Mae Firefox yn diogelu eich preifatrwydd ym mhob cynnyrch

Firefox Browser

2,000+ o dracwyr wedi'u rhwystro - yn awtomatig

Mae tracio wedi dod yn epidemig ar-lein: mae cwmnïau'n dilyn pob symudiad, clicio a phrynu, gan gasglu data i ragfynegi a dylanwadu ar yr hyn y byddwch chi'n ei wneud nesaf. Credwn fod hynny'n ymyrraeth dybryd o'ch preifatrwydd. Dyna pam mae Diogelwch Uwch Rhag Tracio porwyr symudol a bwrdd gwaith Firefox ymlaen yn rhagosodedig.

Os hoffech chi weld beth mae Firefox yn ei rwystro drosoch chi, ewch i'r dudalen hon ar eich porwr bwrdd gwaith Firefox.

Gweld beth mae Firefox wedi'i rwystro ar eich cyfer chi

Defnyddiwch Diogelwch Uwch Rhag Tracio

Diweddarwch eich porwr Firefox

  • Yn anweledig i'r prif dracwyr

    Dyma bedwar o'r categorïau mwyaf cyffredin o dracwyr - fydd ddim yn cwrdd â chi.

  • Drwy'r amser o dan eich rheolaeth

    Eisiau cyfaddasu'r hyn sy'n cael ei rwystro? Dim ond un clic i ffwrdd mae eich gosodiadau.

  • Diogelwch y tu hwnt i dracio

    Os oes gennych chi Firefox Account, gallwch hefyd weld sut rydyn ni'n eich helpu i ddiogelu eich manylion personol a'ch cyfrineiriau.

Firefox Monitor

Pan fyddwch yn nodi'ch cyfeiriad e-bost yn Firefox Monitor, rydym yn ei anghofio yn syth ar ôl i ni edrych oes sôn i chi fod yn rhan o dor-data hysbys - oni bai eich bod yn ein hawdurdodi i barhau i fonitro tor-data newydd ar gyfer eich gwybodaeth bersonol.

Gwiriwch am dor-data

Mozilla VPN

Syrffio, ffrydio a gwneud gwaith ar weinyddion mewn dros 30 o wledydd a chael cysylltiad rhyngrwyd diogel â phersbectif newydd.

Cael Mozilla VPN

Pocket

Mae Pocket yn argymell erthyglau yn Saesneg o ansawdd uchel, wedi'u curadu gan bobl heb gasglu'ch hanes pori na rhannu eich gwybodaeth bersonol â hysbysebwyr.

Cael Pocket

Eich Firefox Account

Mae'r holl fanylion sy'n cael eu cydweddu trwy eich Firefox Account - o hanes porwr i gyfrineiriau - wedi'i hamgryptio. A chyfrinair eich cyfrif yw'r unig allwedd.

Ewch a'ch preifatrwydd a'ch nodau tudalen i bobman gyda chyfrif Firefox Account.

Rhowch eich e-bost i gael mynediad i Firefox Accounts.

Drwy fynd yn eich blaen, rydych yn cytuno i'r Amodau Gwasanaeth a'r Hysbysiad Preifatrwydd.

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd ein cynnyrch