Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Facebook. Wedi ei gyfyngu. Cadwch gweddill eich bywyd i chi eich hun.

Cael yr Estyniad Facebook Container

Mae'r Estyniad Facebook Container ar gael ar gyfer Firefox y Bwrdd Gwaith yn unig ar hyn o bryd.

Ewch i www.mozilla.org/firefox/new/ i gael Firefox ar gyfer y Bwrdd Gwaith.

Cael Firefox ar gyfer Android ac iOS nawr.

Gosod eich amodau eich hunain

Mae Facebook yn gallu tracio bron y cyfan rydych yn ei wneud ar y we a'i glymu i'ch hunaniaeth Facebook chi. Os yw hynny'n ormod i chi, mae estyniad Facebook Container yn ynysu eich hunaniaeth i dab cynhwysydd ar wahân, gan ei gwneud yn anoddach i Facebook eich tracio chi ar y we y tu allan i Facebook.

Gosod a chyfyngu

Mae gosod yr estyniad yn hawdd ac unwaith mae wedi ei gychwyn, bydd yn agor Facebook mewn tab glas bob tro fyddwch yn ei ddefnyddio. Defnyddiwch a mwynhewch Facebook fel arfer. Bydd Facebook dal yn gallu anfon hysbysebion ac argymhellion atoch ar eu gwefan ond bydd yn llawer anoddach i Facebook i ddefnyddio yr hyn rydych yn ei wneud oddi ar Facebook i anfon hysbysebion a negeseuon eraill wedi eu targedu atoch chi.

Ynghylch Firefox a Mozilla

Rydym yn cael ein cefnogi gan Mozilla, y corff nid-er-elw sy'n rhoi pobl cyn elw er mwyn rhoi mwy o rym i bawb ar-lein. Rydym wedi creu'r estyniad yma gan ein bod yn credu y dylech gael offer hawdd eu defnyddio i'ch helpu i reoli eich preifatrwydd a'ch diogelwch.