Mozilla VPN

Nodweddion sy'n diogelu
eich bywyd ar-lein

Cyfleus

  • Mwy na 500 gweinydd mewn 30+ o wledydd

    Dyma'm rhestr o weinyddion.

  • Cysylltwch hyd at 5 dyfais

    Yn cael ei gefnogi ar systemau gweithredu Windows, macOS, Android, iOS a Linux.

  • Dim cyfyngiadau lled band na rhwystro

    Gan gynnwys dim cap data na therfyn cyflymder.

  • Cyflymder rhwydwaith uchel hyd yn oed wrth chwarae

    Mae Mozilla VPN yn defnyddio Wireguard™, un o'r protocolau VPN mwyaf effeithiol.

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Diogel

  • Rhwystro hysbysebwyr rhag eich targedu

    Mae Mozilla VPN yn eich helpu'n awtomatig i rwystro hysbysebion a thracwyr hysbysebion rhag gweld eich gweithgarwch ar-lein.

  • Amgryptio'ch holl draffig rhyngrwyd

    Mae Mozilla VPN yn diogelu pob un o'r apiau ar eich dyfais, nid dim ond eich porwr.

  • Diogelwch drwgwedd cryfach

    Mae Mozilla VPN yn eich atal rhag llwytho meddalwedd maleisus i lawr o ffynonellau anniogel hysbys.

  • Modd preifat uwch: anfon traffig trwy ddau leoliad

    Mae ein nodwedd aml-hwb yn rhoi hwb diogelwch ychwanegol i chi.

  • Cefnogaeth i DNS cyfaddas

    Gyda Mozilla VPN, gallwch ddiogelu eich traffig a pharhau i anfon eich ymholiadau DNS lle bynnag y bo'n well gennych. Darllen rhagor am gymorth DNS cyfaddas.

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Hyblyg

Argymhellion lleoliad gweinydd personol

Byddwn yn awgrymu pa weinyddion yn eich ardal chi fydd yn sicrhau'r cysylltiad rhyngrwyd cyflymaf a mwyaf dibynadwy.

Personoli pa apiau sy'n cael diogelwch VPN

Eithrio apiau rhag diogelwch VPN yn hawdd - nid oes angen datgysylltu'ch dyfais o Mozilla VPN. Ar gael ar gyfer dyfeisiau Windows, Android a Linux.

Gosodwch leoliadau gwahanol ar gyfer pob tab yn Firefox

Cyfunwch Mozilla VPN gyda'r estyniad Cynwysyddion Ailgyfrif Firefox a gosod lleoliadau VPN gwahanol fesul tab Firefox. Darllen sut.

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Dibynadwy

  • Gwarant 30 diwrnod arian-yn-ôl

    Ynghyd â chefnogaeth cwsmeriaid 24/7.

  • Nid ydym byth yn cofnodi, tracio na rhannu eich data rhwydwaith

    Yn syml, nid ydym yn casglu eich manylion pori bersonol. Dyma ein polisi preifatrwydd hawdd ei ddarllen.

  • Wedi'i adeiladu'n dryloyw mewn cod agored

    Mae Mozilla VPN wedi'i wneud â chod cod agored, sy'n golygu bod y cod i gyd ar gael i'r cyhoedd. Ewch i'n storfa GitHub.

  • Wedi'i adolygu gan arbenigwyr diogelwch trydydd parti

    Rydym wedi cael ein harchwilio gan Cure53, cwmni archwilio seiberddiogelwch blaenllaw. Mae eu hadroddiad yma.

  • Pobl dros elw

    Rydym yn cael ein cefnogi gan y Mozilla Foundation, corff dim-er-elw er cadw'r we yn agored ac yn iach i bawb.