynnwys mewn tor-data hysbys.

Os ydych yn dewis defnyddio Safari, rydych mewn dwylo diogel cyhyd â'ch bod yn defnyddio dyfais Apple. Ond dim ond ar ddyfeisiau Apple y mae Safari yn gweithio, ond mae Firefox yn gweithio ar Windows, macOS, iOS, Android a Linux. Felly pa waeth pa system weithredu rydych chi'n ei dewis, mae Firefox yn sicrhau eich diogelwch a'ch phreifatrwydd.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Gwasanaethau:

Gwasanaethau Firefox Safari
Yn rhwystro awtochwarae Iawn Na
Pori tabiau Iawn Iawn
Rheolwr nodau tudalen Iawn Iawn
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig Iawn Iawn
Dewis peiriant chwilio Iawn Iawn
Testun i leferydd Iawn Iawn
Modd darllen Iawn Iawn
Gwirio sillafu Iawn Iawn
Estyniadau gwe/Ychwanegion Iawn Iawn
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr Iawn Na

Mae Apple yn adnabyddus am ei ecosystem gaeedig gan ei fod yn ymwneud â chreu meddalwedd ar gyfer ei gynnyrch. Ond y tu mewn i'r App Store, mae'n cynnig adran i ddatblygwyr greu ategion ac ychwanegion i wneud y porwr yn fwy cadarn. Mae modd edrych ar yr estyniadau hyn hefyd trwy'r App Store ac mae'n hawdd eu hychwanegu at Safari.

Yn ogystal â'r set arferol o nodweddion y byddech chi'n eu disgwyl mewn porwr, fel pori gyda thabiau a phori preifat, mae gan Safari rai nodweddion annisgwyl hefyd. Er enghraifft, pe bai defnyddiwr yn rhoi clic de ar air yn unrhyw le ar dudalen o fewn i Safari, yna clicio Look Up, bydd diffiniad geiriadur yn ymddangos ynghyd â chofnodion o'r thesawrws, yr App Store, ffilmiau a rhagor. Mae Rheoli Rhiant Safari yn hawdd eu cyfaddasu, gan ganiatáu i'r oedolion gael ychydig o dawelwch meddwl pan fydd y plant yn dechrau mynd yn chwilfrydig am y rhyngrwyd.

Fel Safari, mae Firefox yn annog ei gymuned ddatblygwyr brwdfrydig i greu ychwanegion ac estyniadau i'r porwr. A chan fod ein platfform yn god agored, mae yna ddetholiad helaeth yn ychwanegu ymarferol cyfoethog.

Hefyd, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif Firefox, rydych yn cael mynediad at wasanaethau unigryw fel Pocket sy’n integreiddio'n uniongyrchol i’r porwr. Mae'r botwm Pocket ar gyfer Firefox yn caniatáu i chi gadw tudalennau gwe a fideos i Pocket gydag un clic yn unig, fel y gallwch ddarllen fersiwn glân, di-lol pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch - hyd yn oed all-lein.

Mae Firefox hefyd yn wych ar gyfer fideo a sain. Gyda rhwystro awtochwarae wedi'i adeiladu'n uniongyrchol i'r porwr a'i droi ymlaen yn awtomatig, fydd yr un gwefan yn gweiddi nac yn arthio arnoch heb wahoddiad.

Mae Screenshots yn nodwedd boblogaidd arall sydd wedi'i hymgorffori yn y porwr Firefox, sy'n eich galluogi i gipio llun o'ch sgrin yn hawdd. Pan fyddwch yn cymryd llun, gallwch ddewis i gopïo'r ffeil neu ddewis ym mha ffolder rydych am ei gadw yn lle blerwch ar eich bwrdd gwaith.

Mae gan y ddau borwr lawer o nodweddion tebyg, yn ogystal â rhai swyddogaethau unigryw. Mae'n werth sôn, os ydych yn cymryd llawer o luniau sgrin, byddwch yn meddwl tybed sut buoch chi erioed yn byw heb y nodwedd ddefnyddiol hon sydd wedi'i hymgorffori yn Firefox. Ond os ydych ond yn chwilio am borwr cyflym, preifat ar gyfer syrffio a siopa, yna efallai yr hoffech roi cynnig ar Firefox - yn enwedig os ydych chi wedi bod yn defnyddio Safari dim ond am iddo gael ei osod ymlaen llaw fel y porwr rhagosodedig ar eich cyfrifiadur. Yn y pen draw, byddwch chi'n darganfod pa un sy'n fwy addas i'ch anghenion.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Cludadwyedd:

Cludadwyedd Firefox Safari
Argaeledd OS Iawn Na
Argaeledd OS symudol Iawn Na
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol Iawn Iawn
Rheoli cyfrineiriau Iawn Iawn
Prif gyfrinair Iawn Na

Mae Firefox a Safari ill dau yn darparu profiad di-dor wrth symud o'r bwrdd gwaith i bori symudol neu i'r gwrthwyneb. Ar gyfer Safari, un o'i brif gryfderau yw ei nodweddion parhad. Mae'n cydweddu eich nodau tudalen, tabiau, hanes a mwy i iCloud fel eu bod ar gael ar eich holl ddyfeisiau. Mae hynny'n golygu y gallwch agor tab ar eich iPhone a sicrhau ei fod hefyd yn ymddangos ar eich gliniadur macOS drwy ddim ond clicio.

Mae Firefox hefyd yn cynnig nodwedd cydweddu tebyg pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Firefox Account am ddim sy'n galluogi defnyddwyr i gydweddu eu nodau tudalen, hanes pori, dewisiadau, cyfrineiriau, ffurflenni wedi'u llenwi, ychwanegion, yn hawdd, a'r 25 tab diwethaf i'w hagor ar draws sawl cyfrifiadur. Yr hyn sy'n gosod Firefox ar wahân i Safari yw ei fod ar gael ar unrhyw fwrdd gwaith neu blatfform symudol, iOS, Android, Windows neu macOS, gan roi hwb i'w gludadwyedd ar draws unrhyw ddyfais y gallech fod yn berchen arni.

Mae ap Firefox ar gyfer iOS ac Android yn un o'r porwyr cyflymaf sydd ar gael ac mae ganddo hefyd nodweddion diogelwch a gwrth-dracio cadarn - mantais enfawr os ydych chi'n symud yn gyson rhwng liniadur a dyfeisiau symudol.

Gan mai Safari yw porwr gwe perchnogol Apple, mae ei gydweddu gydag iCloud yn gweithio'n unig gyda chynnyrch Apple. Gall hyn gyfyngu rywfaint arnoch, er enghraifft, os ydych chi'n ddefnyddiwr Android ac yn ddefnyddiwr iPhone neu os oes gennych gyfrifiadur personol Windows ar gyfer gwaith ond yn defnyddio iPhone fel eich dyfais bersonol.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Asesiad Cyffredinol

Mae Safari yn gwneud y profiad pori syml yn wych, yn gyflym ac yn ddi-dor yn arbennig os ydych yn ddefnyddiwr Apple sydd â nifer o offer Apple. Fel Safari, porwr cyflym ac iwtilitaraidd yw Firefox, ond preifatrwydd a chydnawsedd traws-blatfform yw ein nodweddion diffiniol. Mae Firefox yn cael ei ddiweddaru bob mis gyda nodweddion ac ymarferoldeb newydd. Er enghraifft, fe wnaeth un diweddariad diweddar droi ein Diogelu rhag Tracio Uwch (ETP) ymlaen ar gyfer defnyddwyr newydd, sy'n rhwystro cwcis a thracwyr traws-wefan i bob pwrpas.

Yn y diwedd, mae'n dod lawr i'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi yn eich porwr. Os ydych chi wedi'ch integreiddio ag ecosystem Apple, mae Safari yn dal i fod yn ddewis gwych. Ond os ydych chi'n gwerthfawrogi cael yr diogelwch preifatrwydd mwyaf a diweddaraf , a'r gallu i weithio ar draws sawl system weithredu, rydyn ni'n credu mai Firefox yw eich dewis gorau. Mae Firefox hefyd yn opsiwn cadarn fel ail borwr ar gyfer y defnyddwyr Apple-yn bennaf hynny sydd eisiau gallu newid i borwr gwahanol ar gyfer yr eiliadau ar-lein hynny sy'n galw am haenau ychwanegol o preifatrwydd diogel.

Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) | Safari (14)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.