Egwyddorion Preifatrwydd Data

Mae'r pum egwyddor ganlynol yn codi o'r Mozilla Manifesto ac yn arwain sut fyddwn yn:

  • datblygu ein cynnyrch â'n gwasanaethau
  • rheoli'r data defnyddwyr rydym yn ei gasglu
  • dewis a rhyngweithio gyda phartneriaid
  • siapio ein polisi cyhoeddus a'n gwaith eiriolaeth
  1. Dim syndod

    Defnyddio a rhannu gwybodaeth mewn ffordd dryloyw ac o fudd i'n defnyddwyr.

  2. Rheolaeth y defnyddiwr

    Datblygu cynnyrch ac eiriol am yr ymarfer gorau sy'n sicrhau fod gan ddefnyddwyr rheolaeth o'u data a phrofiadau ar-lein.

  3. Data cyfyngedig

    Casglu beth sydd arnom ei angen, dad adnabod lle mae hynny'n bosibl a dileu lle nad oes ei angen bellach.

  4. Gosodiadau synhwyrol

    Cynllunio ar gyfer cydbwysedd ystyrlon rhwng diogelwch a phrofiad defnyddiwr.

  5. Amddiffyniad mewn dyfnder

    Cynnal rheolaeth ac arferion aml haenog, llawer ohonynt y mae modd eu dilysu'n gyhoeddus.