Mozilla VPN

Diogelwch eich hun ar-lein gyda Mozilla VPN ar gyfer Mac

P'un ai ar fwrdd gwaith, gliniadur, Mac, iPad neu iPhone, diogelwch eich dyfais gyfan rhag hacwyr a llygaid busneslyd gyda VPN gan Mozilla, arloeswr ym maes diogelwch rhyngrwyd ers 1998.

Gweld y prisio a'r argaeledd

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Eich preifatrwydd yw ein haddewid

O fusnes i hamdden, dylech deimlo'n ddiogel ar-lein beth bynnag sy'n eich arwain chi yno. Mae Mozilla VPN yn eich helpu i ddefnyddio wifi cyhoeddus yn ddoethach trwy ddiogelu eich cysylltiad rhyngrwyd rhag hacwyr a darparwyr rhyngrwyd sy'n edrych i gasglu eich data. Mae ei breifatrwydd un clic ar gael ar gyfer Mac a iOS, (yn ogystal â Windows 10, Linux a Android), ac nid yw'n effeithio ar eich cyflymder. Hefyd, gan ei fod yn VPN gan Mozilla gyda phrotocol WireGuard®, gallwch ymddiried na fydd eich gweithgaredd yn cael ei gofnodi ac mae eich data yn aros eich un chi — bob tro.

Beth gewch chi gyda Mozilla VPN:

  • Amgryptio ar lefel dyfais
  • Gweinyddion cryf mewn 30+ gwlad
  • Dim cyfyngiadau lled band
  • Dim cofnodi gweithgaredd ar-lein nawr na byth
  • Cysylltwch hyd at 5 dyfais

Teimlo'n ddiogel ar wifi brau

Ewch ar-lein gyda thawelwch meddwl pan rydych chi'n defnyddio wifi cyhoeddus diolch i Mozilla VPN. Mae'n diogelu eich cysylltiad rhyngrwyd fel bod eich data personol wedi'i guddio rhag hacwyr a llygaid busneslyd.

Preifatrwydd ar flaenau eich bysedd

Gyda Mozilla VPN, mae eich cysylltiad rhyngrwyd wedi'i amgryptio ac mae eich cyfeiriad IP wedi'i ddiogelu rhag hacwyr a darparwyr rhyngrwyd busneslyd diolch i brotocol uwch WireGuard®.

Mynediad i weinyddion ledled y byd

Gosodwch eich lleoliad eich Mac i'ch dewis o fwy na 500+ gweinydd mewn 30+ gwlad. Mae hyn yn caniatáu i chi ddarllen y newyddion, siopa, ffrydio a syrffio'r we o bron i unrhyw le.

Diogelwch 5 dyfais gydag un tanysgrifiad

Mae eich cyfrifiadur, tabled a'ch ffôn clyfar i gyd yn haeddu bod yn ddiogel. Defnyddiwch Mozilla VPN i ddiogelu hyd at 5 dyfais Mac a iOS (yn ychwanegol at Windows, Linux a Android).

Does dim angen aberthu cyflymder

Mae data diderfyn a dim cyfyngiadau lled band yn golygu y gallwch archwilio corneli’r rhyngrwyd fel y gwnewch chi fel arfer — gyda lefel ychwanegol o ddiogelwch.

Eich busnes chi yw beth wnewch chi ar -lein

Mwynhewch dawelwch meddwl pan fyddwch yn defnyddio Mozilla VPN. Mae eich data wedi'i amgryptio, nid yw'ch gweithgaredd byth yn cael ei gofnodi, ac mae eich preifatrwydd bob amser yn cael ei ddiogelu. Dyna ein haddewid i chi.