Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu, bob tro rydych yn mynd ar-lein
Diolch am ddefnyddio'r porwr Firefox diweddaraf. Pan ddewiswch Firefox, rydych yn cefnogi gwe well i chi a phawb arall. Nawr, cymrwch y cam nesaf i ddiogelu eich hun.
-
Dewiswch breifatrwydd awtomatig
Mae'r rhyngrwyd yn dal i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gipio'ch data personol. Firefox yw'r unig borwr sydd â chenhadaeth i ddod o hyd i ffyrdd newydd i'ch diogelu.
-
Dewiswch ryddid ar bob dyfais
Mae Firefox yn gyflym ac yn ddiogel ar Windows, iOS, Android, Linux... ac ar eu traws i gyd. Nid oes gennym unrhyw ddiddordeb i'ch cloi chi i mewn nac i ailosod eich dewisiadau.
-
Dewiswch annibyniaeth gorfforaethol
Firefox yw'r unig borwr annibynnol mawr. Mae Chrome, Edge a Brave i gyd wedi'u hadeiladu gyda chod gan Google, rhwydwaith hysbysebion mwyaf y byd.