Mozilla VPN
Cadwch wedi'ch cysylltu a'ch diogelu gyda Mozilla VPN ar gyfer Windows 10
Diogelwch eich cyfrifiadur cyfan gyda rhwydwaith preifat rhithwir (VPN) gan Mozilla, arloeswr rhyngrwyd sydd wedi bod yn brwydro dros eich preifatrwydd digidol ers 1998.
Gweld y prisio a'r argaeledd

Eich preifatrwydd yw ein haddewid
Rydych chi'n haeddu teimlo'n ddiogel ar-lein ble bynnag yr ydych chi neu ble bynnag yr ewch chi. Gyda Mozilla VPN, gallwch ddefnyddio wifi cyhoeddus a gwybod bod eich cysylltiad wedi'i ddiogelu rhag hacwyr a darparwyr rhyngrwyd busneslyd. Mae ein VPN yn hawdd ei ddefnyddio, ar gael ar gyfer Windows 10 (ac unrhyw un o'ch dyfeisiau eraill), ac nid yw'n eich arafu. Yn anad dim, mae'n VPN gan Mozilla gyda phrotocol WireGuard®, felly rydych chi'n gwybod bod eich data wedi'i amgryptio ac na fydd eich gweithgaredd yn cael ei gofnodi. VPN cynhwysfawr a phwerus sy'n eich diogelu chi.

Beth gewch chi gyda Mozilla VPN:
- Amgryptio ar lefel dyfais
- Gweinyddion cryf mewn 30+ gwlad
- Dim cyfyngiadau lled band
- Dim cofnodi gweithgaredd ar-lein nawr na byth
- Cysylltwch hyd at 5 dyfais

Cadw'n breifat ar wifi cyhoeddus
Mae Mozilla VPN yn diogelu eich cysylltiad â'r rhyngrwyd rhag sbecian, fel y gallwch fynd drwy eich pethau yn unrhyw le - y maes awyr, ystafell gyffredin, siop goffi - heb boeni am eich preifatrwydd ar-lein.

Diogelwch drwy bwyso botwm
Mae Mozilla VPN yn amgryptio'ch cysylltiad rhyngrwyd ac yn cuddio'ch cyfeiriad IP rhag llygaid busneslyd ar eich bwrdd gwaith neu'ch gliniadur gyda phrotocol uwch WireGuard®.

Mynediad i weinyddion ledled y byd
Gyda 500+ gweinydd mewn dros 30 gwlad, gallwch wneud beth bynnag sydd angen i chi ei wneud ar-lein - pori, siopa, darllen y newyddion - trwy osod lleoliad eich dyfais i bron unrhyw le yn y byd.

Un tanysgrifiad ar gyfer eich holl ddyfeisiau
Mae tanysgrifiad Mozilla VPN yn sicrhau mynediad diderfyn i'n gwasanaeth VPN diogel ar hyd at 5 dyfais ar gyfer Windows (gan gynnwys Windows 10) , macOS, Linux, Android a iOS.

Dim cyfyngiadau lled band
Ffrydio, chwarae gemau, siopa a chrwydro'r we ar gyflymder cyflym iawn. Gyda data diderfyn a dim cyfyngiadau lled band, dyw Mozilla VPN ddim yn rhwystr.

Eich preifatrwydd yw ein blaenoriaeth
Bydd Mozilla byth yn stopio gweithio tuag at well rhyngrwyd sy'n rhoi eich preifatrwydd yn gyntaf. Dyna pam nad yw'r Mozilla VPN yn casglu unrhyw ddata arnoch chi nac yn cofnodi'ch gweithgaredd ar-lein - dyw r'un o'n cynnyrch yn gwneud.