Cwestiynau Cyffredin
Beth yw polisi ad-dalu Mozilla VPN?
Y tro cyntaf y byddwch chi'n tanysgrifio i Mozilla VPN trwy wefan Mozilla, byddwch yn gallu diddymu'ch cyfrif o fewn y 30 diwrnod cyntaf, gallwch ofyn am ad-daliad a bydd Mozilla yn ad-dalu'ch cyfnod tanysgrifio cyntaf.
Os gwnaethoch chi brynu'ch tanysgrifiad trwy brynu o fewn ap o'r Apple App Store neu'r Google Play Store, mae'ch taliad yn amodol ar delerau ac amodau'r siop. Rhaid i chi gyfeirio unrhyw ymholiadau bilio ac ad-daliad prynu o'r fath at Apple neu Google, fel y bo'n briodol.
Pa wybodaeth mae Mozilla VPN yn ei chadw?
Rydym yn glynu'n gaeth at Egwyddorion Preifatrwydd Data Mozilla. Rydym ond yn casglu data sydd ei angen i gadw Mozilla VPN yn weithredol a gwella'r cynnyrch dros amser. Rydym hefyd yn olrhain data ymgyrchu ac atgyfeirio ar ein hap symudol i helpu Mozilla i ddeall effeithiolrwydd ein hymgyrchoedd marchnata. Darllenwch ragor yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Sut mae rheoli fy nhanysgrifiad a newid fy nghynllun?
Os ydych eisoes wedi tanysgrifio i Mozilla VPN, gallwch newid eich cynllun neu reoli eich tanysgrifiad unrhyw bryd.