Cydweddwch eich Firefox ar eich holl ddyfeisiau

Cyrchwch a chydweddu eich nodau tudalen, cyfrineiriau, a mwy ym mhob man y byddwch yn defnyddio Firefox.

Ymuno

    Preifatrwydd wedi'i wneud yn hawdd

    Y cyfan sydd ei angen arnoch ar gyfer Firefox Sync yw cyfrif Firefox Account.

    Amgryptiwch eich data

    Mae eich allwedd amgryptio yn parhau i fod yn gyfrinach, dim ond yn hysbys i chi a'ch dyfeisiau awdurdodedig.

    Teimlwch yn ddiogel

    Rydym yn cadw eich data wedi'i amgryptio ar ein gweinyddwyr fel na allwn ei ddarllen.

Cychwyn cydweddu mewn pedwar cam hawdd:

  1. Agorwch y ddewislen ar ochr dde uchaf Firefox a dewis “Mewngofnodi i Sync ."
  2. Cliciwch “Cychwyn arni” yn y tab sy'n agor.
  3. Rhowch gyfeiriad e-bost a chyfrinair i ““Creu cyfrif Firefox Account.”
  4. Cliciwch “Nesaf” i anfon dilysiad at eich e-bost.

Ar ôl gwirio eich e-bost a chlicio'r ddolen dilysu, bydd Firefox yn cychwyn cydweddu'n awtomatig yn y cefndir o hynny ymlaen.

Rhagor o gymorth gyda rheoli eich cyfrif Firefox Account