Mozilla VPN
Diogelwch eich preifatrwydd ar ffôn symudol gyda Mozilla VPN
Diogelwch eich ffôn clyfar a'ch tabled gyda VPN rhag Mozilla, yr arloeswr dibynadwy ym mhreifatrwydd y rhyngrwyd.
Gweld y prisio a'r argaeledd

Eich preifatrwydd yw ein haddewid
Sicrhewch fod cysylltiad rhyngrwyd eich ffôn yn parhau i fod yn breifat, i lle bynnag mae'ch diwrnod yn mynd â chi gyda Mozilla VPN, teclyn preifatrwydd hanfodol gan wneuthurwyr Firefox.
Mae Mozilla VPN yn atal hacwyr ac ysbïwyr rhag gweld eich cyfeiriad IP ac yn cuddio'ch lleoliad ar-lein. Gydag amgryptio uwch a dim cyfyngiadau lled band, mae'n gwneud ffrydio a phori ar eich ffôn clyfar neu dabled yn hynod gyflym ac yn ddibynadwy ddiogel. Am ffi fisol fach, gallwch ddiogelu hyd at 5 dyfais a chysylltu â dwsinau o weinyddion ledled y byd.

Beth gewch chi gyda Mozilla VPN:
- Diogelwch hyd at 5 o ddyfeisiau
- Mynediad i weinyddion mewn 30+ gwlad
- Amgryptio ar lefel dyfais
- Dim cyfyngiadau lled band
- Dim cofnodi gweithgaredd ar-lein nawr na byth

Teimlwch yn ddiogel pan yn defnyddio wifi cyhoeddus
Mae ein VPN yn cuddio'ch cysylltiad rhyngrwyd rhag hacwyr ac ysbïwyr, fel y gallwch chi siopa o'r siop goffi, gwirio'ch cyfrif banc o'r trên a mynd ymlaen â'ch busnes ar-lein yn unrhyw le heb bryderon diogelwch.

Preifatrwydd mewn un clic
Mae'r ap Mozilla VPN yn amgryptio'ch cysylltiad rhyngrwyd ac yn cuddio'r cyfeiriad IP ar eich ffôn symudol neu dabled gan ddefnyddio protocol uwch WireGuard®.

Cysylltwch â gweinyddion ledled y byd
Porwch o Frasil. Chwarae gêm o Japan. Ffrydio o Fecsico. Mae Mozilla VPN yn gadael i chi newid lleoliad eich ffôn neu'ch cyfrifiadur i un o 400 o weinyddion.

Diogelwch hyd at 5 o ddyfeisiau
Mae eich tanysgrifiad yn sicrhau mynediad diderfyn i'n gwasanaeth VPN diogel ar eich ffôn clyfar, llechen a'ch bwrdd gwaith ar gyfer iOS, Android, Mac, Windows a Linux.

Cyflymder anhygoel, dim cyfyngiadau
Gallwch ffrydio fideos, chwarae gemau, siopa a phori ar gyflymder uchel iawn. Fydd Mozilla VPN ddim yn cyfyngu eich lled band nac yn arafu eich ffôn clyfar.

Mae eich preifatrwydd yn flaenoriaeth.
Ym Mozilla, dydy'n ni ddim yn casglu unrhyw ddata am bwy ydych chi nac yn cofnodi'ch gweithgaredd ar-lein — nid trwy ein VPN nac unrhyw un o'n cynnyrch eraill. Mae diogelu eich preifatrwydd yn egwyddor graidd o'n cenhadaeth.