Mozilla VPN

Mozilla VPN ar gyfer Linux Ubuntu — y cyfuniad perffaith

Fel cefnogwr Ubuntu Linux, rydych eisoes yn gwybod am bwysigrwydd preifatrwydd a diogelwch ar-lein. Mae'n debyg eich bod hefyd yn gwybod am Mozilla a'r hyn yr ydym yn sefyll drosto — rhyngrwyd preifat, agored a rhad ac am ddim i bawb. Mae'n bryd dod â'r ddau at ei gilydd.

Gweld y prisio a'r argaeledd

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Eich preifatrwydd yw ein haddewid

Cymerwch fesur ychwanegol o ddiogelwch pan fyddwch ar-lein — gartref ac allan o gwmpas — gyda Mozilla VPN. Am ffi fisol fechan, mae'n defnyddio protocol uwch WireGuard® i amgryptio'ch cysylltiad rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur Linux yn ogystal â mathau eraill o ddyfeisiau, gan adael i chi ffrydio sioeau, chwarae gemau, siopa, a mynd ymlaen â'ch bywyd bob dydd ar-lein gan wybod eich bod chi'n ddiogel.

Fel un o'r enwau mwyaf dibynadwy yn y diwydiant technoleg, mae Mozilla yn ymrwymedig i sicrhau eich bod chi'n teimlo'n ddiogel bob tro rydych chi'n mynd ar-lein.

Beth gewch chi gyda Mozilla VPN:

  • Diogelwch hyd at 5 o ddyfeisiau
  • Mynediad i weinyddion mewn 30+ gwlad
  • Amgryptio ar lefel dyfais
  • Dim cyfyngiadau lled band
  • Dim cofnodi gweithgaredd ar-lein nawr na byth

Cadwch yn ddiogel ar-lein pan fydd angen i chi ddefnyddio wifi cyhoeddus

Weithiau wifi cyhoeddus yw eich unig ddewis a'r un gorau. Mae Mozilla VPN yn gadael i chi deimlo'n rhydd i fewngofnodi i'ch e-bost o'r maes awyr, golygu eich cyfrineiriau mewn siop goffi — popeth rydych chi'n ei wneud gartref fel arfer gyda'r un tawelwch meddwl.

Diogelwch gyda dim ond 1clic

Mae Mozilla VPN yn hawdd iawn i'w ddefnyddio. Tapiwch fotwm a bydd yn amgryptio'ch cysylltiad ac yn cymylu'r cyfeiriad IP ar eich iPhone neu iPad gan ddefnyddio protocol uwch WireGuard®.

Cysylltwch â mwy na 500 gweinydd mewn dros 30 o wledydd gwahanol

Mae Mozilla VPN yn cynnig y gallu i chi osod lleoliad eich cyfrifiadur Linux i un o 30+ gwlad, gan agor chi i gynnwys newydd cyffrous o bob cwr o'r byd.

Cysylltwch hyd at 5 dyfais

Gydag un tanysgrifiad, gallwch gael Mozilla VPN ar hyd at 5 dyfais wahanol, gan gynnwys Linux, Windows, Android, Mac, and iOS ar gyfer iPhone a iPad.

Cyflym iawn gyda data diderfyn

Chwarae gemau, ffrydio ffilmiau a sioeau, a syrffio'r we ar gyflymder cyflym iawn a dim cyfyngu lled band — mae Mozilla VPN yn ddiderfyn.

Mae'ch data yn perthyn i chi

Mae rhai VPN yn cofnodi'ch gweithgaredd ar eu gweinyddwyr. Nid yw Mozilla VPN yn eich tracio ar-lein — mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym yn sefyll drosto fel cwmni.