64-did

Firefox mwy diogel.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Gall defnyddwyr ar Windows 64-bit sy'n llwytho Firefox i lawr gael ein fersiwn 64-did yn ragosodedig. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n cael fersiwn mwy diogel o Firefox, un sydd hefyd yn chwalu llawer iawn llai. Faint yn llai? Yn ein profion hyd yn hyn, lleihaodd Firefox 64-bit chwaliadau o 39 % ar beiriannau gyda 4GB o RAM neu fwy.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 32-did a 64-did?

Dyma’r peth allweddol i wybod amdano: gall rhaglenni 64-did gael mynediad at fwy o gof ac maen nhw'n llai tebygol o chwalu na rhaglenni 32-did. Hefyd, gyda'r naid o 32 i 64 did, mae nodwedd ddiogelwch o'r enw Hap Gynllun Gofod Cyfeiriad(ASLR) yn gweithio'n well i'ch diogelu rhag ymosodwyr. Defnyddwyr Linux a macOS, peidiwch â phoeni, rydych chi eisoes yn mwynhau Firefox sydd wedi'i optimeiddio ar gyfer 64-did.

Sut wnaethoch chi gael Firefox 64-did?

Os ydych chi'n rhedeg Windows 64-did (dyma sut i wirio), efallai bod eich Firefox eisoes yn 64-did. Gwiriwch eich fersiwn Firefox (yn y ffenestr “Ynghylch Firefox”) a chwiliwch am “(32-did)” neu “(64-did)” ar ôl y fersiwn rhif:

  • Os ydych chi'n gweld “(32-did)” a'ch bod chi'n rhedeg Firefox 56.0 neu'n hŷn, bydd diweddaru i'r fersiwn Firefox ddiweddaraf eich uwchraddio i 64-did yn awtomatig.
  • Os ydych chi'n gweld “(32-did)” ac yn rhedeg Firefox 56.0.1 neu'n ddiweddarach, yna efallai na fydd eich cyfrifiadur yn cwrdd â'r gofyniad cof lleiaf ar gyfer 64-did (3 GB RAM neu fwy). Gallwch barhau i osod Firefox 64-did â llaw, os hoffech chi.
Os oes angen i chi redeg Firefox 32-did neu osod Firefox 64-did â llaw, gallwch lwytho i lawr ac ail-redeg gosodwr Firefox Windows (32-did neu 64-did) o'r Dudalen llwytho i lawr llwyfannau ac ieithoedd Firefox.

Cymerwch reolaeth o'ch porwr.