Preifatrwydd, cyflymder a diogelwch.

Sut i ddewis y porwr gorau i chi.

Mae'r rhyngrwyd wedi dod mor hanfodol â thrydan a dŵr, felly mae dewis y porwr gorau i chi yn bwysicach nag erioed. Mae'r rhyngrwyd yn ail swyddfa, yn athro ac weithiau'n gynghorydd meddygol, hyd yn oed os byddai'n well gan eich meddyg go iawn nad oeddech chi'n chwilio am eich symptomau ar-lein.


Yng nghanol y nawdegau, roedd Netscape, Internet Explorer ac AOL yn fawr. Roedd yn amser symlach pan roedd alaw felys deialu'r rhyngrwyd yn lledu ar draws y tir. Fe ddysgoch chi ystyr amynedd wrth aros i dudalennau gwe lwytho. Bryd hynny, cyflymder y porwr oedd y cyfan oedd yn bwysig.

Mae heddiw'n stori wahanol. Efallai y bydd hysbysebion, haciau preifatrwydd, torri rheolau diogelwch, a newyddion ffug yn golygu eich bod yn chwilio am nodweddion eraill mewn porwr. Sut mae'r porwr yn diogelu eich preifatrwydd? A yw'n caniatáu i ddilynwyr eich dilyn ar draws y we? A yw'n cael ei adeiladu i allu amldasgio a thrin llawer o weithrediadau cyfrifiadurol a rhyngrwyd ar unwaith?

Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw ystyr cael porwr preifat neu gyflym, dyma ddadansoddiad o dri pheth y dylai porwr eu cael.

Porwr wedi'i adeiladu i fod yn gyflym.

Mae porwr yn dal yn declyn, felly mae'n gwneud synnwyr y byddwch chi eisiau dewis yr un gorau ar gyfer y dasg. Os ydych chi'n berson sydd angen gweithio i fyw, bydd angen porwr rhyngrwyd cyflym arnoch. Un peth i'w gadw mewn cof yw bod porwr sy'n rhedeg tracwyr trydydd parti yn fwy tebygol o fod yn arafach na phorwr sydd ddim. Mae traciwyr trydydd parti yn gwcis, ac er na allwch chi eu gweld, maen nhw'n rhedeg yng nghefndir y wefan, gan gymryd amser gwerthfawr. Po fwyaf o dracwyr trydydd parti mae porwr yn eu rhwystro, y cyflymaf y gall redeg.

Dyma un o'r rhesymau niferus i ddewis y porwr Firefox: mae Firefox yn rhwystro tracwyr trydydd parti yn ddiofyn. Mae gennym resymau eraill a byddwn yn mynd i mewn i'r rheini yn ddiweddarach.

Porwr sy'n gosod diogelwch fel blaenoriaeth.

Chi'n cofio'r tor-data enfawr diwethaf? Os nad, mae'n debyg ei fod yn digwydd mor aml. Mae cwmnïau'n cadw gafaell ar ddata cwsmeriaid, fel eu manylion personol neu ariannol, ac mae hacwyr yn ei ddwyn. Os ydych chi'n gwneud diogelwch yn flaenoriaeth, yna porwr rhyngrwyd diogel yw'r porwr gorau i chi.

Mae yna rhai ffyrdd y gall porwr helpu ei ddefnyddwyr i gadw'n ddiogel. Gall porwr sy'n gyfoes â'r dechnoleg ddiogelwch ddiweddaraf helpu i ddiogelu eich cyfrifiadur a'ch gwefannau rhag ymwelwyr diangen, fel firysau maleisus neu gyfrifiadurol.

Nid yw'r ail yw peidio a storio gormod o ddata defnyddwyr. Gall hacwyr ddim dwyn ddwyn beth sydd ddim yno, a dyna pam mae Firefox yn cadw lleiafsafswm o wybodaeth am ei ddefnyddwyr. Mae Firefox yn gwybod os ydych chi'n defnyddio'r porwr a'ch lleoliad cyffredinol ond nid enw anifail anwes eich plentyndod na'ch hoff lliw.

Yn olaf, ond nid lleiaf, dylai porwr diogel gynnig offer i'ch helpu i gadw llygad ar eich cyfrifon. Meddyliwch am rybuddion sy'n mynd yn syth i'ch e-bost os bydd unrhyw rai o'ch cyfrifon yn cael eu torri neu eiconau sy'n dweud wrthych a yw gwefan wedi'i hamgryptio, (ee, os yw'n syniad da rhoi rhif eich cerdyn credyd ar wefan siopa).

Mae Firefox yn cynnig rhywbeth newydd i'ch cadw'n ddiogel: Mozilla Monitor. Mae'n wasanaeth rhad ac am ddim, fydd yn eich rhybuddio os oes unrhyw haciau cyhoeddus ar eich cyfrifon ac yn rhoi gwybod i chi os cafodd eich cyfrifon eu hacio yn y gorffennol. Nodwedd ddefnyddiol arall yw'r Clo Gwyrdd. Mae'n edrych fel eicon gwyrdd bach ar ochr chwith uchaf ffenestr y porwr. Os ydych chi ar Firefox ac yn gweld y clo gwyrdd, mae'n golygu bod y wefan wedi'i hamgryptio ac yn ddiogel. Os yw'r clo yn llwyd, efallai y byddwch am feddwl ddwywaith am gynnig unrhyw wybodaeth sensitif.

Porwr gofalus gyda data.

Mae preifatrwydd ar y we yn bwnc llosg. Os yw preifatrwydd yn flaenaf ar eich rhestr o flaenoriaethau, rydych eisiau chwilio am borwr sy'n cymryd hynny o ddifrif. Wrth ddewis y porwr preifat gorau i chi, edrychwch ar y polisi tracio a sut mae porwr yn trin eich data. Mae'r rhain yn ymddangos fel cwestiynau technegol, ond dyma'r rheswm pam bod rhai porwyr yn fwy preifat na'i gilydd.

Tracwyr yw'r holl negeseuon “cwcis” syrffedus ar wefannau cwmnïau hedfan. Mae'r tracwyr trydydd parti hyn yn gwybod ble rydych chi'n clicio ac mae modd eu defnyddio i ddadansoddi eich ymddygiad. Dylai porwr preifat roi'r dewis i ddefnyddwyr ddiffodd traciau trydydd parti, ond yn ddelfrydol, eu diffodd yn ddiofyn.

Ffordd arall o atal tracwyr rhag tracio yw drwy ddefnyddio'r modd preifat i bori. Dylai unrhyw borwr sy'n honni ei fod yn breifat gynnig pori mewn modd preifat.

Un ffordd hawdd o weld yw ymweld â thudalen gosodiadau cynnwys a pholisi preifatrwydd y porwr. Dylai'r dudalen we preifatrwydd amlinellu a yw eich data yn cael ei rannu a pham. Dyna pam mae hysbysiad preifatrwydd Firefox yn hawdd ei ddarllen ac yn hawdd i dod o hyd iddo.

Mae dewis y porwr gorau i chi yn debyg i ddewis cartref. Rydych chi eisiau archwilio'ch opsiynau, gwneud rhywfaint o ymchwil a gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

Gyda Firefox, rydym wedi gweithio'n galed i adeiladu porwr sydd ddwywaith mor gyflym ag o'r blaen ac yn rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr dros eu bywyd ar-lein.