Rheolwch eich dewisiadau casglu data parti cyntaf
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i Mozilla. Mae ein platfform telemetreg a dadansoddeg parti cyntaf, o'r enw Glean, yn dilyn ein safonau uchel ein hunain ar arferion data darbodus.
Mae Mozilla yn defnyddio Glean i gasglu data defnydd gwefannau ar rai gwefannau mozilla.org er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r profiad defnyddiwr gorau posibl i’n hymwelwyr. Nid yw Glean yn rhannu gwybodaeth ag unrhyw drydydd parti. Mae pob darn o ddata a gasglwn hefyd yn mynd trwy broses adolygu llym. Gallwch ddysgu rhagor am y mathau penodol o ddata rydym yn ei gasglu yn y Glean Geiriadur. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn trin ac yn rhannu eich data ar wefannau Mozilla, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Gwefannau, Cyfathrebu a Chwcis.
Os ydych yn dal eisiau eich eithrio o ddadansoddeg parti cyntaf gallwch wneud hynny isod. Bydd clicio ar y botwm eithrio yn gosod cwci dewis sy'n cael ei ddefnyddio i atal Glean rhag anfon data pan fyddwch yn llwytho ein tudalennau gwe. Bydd y cwci dewis hwn yn para am flwyddyn.
Y dewisiadau presennol:
Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch ymuno yma: