Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cwestiynau Cyffredin Polisi Preifatrwydd Mozilla

Rydym o Blaid Bobl Nid Elw.

Mae'n gallu bod yn anodd i bobl wybod beth i'w ddisgwyl o unrhyw feddalwedd neu wasanaeth maen nhe’n ei ddefnyddio heddiw. Mae'r dechnoleg sy'n gyrru ein bywydau'n gymhleth a does gan bobl ddim yr amser i fynd yn ddwfn i'r manylion. Mae hyn dal yn wir am Firefox, mae gan bobl lot o syniadau gwahanol am beth sy'n digwydd o dan fonet eu porwr.

Ym Mozilla. rydym yn parchu ac yn diogelu eich manylion personol:

  • Rydym yn dilyn casgliad o Egwyddorion Preifatrwydd Data sy'n siapio ein dull o drin preifatrwydd ym mhorwyr bwrdd gwaith a symudol Firefox.
  • Dim ond y data angenrheidiol rydym ei angen i greu'r cynnyrch gorau.
  • Rydym yn gosod pobl i reoli eu data a'u profiadau ar-lein.
  • Rydym yn dilyn egwyddor “dim syndod”, sef ein bod yn gweithio'n galed i sicrhau fod dealltwriaeth pobl o Firefox yn cyd-fynd ag fel ag y mae.

Dylai'r cwestiynau a'r atebion canlynol eich cynorthwyo i deall beth i'w ddisgwyl gan Mozilla a Firefox:

Rwy'n defnyddio Firefox ar gyfer bron pob peth ar y We. Rhaid eich bod chi ym Mozilla'n gwybod y cyfan amdana i?

Firefox, y porwr gwe sy'n rhedeg ar eich dyfais neu gyfrifiadur, yw eich porth i'r rhyngrwyd. Bydd eich porwr yn rheoli llawer o wybodaeth am y gwefannau fyddwch chi'n mynd iddyn nhw, ond mae'r wybodaeth yna'n aros ar eich dyfais. Nid yw Mozilla, y cwmni sy'n gwneud Firefox, yn ei gasglu (oni bai eich bod wedi gofyn i ni wneud hynny).

Wir, ddim hyd yn oed casglu fy hanes pori?

Nid yw Mozilla yn gwybod cymaint ag y byddech yn ei ddisgwyl am sut mae pobl yn pori'r we. Fel gwneuthurwr porwr, mae hynny yn her fawr i ni mewn gwirionedd. Dyna pam rydyn ni wedi adeiladu offer dewis, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr sydd â diddordeb i rannu golwg i ni ar eu pori gwe. Os ydych yn cydweddu eich hanes pori ar draws gosodiadau Firefox, nid ydym yn gwybod beth yw'r hanes hwnnw — mae wedi'i amgryptio gan eich dyfais.

Mae'n ymddangos fel bod pob cwmni ar y we yn prynu a gwerthu fy nata. Mae'n siŵr eich bod chi'r un fath.

Dyw Mozilla ddim yn gwerthu na phrynu data amdanoch chi.

Ond, sut fyddwch chi'n gwneud eich arian?

Nid Mozilla yw yn eich sefydliad arferol. Cafodd ei sefydlu fel project cod agored cymunedol ym 1998, mae Mozilla yn gorff sy'n cael ei yrru gan genhadaeth sy'n gweithio tuag at ryngrwyd mwy iach. Mae'r rhan fwyaf o refeniw'r Mozilla Corporation yn dod o freindaliadau partneriaethau chwilio'r porwr gwe Firefox a chytundebau dosbarthu ledled y byd. Mae gwybodaeth am sut rydym yn gwneud arian i'w gael yn ein adroddiad ariannol blynyddol.

Iawn, dyna'r cwestiynau hawdd. Pa ddata ydych chi'n ei gaglu?

Mae Mozilla'n casglu set cyfyngedig o ddata drwy Firefox sy'n ein cynorthwyo i ddeall sut mae pobl yn defnyddio'r porwr. Mae'r data ynghlwm wrth ddynodydd ar hap, yn lle eich enw neu8 gyfeiriad e-bost. Mae rhagor i'w weld am hyn yn ein hysbysiad preifatrwydd ac mae modd i chi ddarllen y ddogfennaeth lawn ar y casglu data hwnnw.

Mae ein dogfennaeth yn gyhoeddus er mwyn i unrhyw un ddilysu fod yr hyn rydym yn ei ddweud yn wir, dweud wrthym os oes angen i ni wella ac i fod yn hyderus nad ydym yn cuddio dim.

Mae hynny'n edrych fel rwtsh i mi! Oes rhywbeth clir ar gael?

Mae yna ddau gategori o ddata rydym yn eu casglu drwy ragosodiad yn ein fersiwn ryddhau o Firefox.

Y cyntaf yw beth rydym yn ei alw'n "ddata technegol." Data am y porwr yw hwn, fel pa fath o system weithredu mae'n rhedeg arno a gwybodaeth am wallau a chwaliadau.

Yr ail yw beth rydym yn ei alw'n "ddata rhyngweithio." Data yw hwn am ymwneud unigolyn gyda Firefox, megis sawl tab oedd ar agor, statws dewisiadau'r defnyddiwr, neu'r nifer o weithiau mae rhai nodweddion penodol o'r porwr wedi cael eu defnyddio, megis lluniau sgrin neu gynhwysyddion. Er enghraifft, rydym yn casglu'r data hwn yn nhermau'r botwm nôl, y saeth yn y gornel uchaf ar y chwith yn eich porwr sy'n caniatáu i chi lywio dol i dudalen gwe benodol mewn ffordd sy'n dangos i ni fod rhywun wedi defnyddio'r botwm nôl, ond nid yw'n dweud wrthym ba dudalen we yn union agorwyd.

Ydych chi'n casglu mwy a ddata yn y fersiynau cyn ryddhau o Firefox?

O fath. Yn ogystal a'r data sy'n cael ei ddisgrifio uchod, rydym yn derbyn adroddiadau chwalu a gwall drwy ragosodiad yn y fersiynau cyn ryddhau o Firefox.

Weithiau, fyddwn yn casglu data ychwanegol mewn fersiwn cyn ei ryddhau ar gyfer un o'n astudiaethau. Er enghraifft, mae rhai astudiaethau'n gofyn ein bod yn galw am "ddata gweithgaredd gwe", sy'n gallu cynnwys URLau a mathau eraill o wybodaeth am wefannau penodol. Mae hyn yn ein cynorthwyo i ateb cwestiynau penodol er mwyn gwella Firefox, er enghraifft, sut i wella integreiddio gwefannau poblogaidd mewn localau penodol.

Mae fersiynau cyn rhyddhau Firefox Mozilla yn blatfformau datblygu, yn cael eu diweddaru'n aml gyda nodweddion arbrofol. Rydym yn casglu mwy o ddata yn y cyn rhyddhau nag ar ôl ryddhau er mwyn deall sut mae'r nodweddion arbrofol hyn yn gweithio. Gallwch hepgor y casglu data hwn yn y dewisiadau.

Pam ydych chi'n casglu unrhyw ddata o gwbl?

Os nad ydyn ni'n gwybod sut mae'r porwr yn perfformio neu pha nodweddion mae pobl yn eu defnyddio, does dim modd i ni ei wneud yn well a darparu'r cynnyrch gwych rydym am ei wneud. Rydym wedi buddsoddi mewn casglu data ac offer dadansoddi sy'n caniatáu i ni wneud penderfyniadau craff am ein cynnyrch tra'n parchu preifatrwydd pobl.

Mae casglu data'n dal i fy mhoeni i. Ga i ei ddiffodd?

Iawn. Mae rheolaeth gan y defnyddiwr yn un o'n hegwyddorion preifatrwydd data. Mae hynny'n cael ei amlygu yn Firefox drwy ein tudalen gosodiadau preifatrwydd, sy'n siop un stop ar gyfer pawb sydd eisiau rheoli eu preifatrwydd yn Firefox. Gallwch ddiffodd casglu data yno.

Peth am ddata fy nghyfrif?

Rydym yn gredwyr mawr mewn lleihau data a pheidio â gofyn am bethau sydd ddim mo'u hangen arnom ni.

Does dim angen cyfrif i ddefnyddio Firefox. Mae angen Cyfrif i gydweddu eich data ar draws dyfeisiau ond dim ond am gyfeiriad e-bost rydym yn gofyn amdano. Does dim angen i ni wybod eich am eich enw, cyfeiriad, pen-blwydd na rhif ffôn.

Rydych yn defnyddio hysbysebu digidol am rhan o'ch cymysgedd o farchnata. Ydych chi'n prynu data pobl er mwyn targedu'n well eich hysbysebion ar-lein?

Na, tydyn ni ddim yn prynu data pobl ar gyfer targedu hysbysebion.

Rydyn yn gofyn i'n partneriaid hysbysebu i ddefnyddio data parti cyntaf yn unig y ma gwefannau a chyhoeddwyr yn gwybod am yr holl ddefnyddwyr, fel y porwr rydych yn ei ddefnyddio a'r ddyfais rydych arni.

Wel, mae'n ymddangos eich bod yn fy nghefnogi gyda'r pethau preifatrwydd yma.

Ydy, wir.

Canfod rhagor am sut mae Mozilla'n amddiffyn y rhyngrwyd.