Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cymharu Firefox Browser â Brave

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Yn union fel y porwr Firefox, mae'r porwr Brave yn rhad ac am ddim, yn god agored ac yn canolbwyntio ar ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr. Mae Brave yn newydd-ddyfodiad cymharol i fyd porwyr: cafodd Brave Software, ei gyflwyno yn gyntaf ym mis Ionawr 2016. Yn yr erthygl hon, byddwn yn cymharu ein porwr Firefox gyda'r porwr Brave mewn tri chategori: preifatrwydd, gwasanaethau a hygludedd.

Diogelwch a Phreifatrwydd

Diogelwch a Phreifatrwydd Firefox Brave
Modd Pori Preifat Iawn Iawn
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti Iawn Iawn
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio Iawn Iawn
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol Iawn Iawn

Mae'r porwr Brave fel cymaint o rai eraill, wedi'i adeiladu ar god agored Chromium gan Google. Mae cod agored yn golygu y gall unrhyw un ddefnyddio'r cod ffynhonnell a'i ddefnyddio i adeiladu beth bynnag maen nhw ei eisiau - fel y Opera ac Edge porwyr. Ond nid yw'n golygu bod yr holl borwyr sy'n seiliedig ar Chromium gystal a'i gilydd na'u bod yn god agored eu hunain.

Mae Brave yn gwahaniaethu ei hun oddi wrth y porwyr Chromium eraill trwy ganolbwyntio ar breifatrwydd defnyddwyr - yn benodol trwy rwystro rhagosodedig tracwyr , sgriptiau, a hysbysebion. Felly pan ddefnyddiwch y porwr Brave, mae'r ardaloedd o wefan a fyddai fel arfer yn dangos hysbysebion yn ymddangos fel lleoedd gwag. Mewn rhai achosion, nid yw tudalennau’n llwytho’n iawn, a fydd yn gofyn i chi naill ai i ddewis porwr gwahanol neu newid y gosodiad ‘Shields Up’ i ‘Shields Down’ sy’n diffodd y preifatrwydd a’r amddiffyniad diogelwch.

Ar y cyfan, hysbysebion sy'n talu am y Rhyngrwyd, mae hynny'n galluogi'r cynnwys rydych chi am ei weld go-iawn i fod yn rhad ac am ddim. Mae Brave wedi ceisio defnyddio’r model hwn trwy annog ei ddefnyddwyr i ymuno â system wobrwyo Brave, sydd mewn gwirionedd, yn blatfform hysbysebu ei hun. Unwaith y bydd defnyddiwr wedi dewis ymuno, bydd Brave yn dangos yr hyn maen nhw'n ei alw'n “hysbysebion sy'n parchu preifatrwydd” sc y gallwch chi weld ac ennill yr hyn maen nhw'n ei alw'n Basic Attention Token neu BAT. O hynny ymlaen gall defnyddwyr Brave ddewis gwario eu BATiau ar gefnogi'r gwefannau neu'r cyfranwyr unigol y maen nhw'n eu hoffi, sydd yn eu tro yn gallu trosi'r BATiau yn arian go iawn.

P'un a yw hyn yn swnio'n gymhleth neu fel syniad gwych, mae'n debyg yn dibynnu ar lefel eich dirmyg tuag at yr hysbysebion ar y Rhyngrwyd. Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y Rhyngrwyd yn deall bod cynnwys da yn costio arian, ac yn fodlon gyda'r ffaith bod yr arian yn dod o hysbysebu.

Ar ochr arall y geiniog, gyda'r porwr Firefox, mae'n well gennym gadw pethau'n syml. Mae Firefox yn rhwystro llawer o dracwyr, cryptogloddwyr a thracwyr bysbrintiau trydydd parti rhag eich dilyn yn ragosodedig. Fodd bynnag, mae Firefox, y tu allan i'r Modd Pori Preifat, yn dewis peidio â rhwystro hysbysebion rhag ymddangos. Hynny yw, oni bai eich bod chi'n gosod un o'r estyniadau sydd wedi'u cynllunio'n benodol at y diben hwnnw.

Mae yna nifer o nodweddion diogelwch yn Brave sy'n werth eu hamlygu, fel ei uwchraddio'u cysylltiad HTTPS awtomatig (y mae Firefox hefyd yn eu cynnig gydag estyniad ). Mae Brave a Firefox ill dau yn cynnig rheolwr cyfrinair brodorol i ddefnyddwyr a'r gallu i wirio eu hystadegau diogelwch ar unrhyw adeg. Mae Brave yn dangos ystadegau fel nifer y tracwyr y mae wedi'u rhwystro pryd bynnag y byddwch chi'n agor tab newydd. Mae Firefox yn dangos gwybodaeth debyg pan edrychwch ar eich adroddiad preifatrwydd y mae modd edrych arno ar unrhyw adeg trwy glicio ar y darian yn y bar cyfeiriad.

Y gwir yw, er y gall model ariannu Brave gyda'r Basic Attention Tokens fod yn rhy gymhleth i lawer o ddefnyddwyr, yn gyffredino mae Brave a Firefox yn cynnig amryw o ffyrdd i fwynhau profiad pori diogel a phreifat.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Gwasanaethau:

Gwasanaethau Firefox Brave
Yn rhwystro awtochwarae Iawn Iawn
Pori tabiau Iawn Iawn
Rheolwr nodau tudalen Iawn Iawn
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig Iawn Iawn
Dewis peiriant chwilio Iawn Iawn
Testun i leferydd Iawn Na
Modd darllen Iawn Iawn
Gwirio sillafu Iawn Iawn
Estyniadau gwe/Ychwanegion Iawn Iawn
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr Iawn Iawn

Yr hyn a allai synnu rhai defnyddwyr Brave newydd yw pa mor gyflym y mae tudalennau'n tueddu i lwytho yn y porwr. Y rheswm am yr amseroedd llwytho cyflym hyn yw bod tudalennau'n llwytho'n gynt o lawer pan fyddwch chi'n rhwystro'r holl hysbysebu arnyn nhw. Yn syml, mae llai i'w lwytho felly mae'n cymryd llai o amser.

O ran y defnydd o RAM prin, mae'r porwr Brave yn llawer trymach na Firefox. Daw Brave gyda nifer o nodweddion ac “ychwanegion” y mae modd eu priodoli i'w ddefnydd o fwy o RAM. Ar y llaw arall, mae Firefox yn gadael i chi benderfynu pa ychwanegion ac estyniadau rydych chi am eu hychwanegu.

Mae addasu elfennau a themâu'r rhyngwyneb wedi bod yn un o hoff nodweddion ddefnyddwyr Firefox ers blynyddoedd ac mae ein cymuned frwd o ddatblygwyr wedi creu llyfrgell helaeth o ychwanegion ac estyniadau cod agored - sy'n caniatáu ar gyfer hyd yn oed mwy o bersonoli ac ymarferoldeb. Ymhlith y nodweddion sy'n dod gyda Firefox pan fyddwch chi'n llwytho i lawr mae ein teclyn llun sgrin, pwerus, nodweddion hygyrchedd ac integreiddio â Pocket - adnodd sy'n galluogi defnyddwyr i gadw erthygl yn gyflym i'w darllen yn ddiweddarach ar unrhyw ddyfais.

Mae Brave hefyd yn cefnogi'r llyfrgell enfawr o estyniadau sydd ar gael yn siop we Google Chrome ac yn cynnig amrywiaeth o nodweddion mewn porwr fel rhaglen wobrwyo Brave, a chefnogaeth ar gyfer llwytho llifeiriant yn y porwr.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Cludadwyedd:

Cludadwyedd Firefox Brave
Argaeledd OS Iawn Iawn
Argaeledd OS symudol Iawn Iawn
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol Iawn Iawn
Rheoli cyfrineiriau Iawn Iawn
Prif gyfrinair Iawn Na

Mae'r gallu i gydweddu'ch cyfrineiriau, estyniadau, data ffurflenni, ychwanegion a ffefrynnau eraill ar draws eich holl ddyfeisiau a'ch systemau gweithredu yn nodwedd sydd wedi bod ar gael ers blynyddoedd gyda Firefox. Mae'r data sydd wedi'i gydweddu hefyd wedi'i amgryptio, sy'n golygu na all unrhyw un gael mynediad iddo o'r tu allan.

Mae'r porwr Firefox hefyd yn rhoi'r gallu i ddefnyddwyr gofrestru ar gyfer cyfrif Cyfrif Mozilla am ddim. Mae cael cyfrif Cyfrif Mozilla yn allwedd i ddatgloi cydweddu ar draws dyfeisiau, a byddwch yn cael budd ychwanegol cynnyrch fel Firefox Monitor sy'n monitro'ch cyfeiriadau e-bost ac yn eich rhybuddio os yw unrhyw ran o'ch manylion wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw dor-data hysbys.

Yn ddiweddar, cafodd Brave y gallu i gydweddu data ar draws y systemau a'r dyfeisiau gweithredu mwyaf poblogaidd ynghyd â'r gallu ychwanegol i gydweddu'ch Tocynnau Sylw Sylfaenol.

Llwytho Firefox Browser i Lawr

Asesiad Cyffredinol

Wrth gymharu'r ddau borwr, mae Firefox a Brave yn cynnig lefel soffistigedig o breifatrwydd a diogelwch yn rhagosodedig, ar gael yn awtomatig o'r tro cyntaf y byddwch chi'n eu hagor.

Mae syniadau hysbysebu Brave ’yn amrywiad ar y model cyfredol o leoliad hysbysebion taledig a chwiliad taledig. Ond unwaith eto, mae'n debyg na fydd rhai defnyddwyr Rhyngrwyd prysur eisiau cymryd rhan yn ormodol yn y gwaith o reoli micro-daliadau i wefannau yn gyfnewid am eu hamser a'u sylw.

At ei gilydd, mae Brave yn borwr cyflym a diogel a fydd ag apêl benodol i ddefnyddwyr cryptogyllid. Ond i'r mwyafrif helaeth o ddinasyddion y rhyngrwyd, mae Firefox yn parhau i fod yn ateb gwell a symlach.

Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) | Brave (1.14.81)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.