Osgoi camwybodaeth ar-lein - mae Firefox yma i'ch helpu

Dyma awgrymiadau ar gyfer gweld llai o gamwybodaeth a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

Beth yw camwybodaeth? Beth yw twyllwybodaeth?

Camwybodaeth (misinformation), twyllwybodaeth (disinformation) - mae'n debyg eich bod wedi clywed y termau hyn yn y gorffennol ac wedi meddwl tybed a ydyn nhw'n wahanol o ran ystyr. Y bwriad yw'r hyn sy'n eu gwahaniaethu: Mae camwybodaeth yn unrhyw fath o wybodaeth ffug y gall pobl ei gredu. Mae'n wirioneddol anghywir neu'n gamarweiniol ond nid yw wedi'i greu na'i rannu gyda'r bwriad i dwyllo pobl. Ar y llaw arall, mae twyllwybodaeth yn cael ei greu a'i ledaenu er mwyn camarwain a chyflawni bwriad penodol.

Yn y pen draw, gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth fod yn niweidiol. Nid yn unig y bydd pobl yn credu gwybodaeth sy'n anghywir, mae gwybodaeth ffug yn gostus iawn i'r economi fyd-eang ac yn gallu bygwth democratiaeth a llywodraethu effeithlon. Ac mae'n anodd ei rwystro oherwydd bod newyddion ffug yn lledaenu'n llawer cynt, yn ddyfnach ac yn ehangach na newyddion sy'n gywir.

O ble daw'r ffug wybodaeth?

Mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth i'w gweld ym mhobman ond mae'n fwyaf amlwg a dylanwadol wrth ei rannu ar-lein. Mae algorithmau a thracio wedi cynyddu'r gallu i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth gyrraedd cynulleidfa fwy ar wefannau, blogiau, fforymau a rhwydweithiau cymdeithasol.

Efallai eich bod wedi clywed am dracio yn bennaf yng nghyd-destun hysbysebu. Er hynny, mae hefyd yn arf pwerus o ran lledu gwybodaeth ffug. Pam hynny? Pan fyddwch yn pori'r rhyngrwyd neu'ch llif rhwydwaith cymdeithasol, mae eich ymddygiad, diddordebau, cysylltiadau mewn rhai achosion a mwy yn cael eu tracio gan wahanol bartïon ar draws gwefannau er mwyn creu proffil manwl iawn ohonoch. Bydd hwn yn cael ei werthu i eraill heb i chi wybod na rhoi eich caniatâd. Bydd y proffiliau hyn ar gyfer hysbysebu wedi'i bersonoli ond gallan nhw hefyd gyflwyno unrhyw fath o wybodaeth wedi'i thargedu i chi.

Pan fyddwch yn derbyn argymhellion cynnwys ar unrhyw wefan neu rwydwaith cymdeithasol, mae hyn yn aml gan fod algorithm wedi cyflwyno gwybodaeth yn seiliedig ar fanylion eich proffil. Yn anffodus, er bod algorithmau yn dod yn fwy clyfar, dyn nhw ddim yn gwirio cynnwys am gywirdeb. Mae hyn yn arbennig o broblemus gyda'r cyfryngau cymdeithasol: Mae'r rhwydweithiau hyn yn dangos darnau di-ri o wybodaeth i'w defnyddwyr bob dydd ac mae ganddyn nhw fynediad at swmp diderfyn bron o gynnwys gan gynnwys postiadau defnyddwyr, erthyglau newyddion, hysbysebion a chynnwys noddedig. Er y gall postiadau ac erthyglau ledaenu gwybodaeth anghywir yn ddamweiniol, mae modd defnyddio hysbysebion a chynnwys noddedig i'ch targedu yn fwriadol â thwyllwybodaeth er mwyn eich twyllo, gan ei gwneud yn hanfodol eich bod chi'n gwybod sut i adnabod camwybodaeth.

Sut i adnabod gwybodaeth ffug ar-lein a helpu i atal y lledaeniad

  1. Edrychwch ar yr URL ac/neu o le mae'n dod.

    A yw'n gredadwy? Os nad ydych yn siŵr, ceisiwch ddarganfod mwy am y ffynhonnell a'i henw da ar y rhyngrwyd.

  2. A yw'r pennawd yn rhy syfrdanol?

    Edrychwch ar y gwefannau a'r siopau newyddion rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw i weld os a sut maen nhw'n adrodd ar yr un pwnc. Yn aml, bydd cynnwys sydd â'r bwriad i dwyllo'n defnyddio eithafion a gor-ddweud nad oes tystiolaeth iddo ac heb fod ar gael mewn adroddiadau sydd wedi'u hymchwilio'n dda.

  3. A yw'r cynnwys yn gyfredol?

    Nid yw gwybodaeth sydd wedi dyddio o reidrwydd wedi ei fwriadu i gamarwain, ond efallai nad yw'n ffeithiol gywir erbyn hyn.

  4. A yw'r awdur wedi cyhoeddi erthyglau neu bostiadau eraill, yn ddelfrydol mewn cyhoeddiadau credadwy?

    Os mai dim ond ar wefannau amheus y byddwch yn dod o hyd i enw'r awdur, peidiwch â thalu gormod o sylw i'w ddatganiadau.

  5. Ydy delweddau a chapsiynau'n cyfateb?

    Mae delweddau'n offerynnau pwerus iawn ar gyfer twyllwybodaeth wedi'i dargedu. Yn dibynnu ar y pennawd, mae modd troi'r canfyddiad i'r gwrthwyneb yn llwyr. Os ydych chi'n ansicr, chwiliwch i weld sut mae'r ddelwedd yn cael ei disgrifio ar wefannau eraill.

Sut mae Firefox yn eich helpu i osgoi camwybodaeth

Mae Firefox yn rhwystro tracwyr:

Fel y soniwyd o'r blaen, mae tracio'n chwarae rhan amlwg wrth ledu camwybodaeth. Mae defnyddio Firefox gyda Diogelwch Tracio Uwch yn helpu drwy rwystro tracwyr trydydd partï, gan lawer o hysbysebwyr a chwaraewyr eraill, drwy'r amser wrth bori'r we ac yna adennill rheolaeth dros eich data ar-lein.

Mae Firefox yn helpu i gadw'ch llif cyfryngau cymdeithasol yn lân:

Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn gwybod llawer amdanoch chi. Hefyd, maen nhw'n gallu eich tracio y tu hwnt i'w platfformau gyda'u botymau Rhannu a Hoffi er gwaethaf Diogelu Rhag Tracio - hyd yn oed os nad oes gennych chi gyfrif. Mae'r Facebook Container ar gyfer Firefox yn sicrhau nad yw Facebook a Instagram gallu gwneud mor hawdd, sydd eto'n lleihau'r tebygolrwydd o weld camwybodaeth trwy hysbysebion a hyrwyddo cynnwys, yn sylweddol.

  • Pam ymddiried yn Firefox?

    Oherwydd ein bod ni'n blaenoriaethu pobl. Mewn gwirionedd, mae nid-er-elw yn gefn inni. O'r cychwyn cyntaf, ein cenhadaeth oedd amddiffyn y rhyngrwyd a phawb arno.

    Rhagor am ein cenhadaeth

  • Eich preifatrwydd, yn ôl y cynnyrch

    Mae cynnyrch Firefox yn gweithio'n wahanol - oherwydd eu bod wedi'u cynllunio i flaenoriaethu ddiogelu eich preifatrwydd.

    Rhagor am ein cynnyrch