Gyda Windows 10, cyflwynodd Microsoft ei borwr Edge i gystadlu â Firefox a Chrome, gan ei wneud yn borwr rhagosodedig wedi'i osod ymlaen llaw ar filiynau o gyfrifiaduron personol a werthwyd. Er hynny, roedd defnyddwyr yn araf i'w fabwysiadu ac yn y pen draw, cyhoeddodd Microsoft gynlluniau i ail-lansio Edge fel porwr wedi'i seilio ar Chromium (Chromium yw prosiect porwr Cod Agored Google ). Ers mis Ionawr 2020, mae Microsoft Chromium ar sail Edge wedi disodli'r fersiynau blaenorol o Edge. Er bod Edge bellach wedi'i adeiladu ar Google Chromium, mae nifer o nodweddion unigryw yn ei osod ar wahân i borwr Google Edge Chromium.
Yma, byddwn yn cymharu ein porwr Firefox Browser â'r Microsoft Edge sy'n seiliedig ar Chromium o ran preifatrwydd, gwasanaethau a hygludedd, i'ch helpu i gael gwell dealltwriaeth o ba borwr sy'n gweddu'n well i'ch anghenion a'ch dewisiadau.

Diogelwch a Phreifatrwydd
Diogelwch a Phreifatrwydd | ![]() |
|
---|---|---|
Modd Pori Preifat | ||
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti | ||
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio | ||
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol |
Mae Edge wedi'i integreiddio i blatfform Windows 10 ac mae'n rhedeg mewn amgylchedd blwch tywod, sy'n golygu ei fod yn ynysu rhaglenni ac yn atal rhaglenni maleisus rhag ysbïo ar eich cyfrifiadur. Mae ganddo SmartScreen mewnol sy'n sganio enw da gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw ac yn rhwystro gwefannau amheus. Er mwyn gwella preifatrwydd, mae Edge yn caniatáu i chi ddefnyddio biometreg neu PIN gyda Windows Hello yn lle cyfrineiriau ar gyfer dilysu ar-lein.
Yn Firefox, mae ein polisi preifatrwydd yn dryloyw ac mewn iaith glir. Gwnaethom lawer o waith mewn gwirionedd i sicrhau ei fod yn syml ac yn hawdd ei ddarllen. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith o diogelwch a phreifatrwydd ein defnyddwyr. Gyda Diogelu rhag Tracio Uwch bellach ymlaen fel rhagosodiad, rydym yn rhwystro 2000+ o dracwyr yn awtomatig. Tracwyr yw'r darnau bach hynny o god sy'n ceisio casglu'r hyn rydych yn ei wneud ar draws sawl gwefan, er mwyn creu darlun cyfansawdd a manwl o bwy ydych chi, gan lwyr gyfaddawdu'ch preifatrwydd er mwyn gallu targedu hysbysebion yn well.
Mae eich Diogelwch Preifatrwydd yn dangos i chi'r tracwyr a'r cwcis y mae tudalennau wedi ceisio eu gadael, a faint Firefox wedi'u rhwystro ar eich cyfer.
Yn Firefox, mae'r modd Pori Preifat yn dileu'ch manylion pori, cyfrineiriau, cwcis a hanes yn awtomatig, heb adael unrhyw ôl wedi i chi gau'r sesiwn. Ar y llaw arall, mae Edge yn cofnodi hanes pori yn eu modd preifat (sef, “InPrivate”) ac mae'n dasg gymharol hawdd i rywun ail-greu eich hanes pori llawn, p'un ai i chi bori yn y modd arferol neu yn InPrivate.
Mae'r ddau borwr yn gymharol gyfartal o ran amgryptio data. Fodd bynnag, os yw preifatrwydd a thryloywder ar-lein yn bwysig i chi, yna mae'n amlwg bod Firefox yn well dewis yma.
Gwasanaethau:
Gwasanaethau | ![]() |
|
---|---|---|
Yn rhwystro awtochwarae | ||
Pori tabiau | ||
Rheolwr nodau tudalen | ||
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig | ||
Dewis peiriant chwilio | ||
Testun i leferydd | ||
Modd darllen | ||
Gwirio sillafu | ||
Estyniadau gwe/Ychwanegion | ||
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr |
Mae Firefox yn borwr cyflym a chod agored, sy'n golygu y gall defnyddwyr gyfaddasu eu profiad pori ym mhob ffordd bosibl. Mae Firefox hefyd yn caniatáu i'r defnyddiwr achlysurol fod â sawl ffordd gwahanol o gyfaddasu'r rhyngwyneb trwy osod gwahanol themâu a ffurfweddiadau i'r bar offer. Gan fod ein porwr wedi bod yn god agored erioed, mae gennym nifer sylweddol iawn o ddatblygwyr ymroddedig sydd wedi creu gasgliad helaeth o ychwanegion ac estyniadau.
Ers i Edge symud i blatfform prosesu dwys Chromium, gallwch ddisgwyl iddo redeg ychydig yn arafach, yn enwedig os oes gennych sawl rhaglen yn rhedeg ar unwaith. Fodd bynnag, gyda llwyfan Chromium daw casgliad enfawr o estyniadau yn ogystal â nifer cymedrol o gyfaddasiadau i'r rhyngwyneb nad oedd gan Edge cyn iddo symud i Chromium.
Mae gan Edge rai nodweddion rhyngwyneb da, fel eu rhagolwg tab sy'n gallu ei gwneud yn haws i ddod o hyd i'r tabiau agored cywir os oes gennych chi lawer ohonyn nhw ar agor. Mae nodwedd ddefnyddiol arall sy'n gysylltiedig â thabiau yn caniatáu i chi neilltuo unrhyw dabiau gweithredol nad ydych yn eu defnyddio ond nad ydych am eu cau.
Mae Firefox yn cynnwys rhyngwyneb tab sgrolio, sy'n cadw manylion tab yn weladwy ac yn eu sgrolio yn llorweddol yn lle eu crebachu i faint favicon yn unig. Hefyd, pryd bynnag y byddwch yn agor tab newydd, mae ein nodwedd Pocket yn awgrymu erthyglau a chynnwys perthnasol i chi. Ynghyd â Pocket, gallwch hefyd gadw erthyglau, fideos, a chynnwys arall gydag un clic, i'w darllen yn nes ymlaen.
Mae Firefox ac Edge ill dau yn cynnig dulliau darllen rhagorol. Gyda Firefox, dim ond tapio ar yr eicon bach yn y bar chwilio ac mae'r porwr yn dileu'r holl elfennau diangen ac yn cyflwyno erthygl yn lân i chi. Yn Edge, dim ond tapio ar eicon y llyfr bach a'r porwr i gael rhyngwyneb glân hawdd ei ddarllen.
Mae Firefox hefyd yn cynnwys llawer o nodweddion mewnol defnyddiol yn ragosodedig fel Diogelu rhag Tracio Uwch, teclyn llun sgrin, anfon ffeiliau mawr a mwy.
O'r man cychwyn, mae gan Firefox fwy o nodweddion ac integreiddiadau wedi'u hymgorffori yn y porwr ac ar gael yn hawdd i'w llwytho i lawr. Ac er bod gan y ddau borwr nifer aruthrol o ychwanegiadau ac estyniadau ar gael, mae cydnawsedd Edgeâ llwyfan Google Chromium yn rhoi’r fantais iddo o ran niferoedd.
Cludadwyedd:
Cludadwyedd | ![]() |
|
---|---|---|
Argaeledd OS | ||
Argaeledd OS symudol | ||
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol | ||
Rheoli cyfrineiriau | ||
Prif gyfrinair |
Gydag Internet Explorer, dysgodd Microsoft o'i ddiffyg argaeledd ar draws llwyfannau a sicrhau bod Edge ar gael ar gyfer iOS, Android Windows, macOS a chyn bo hir Linux.
Mae Firefox wedi bod ar gael ar iOS, Android, Windows, macOS a Linux ers blynyddoedd. Ac fel y byddech yn ei ddisgwyl gydag unrhyw borwr modern, mae Firefox yn gadael i chi fewngofnodi gyda chyfrif am ddim ac yna cydweddu data fel cyfrineiriau, hanes pori, nodau tudalen, a thabiau agored rhwng eich cyfrifiadur, llechen a ffôn. Mae hefyd yn caniatáu i chi gydweddu ar draws llwyfannau hefyd.
Mae Edge hefyd yn caniatáu i chi gysylltu'ch cyfrif Microsoft personol a mewngofnodi i gydweddu'ch ffefrynnau, hanes, cyfrineiriau, a mwy rhwng eich cyfrifiadur a dyfeisiau iOS neu Android, er nad yw rhai tabledi Android yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd.
Asesiad Cyffredinol
Ar wahân i ddefnyddio tipyn o bŵer cyfrifiadurol, mae Edge sy’n rhedeg ar Chromium yn ateb anghenion llawer o ddefnyddwyr am ymarferoldeb a nodweddion. Ond mae negydd o hyd o ran diogelu preifatrwydd y porwr. Ein hasesiad ni yw bod Firefox yn dal i fod yn well dewis i'r rhan fwyaf o bobl ei ddefnyddio yn eu bywyd bob dydd, yn seiliedig nid yn unig ar ymarferoldeb ond yn bwysicach fyth ar ein tryloywder o ran sut rydyn ni'n casglu data defnyddwyr, beth yn union rydyn ni'n ei gasglu, a beth rydyn ni'n ei wneud ag ef. Yn syml, gan mai ein rhiant-gwmni yw Mozilla, sefydliad nid-er-elw sy’n ymroddedig i breifatrwydd a rhyddid rhyngrwyd, mae gennym set wahanol o flaenoriaethau o ran data defnyddwyr.
Yn sylfaenol rydym yn awgrymu defnyddio Firefox, y porwr gorau i chi yn y pen draw fydd yr un sy'n gweddu i'ch anghenion unigol chi gyda chefnogaeth i estyniadau, cyfaddasiadau offer pori, cyflymder, preifatrwydd a diogelwch.
Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) |
Edge (85)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.