Er bod gan Chromebook y porwr Chrome eisoes wedi'i osod, mae llwytho i lawr a defnyddio Firefox fel eich prif borwr yn dod ag amryw o fanteision i chi:
Byddai'n well gennym iddo fod yn symlach, ond byddai'n well gan eich Chromebook eich cadw yn yr ecosystem Google Play. Fodd bynnag, rydym yn credu ei bod yn werth yr ymdrech i osod y porwr Firefox yn eich Chromebook - ac mae gennym adnoddau i'ch helpu os bydd eu hangen arnoch. Mae dwy ffordd i osod Firefox ar eich dyfais.
Gosod Firefox o Google Play Store: ar fersiynau mwy newydd o Chrome OS (yn seiliedig ar Chromebook x86 yn rhedeg Chrome OS 80 neu'n hwyrach), mae gennych y dewis i osod ap Firefox Android. Mae'r ap hwn yn cael ei ddatblygu ar gyfer dyfeisiau symudol.
Gosod Firefox fel rhaglen Linux: mae dilyn y llwybr hwn yn cymryd ychydig mwy o gamau, ond mae'n werth chweil. Pan fyddwch yn gosod y porwr Firefox fel rhaglen Linux, cewch y porwr Firefox bwrdd gwaith a'r holl fanteision o wneud hynny, gan gynnwys Diogelu Rhag Tracio Uwch , rheolwr cyfrineiriau mewnol, mynediad at filoedd o ychwanegion (gan gynnwys atalydd hysbysebion UBlock Origin), a themâu i addasu gwedd eich porwr. Rhagor am osod porwr Firefox bwrdd gwaith ar gyfer Chromebook.