Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mozilla VPN

Beth yw VPN?

Dyma atebion i naw cwestiwn cyffredin am VPN fel eich bod chi'n gwybod yr hyn maen nhw'n ei wneud, pryd i ddefnyddio un a pham.

Mae llawer ohonom yn treulio lot o amser, bob dydd yn defnyddio'r rhyngrwyd i wneud pethau cyffredin fel gwylio fideos, siopa, hapchwarae a thalu biliau, a hefyd, o bosib, rheoli projectau gwaith cymhleth a chael galwadau fideo cyfrinachol. Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN)yw un o'r ffyrdd gorau i gadw'n breifat a diogel ar-lein, a diogelu'ch data personol.

Sut mae VPN yn gweithio?

Mae VPN yn declyn sy'n eich galluogi i gael mynediad i'r rhyngrwyd yn ddiogel ble bynnag yr ydych. Mae VPN yn gweithio trwy greu “twnnel” diogel rhwng eich dyfais a'ch darparwr VPN, ac mae'n eich diogelu mewn dwy ffordd allweddol:

  1. Cuddio'ch cyfeiriad IP, diogelu eich hunaniaeth a'ch lleoliad.
  2. Amgryptio'r traffig rhyngoch chi a'ch darparwr VPN fel na all unrhyw un ar eich rhwydwaith lleol ei ddehongli na'i addasu.

Yn y gorffennol, roedd VPN yn bennaf yn cael eu defnyddio gan gorfforaethau i ganiatáu mynediad o bell diogel i'w gwasanaethau mewnol a'u data perchnogol. Nawr, fodd bynnag, mae VPN ar gael i bawb sydd eisiau diogelu eu cysylltiad â'r rhyngrwyd, yn enwedig pan ar rwydweithiau agored fel WiFi cyhoeddus, ond mae hefyd yn ddefnyddiol ar rwydwaith eich cartref.

Bydd VPN yn diogelu traffig rydych chi'n ei anfon rhyngoch chi a'ch darparwr VPN, p'un ai trwy eich porwr, apiau neu wasanaethau eraill. I osod VPN, bydd angen i chi greu cyfrif gyda darparwr VPN a gosod y feddalwedd VPN ar eich cyfrifiadur neu'ch ffôn. Pan fydd wedi'i alluogi, bydd VPN yn trin traffig o'r holl apiau a meddalwedd sy'n rhedeg ar eich dyfais, fel y gallwch bori a chyfathrebu'n rhydd dros gysylltiad rhwydwaith preifat diogel.

Mae darparwr VPN fel arfer yn cynnig nifer o byrth cysylltiad mewn gwahanol leoliadau ar draws y byd, sy'n eich galluogi i ddefnyddio cyfeiriad IP o locale sy'n wahanol i'ch un chi. Felly mae'r lle rydych chi'n cysylltu ag ef yn gweld IP y VPN, nid eich cyfeiriad IP go iawn, fel ffynhonnell eich traffig. Mae Mozilla VPN yn gyrru eich traffig trwy weinydd diogel ac yn gadael i chi ddewis lleoliad o fwy na 30 gwlad.

Pryd ddylwn i ddefnyddio VPN?

Mae cysylltu â rhwydwaith WiFi cyhoeddus yn gyfleus ar brydiau, fel pan nad oes gennych chi wasanaeth rhyngrwyd neu pan nad ydych chi'n gallu cael cysylltiad ar eich ffôn. Ar y llaw arall, gall cysylltu â WiFi cyhoeddus fod yn fater peryglus. Mae'n amhosib bod yn siŵr nad yw rhywun arall yn cysylltu â'r un rhwydwaith i grwydro'r hyn rydych chi'n ei wneud. Hyd yn oed os yw'ch traffig wedi'i amgryptio gallan nhw weld pa wefannau rydych chi'n mynd iddyn nhw o hyd. Ac os ydych chi'n defnyddio ap nad oes ganddo amgryptio - a hyd yn oed heddiw, mae yna llawer sydd ddim - yna maen nhw'n gallu gweld popeth rydych chi'n ei wneud.

Pan fyddwch gartref, mae'r risg y bydd drwgweithredwyr yn ymddangos ar eich rhwydwaith cartref yn is. Fodd bynnag, gall eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) dracio a rhannu eich gweithgareddau ar-lein oherwydd bod yr holl ddata rydych chi'n ei gyrchu ar y we yn cael ei gyfeirio trwy rwydwaith eich ISP. Efallai na fydd rhywfaint ohono wedi'i amgryptio. Gall VPN atal eich ISP rhag ysbio arnoch trwy amgryptio'ch traffig i'ch darparwr VPN lle bynnag ydych chi.

Arhoswch, roeddwn i'n meddwl bod fy nhraffig rhyngrwyd eisoes wedi'i amgryptio gyda HTTPS…

Mae'n wir bod y rhan fwyaf o gysylltiadau â gwefannau y dyddiau hyn yn cael eu sicrhau gan HTTPS, sy'n golygu bod y cynnwys, ond nid y ffynhonnell neu'r cyfeiriad IP cyrchfan, wedi'i amgryptio. Mae VPN yn cynnig preifatrwydd ychwanegol trwy atal gwefannau a thrydydd partïon rhag gwybod eich cyfeiriad IP.

Pryd ddylwn i ddefnyddio VPN?

Gall cuddio'ch hunaniaeth a chuddio'ch traffig gwe ymddangos fel dim ond rhywbeth y mae pobl technoleg flaengar neu amheus yn ei wneud. Fodd bynnag, mae yna nifer o resymau dilys pam yr hoffech chi ddefnyddio VPN, gan gynnwys:

  • Cadw'ch gweithgaredd ar-lein yn breifat.
  • Cadw lleoliad eich cartref neu lefydd fyddwch yn ymweld â nhw'n aml yn breifat.
  • Diogelu eich cysylltiad â rhwydwaith WiFi cyhoeddus, fel mewn caffi, maes awyr, siop neu lyfrgell.
  • Sicrhau cyfrinachedd a chywirdeb eich mynediad i'r rhyngrwyd.
  • Ei gwneud hi'n anoddach i rwydweithiau hysbysebion ddefnyddio'ch IP i greu proffiliau targedu hysbysebion sy'n eich tracio ar draws y we.

Beth yw anfanteision defnyddio VPN?

Mae rhai darparwyr gwasanaeth yn rhwystro ymweliadau a wneir trwy VPN, gan wneud eu cynnwys yn anhygyrch pan fydd VPN yn cael ei droi ymlaen. Gall rhai VPN eich arafu, neu gallan nhw gyfyngu ar eich lled band. Ac mae rhai VPN yn graddio'n wael o ran parchu preifatrwydd a diogelwch defnyddwyr.

A yw VPN yn ddiogel?

Mae'n anodd iawn dod o hyd i VPN dibynadwy. Bwriad VPN yw diogelu defnyddwyr tra'u bod ar-lein, ond nid yw pob VPN yn cynnig yr un math o wasanaeth. Wrth chwilio am wasanaeth VPN, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall yr amodau rydych chi'n cytuno iddyn nhw. Mae llawer yn honni eu bod yn wych ac yn canolbwyntio ar breifatrwydd, ond mae nifer fawr ohonyn nhw'n methu â chyrraedd eu haddewidion. Bydd rhai VPN yn cofnodi'ch gweithgareddau ar-lein fel y gallan nhw werthu eich data a'ch manylion i gwmnïau marchnata eu hunain. Bydd cwmnïau VPN eraill yn ceisio eich argyhoeddi i osod meddalwedd maleisus ar eich dyfeisiau.

Rydym wedi gwneud y gwaith caled i sicrhau bod y Mozilla VPN yn parchu eich preifatrwydd go iawn, ac mae'n rhywbeth rydyn ni'n barod i'w gefnogi gyda'n henw da. Mae gan Mozilla enw da am adeiladu cynnyrch sy'n eich helpu i gadw'ch manylion yn ddiogel. Rydym yn dilyn ein hegwyddorion Egwyddorion Preifatrwydd Data hawdd eu darllen, sy'n caniatáu inni ganolbwyntio ar y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu gwasanaeth yn unig. Mae technoleg Mozilla VPN yn ysgafn ac yn fodern er mwyn cynnig cysylltiad cyflym i ddefnyddwyr â diogelwch a diogeled VPN llawn. A chan ein bod yn cael ein cefnogi gan gwmni sy'n cael ei yrru gan genhadaeth, gallwch ymddiried y bydd yr arian rydych chi'n ei wario ar y cynnyrch hwn nid yn unig yn sicrhau bod gennych VPN o'r radd flaenaf, ond hefyd yn gwneud y rhyngrwyd yn well i bawb.

Gall VPN fy amddiffyn rhag seiberdroseddwyr?

Er bod VPN yn darparu cysylltiad diogel â'r rhyngrwyd, nid yw'n eich diogelu rhag pob drwgweithredwr allan yna. Pryd bynnag rydych ar-lein, gyda neu heb VPN, dylech fod yn wyliadwrus o gysylltiadau amheus, ymgyrchoedd gwybodaeth anghywir, sgamiau gwe-rwydo a bygythiadau eraill. Mae aros yn ddiogel ar-lein yn feddylfryd cyson, bob dydd.

A yw VPN yn gyfreithlon?

Ar hyn o bryd mae gosod a defnyddio VPN yn gyfreithiol yn y mwyafrif o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, y DU, Canada a Seland Newydd, ond gall rhai gwledydd reoleiddio eu defnydd. Os dewiswch ddefnyddio VPN, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod cyfraith y wlad yn caniatáu i chi ei ddefnyddio yn gyfreithiol ai peidio.

A yw VPN ar gyfer cyfrifiaduron yn unig?

Mae modd defnyddio VPN i ddiogelu eich holl ddyfeisiau - cyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau. Os ydych chi'n cyrchu'r rhyngrwyd trwy apiau annibynnol y tu hwnt i'r porwr, mae VPN yn ddewis da ar gyfer diogelu eich preifatrwydd a'ch diogelwch ar unrhyw ddyfais. Bydd angen i chi osod VPN ar bob dyfais er mwyn iddo fod yn effeithiol. Mae Mozilla VPN yn cynnig cysylltiad diderfyn ar gyfer hyd at bum dyfais pan fyddwch chi'n cysylltu â'r rhyngrwyd o unrhyw ap neu borwr.

Mozilla VPN: Cyflym, diogel, dibynadwy

Mae Mozilla VPN yn wasanaeth y gallwch ymddiried ynddo i gadw'ch cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ddiogel ar eich holl ddyfeisiau. Nid ydym yn cadw cofnodion data defnyddwyr, ac nid ydym yn partneru â llwyfannau dadansoddeg trydydd parti sydd am adeiladu proffil o'r hyn rydych chi'n ei wneud ar-lein. Mewn byd lle mae natur anrhagweladwy wedi dod yn “normal newydd,” rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n bwysicach nag erioed i chi deimlo'n ddiogel, ac i chi wybod mai eich busnes chi yw'r hyn rydych chi'n ei wneud ar-lein.