Pwy sy'n gwneud y porwr symudol gorau? Byddwn yn cymharu fersiynau symudol o Firefox, Chrome, Edge, Safari, a Opera i ddarganfod yr ateb.
Gan mai eich porwr symudol yw eich ffynhonell o wybodaeth ble bynnag yr ydych, cyflymder, diogelwch, preifatrwydd a rhwyddineb defnydd yw'r allweddi i brofiad da. Felly pa un yw'r porwr symudol gorau? Gadewch i ni gymharu'r rhai gorau - a gweld pa un sydd orau i'ch anghenion.
Pa borwr symudol sy'n cadw pethau'n gyfrinachol?
Diogelwch a Phreifatrwydd | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
---|---|---|---|---|---|
Modd Pori Preifat | |||||
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti | |||||
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio | |||||
Yn rhwystro sgriptiau bysbrintio | |||||
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol | |||||
Dangosfwrdd i adolygu tracwyr sydd wedi'u rhwystro |
Dylai eich porwr symudol o leiaf ddarparu rhyw fersiwn o'r “modd pori preifat,” sy'n dileu eich hanes a'ch hanes chwilio yn awtomatig. Yn hyn o beth, mae pob un o'r pump porwr sy'n cael eu cymharu yma'n sgorio pwyntiau.
Nodwedd porwr arall a ddylai fod ar gael yw'r gallu i atal gwefannau a chwmnïau rhag tracio'ch data pori a siopa - hyd yn oed yn y modd pori arferol.
Nid yw rhwystro tracwyr trydydd parti yn bwysig dim ond ar gyfer preifatrwydd - mae hefyd yn helpu tudalennau i lwytho'n gynt o lawer, heb i'r darnau hynny o god atodi eu hunain ac arafu'ch porwr.
O'r siart uchod, mae'n amlwg bod Firefox yn cynnig y set offer preifatrwydd a diogelwch mwyaf cyflawn o'r pum porwr ac mae'n darparu trosolwg dangosfwrdd o'ch diogelwch a'ch preifatrwydd cyffredinol ar-lein.
Beth all eich porwr ei wneud i chi?
Nodweddion | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
---|---|---|---|---|---|
Yn rhwystro awtochwarae | |||||
Pori tabiau | |||||
Rheolwr nodau tudalen | |||||
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig | |||||
Yn llenwi ffurflenni taliadau'n awtomatig | |||||
Dewis peiriant chwilio | |||||
Testun i leferydd | |||||
Modd darllen | |||||
Gwirio sillafu | |||||
Estyniadau gwe/Ychwanegion | |||||
Modd Tywyll | |||||
Modd Bwrdd Gwaith | |||||
Canfod ar dudalen | |||||
Chwilio Delweddau | |||||
Chwilio Llais | |||||
I’r sgrin Cartref | |||||
Llif Newyddion | |||||
VPN o fewn ap |
Prif nodwedd porwr da yw ei ymarferoldeb. Beth all ei wneud? Mae bron pob un o'r pum porwr yn gyfartal o ran tabiau, nodau tudalen, cwblhau meysydd yn awtomatig, ond dim ond Firefox a Safari sy'n cynnig ychwanegion/estyniadau, sy'n fath o fel apiau i'ch porwr i'w wneud yn fwy preifat, pwerus neu'n fwy o hwyl.
A yw'ch porwr yn cyd-fynd yn dda gyda dyfeisiau eraill?
Cydweddu | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
---|---|---|---|---|---|
Argaeledd OS | |||||
Argaeledd OS symudol | |||||
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol | |||||
Rheoli cyfrineiriau | |||||
Prif gyfrinair |
Mae'r fersiwn symudol o Safari, sydd wedi'i osod ymlaen llaw ar ddyfeisiau symudol Apple, ond yn gydnaws â dyfeisiau Apple eraill fel iPad a Mac. Mae Firefox, Chrome, a Opera yn gweithio ar draws pob platfform gan gynnwys iOS, Android, Windows, Mac, a Linux, ar wahân i i'r porwr Edge sydd ddim yn gydnaws gyda dyfeisiau wedi'u seilio ar Linux.
Mae bron pob un o'r porwyr symudol sy'n cael eu cymharu yma yn caniatáu cydweddu llwyr rhwng dyfeisiau symudol a bwrdd gwaith.
Y newyddion da i ddefnyddwyr iPhone yw bod Apple wedi caniatáu i ddefnyddwyr iPhone ddewis eu porwr rhagosodedig eu hunain yn ddiweddar, felly nawr gall defnyddwyr gydweddu eu dyfeisiau ar draws llwyfannau os ydynt, er enghraifft, yn gosod Firefox ar eu cyfrifiadur iPhone a Windows.
Yn seiliedig ar y meini prawf a amlinellwyd gennym - preifatrwydd, nodweddion, a chydweddu - dim ond un porwr symudol sydd mewn gwirionedd yn bodloni'r tri, a hynny yw Firefox. Er ei fod yn debyg yn y categorïau nodweddion a chydweddu, mae Firefox yn sefyll ar wahân oherwydd ei breifatrwydd. Rydyn ni'n teimlo mai dyma'r gydran hanfodol sy'n caniatáu i chi fwynhau'r rhyngrwyd orau - yn union y ffordd rydych chi'n ei hoffi.
Ar wahân i'n hargymhellion, mae dod o hyd i'r porwr sy'n iawn i chi bob amser yn dibynnu ar eich anghenion unigol a'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf wrth i chi bori ar-lein.
Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (84) |
Chrome (87) |
Edge (45.11.1) |
Safari (14) |
Opera (61)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.
Sganiwch y cod QR i gychwyn