Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Hanes Porwyr Gwe

Mae hanes y byd yn llawn o frwydrau pŵer epig, gormeswyr byd-eang, a'r distadl arwrol. Nid yw hanes porwyr gwe yn wahanol iawn. Ysgrifennodd arloeswyr prifysgolion feddalwedd syml a sbardunodd chwyldro gwybodaeth, a brwydr dros ragoriaeth porwyr a defnyddwyr rhyngrwyd.

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cyn Oes y We

Ym 1950, roedd cyfrifiaduron mor fawr ag ystafelloedd cyfan ac yn llai galluog na chyfrifianellau poced heddiw. Ond bu'r cynnydd yn un cyflym, ac erbyn 1960 roedden nhw'n gallu rhedeg rhaglenni cymhleth. Roedd llywodraethau a phrifysgolion ar draws y byd o'r farn y byddai'n wych pe gallai'r peiriannau siarad, gan feithrin cydweithrediad a datblygiadau gwyddonol.

ARPANET oedd y prosiect rhwydweithio llwyddiannus cyntaf ac yn 1969 anfonwyd y neges gyntaf o'r labordy gwyddoniaeth gyfrifiadurol ym Mhrifysgol California, Los Angeles (UCLA) i Stanford Research Institute (SRI), hefyd yng Nghaliffornia.

Arweiniodd hynny at chwyldro mewn rhwydweithio cyfrifiadurol. Ffurfiwyd rhwydweithiau newydd, gan gysylltu prifysgolion a chanolfannau ymchwil ledled y byd. Ond am yr 20 mlynedd nesaf, nid oedd y rhyngrwyd ar gael i'r cyhoedd. Roedd wedi'i gyfyngu i ymchwilwyr prifysgol, llywodraeth a myfyrwyr, a chorfforaethau preifat. Roedd dwsinau o raglenni a allai fasnachu gwybodaeth dros linellau ffôn, ond nid oedd yr un ohonynt yn hawdd i'w defnyddio. Nid oedd y rhyngrwyd agored go iawn a'r porwr gwe cyntaf, wedi'i greu tan 1990.

Oes y We

Creodd y gwyddonydd cyfrifiadurol o Brydain, Tim Berners-Lee, y gweinydd gwe cyntaf a'r porwr gwe graffigol yn 1990 tra'n gweithio yn CERN, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yn y Swistir. Galwodd ei ffenestr newydd i'r rhyngrwyd, y “WorldWideWeb.” Roedd yn rhyngwyneb graffigol hawdd ei ddefnyddio a grëwyd ar gyfer cyfrifiadur NXT. Am y tro cyntaf, cysylltwyd dogfennau testun gyda'i gilydd dros rwydwaith cyhoeddus — y we fel rydym ni yn ei adnabod.

Flwyddyn yn ddiweddarach, gofynnodd Berners-Lee i Nicola Pellow, myfyriwr mathemateg yn CERN, i ysgrifennu'r Line Mode Browser, rhaglen ar gyfer terfynellau cyfrifiadur sylfaenol.

Erbyn 1993, ffrwydrodd y we. Gwelodd prifysgolion, llywodraethau, a chorfforaethau preifat gyfle yn y rhyngrwyd agored. Roedd angen rhaglenni cyfrifiadurol newydd ar bawb i'w ddefnyddio. Y flwyddyn honno, crëwyd Mosaic yn y National Center for Supercomputing Applications (NCSA) ym Mhrifysgol Illinois Urbana-Champaign gan y gwyddonydd cyfrifiadurol Marc Andreessen. Hwn oedd y porwr gwe poblogaidd cyntaf a hynafiad cynnar Mozilla Firefox.

Roedd NCSA Mosaic yn rhedeg ar gyfrifiaduron Windows ac yn hawdd ei ddefnyddio, a rhoddodd fynediad i unrhyw un â chyfrifiadur i dudalennau gwe cynnar, ystafelloedd sgwrsio a llyfrgelloedd delweddau. Y flwyddyn nesaf (1994), sefydlodd Andreessen Netscape a rhyddhaodd Netscape Navigator i'r cyhoedd. Roedd yn hynod lwyddiannus, a'r porwr cyntaf ar gyfer y bobl. Hwn hefyd oedd y cam cyntaf mewn math newydd o ryfel i ddefnyddwyr y rhyngrwyd.

Rhyfeloedd y Porwyr

Erbyn 1995, nid Netscape Navigator oedd yr unig ffordd i fynd ar-lein. Trwyddedodd y cawr meddalwedd Microsoft hen god Mosaic ac adeiladu ei ffenestr ei hun i'r we, Internet Explorer. Ysgogodd y ryddhad ryfel. Gweithiodd Netscape a Microsoft yn ffyrnig i wneud fersiynau newydd o'u rhaglenni, gyda phob un yn ceisio gwneud yn well na'r llall gyda chynnyrch cyflymach a gwell.

Creodd a rhyddhaodd Netscape JavaScript, a roddodd i wefannau cyfrifiadura alluoedd pwerus nad oeddent erioed wedi'u cael o'r blaen. (Nhw hefyd greodd y tag <blink> anenwog.) Cyflwynodd Microsoft Cascading Style Sheets (CSS), a ddaeth yn safon ar gyfer dylunio tudalennau gwe.

Aeth pethau bach yn flêr 1997 pan ryddhaodd Microsoft Internet Explorer 4.0. Adeiladodd y tîm lythyr mawr “e” a'i osod ar lawnt pencadlys Netscape. Dymchwelodd y tîm Netscape y “e” yn reit handi a rhoi eu masgot dinosor Mozilla eu hunain ar ei ben.

Yna cychwynnodd Microsoft ddarparu Internet Explorer gyda'u system weithredu Windows. O fewn 4 blynedd, roedd ganddo 75 % o'r farchnad ac erbyn 1999 99 % o'r farchnad. Roedd y cwmni'n wynebu ymgyfreitha gwrth-ymddiriedaeth oherwydd y weithred, a phenderfynodd Netscape agor eu cod ffynhonnell a chreu y corff nid-er-elw Mozilla, a aeth ymlaen i greu a rhyddhau Firefox yn 2002. Gan sylweddoli nad oedd cael monopoli porwr er lles defnyddwyr a'r we agored, crëwyd Firefox i roi dewis i ddefnyddwyr y we. Erbyn 2010, roedd gan Mozilla Firefox ac eraill wedi lleihau cyfran marchnad Internet Explorer i 50 %.

Daeth cystadleuwyr eraill i'r amlwg yn ystod y ‘90au hwyr a dechrau'r 2000au, gan gynnwys Opera, Safari, a Google Chrome. Disodlodd Microsoft Edge Internet Explorer yn 2015 gyda ryddhau Windows 10.

Pori'r We Heddiw

Heddiw, dim ond llond dwrn o ffyrdd sydd ar gael i gael mynediad i'r rhyngrwyd. Firefox, Google Chrome, Microsoft Edge, Safari ac Opera yw'r prif gystadleuwyr. Mae dyfeisiau symudol wedi dod i'r amlwg yn ystod y degawd diwethaf fel y ffordd orau o gael mynediad i'r rhyngrwyd. Heddiw, mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn defnyddio porwyr symudol a rhaglenni i fynd ar-lein. Mae fersiynau symudol o'r prif borwyr ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android. Er bod yr apiau hyn yn ddefnyddiol iawn at ddibenion penodol, dim ond mynediad cyfyngedig i'r we ydynt.

Yn y dyfodol, mae'n debygol y bydd y we yn crwydro ymhellach o'i wreiddiau hyperdestun i ddod yn fôr enfawr o brofiadau rhyngweithiol. Mae realiti rhithwir wedi bod ar y gorwel ers degawdau (o leiaf ers i Lawnmower Man gael ei ryddhau yn 1992 a'r Nintendo Virtual Boy ym 1995), ond efallai y bydd y we yn dod ag ef i'r dorf. Erbyn hyn mae gan Firefox gefnogaeth ar gyfer WebVR ac A-Frame, sy'n gadael i ddatblygwyr adeiladu gwefannau rhith-realiti yn gyflym ac yn hawdd. Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol modern yn cefnogi WebVR, ac mae modd eu defnyddio'n hawdd fel pensetiau gydag chas cardfwrdd syml. Gall gwe rhith-realiti 3D fel yr un sy'n cael ei dychmygu gan yr awdur ffuglen wyddonol Neal Stephenson fod rownd y gornel. Os felly, gall y porwr gwe ei hun ddiflannu'n llwyr a dod yn wir ffenestr i fyd arall.

Beth bynnag yw dyfodol y we, bydd Mozilla a Firefox ar gael ar gyfer defnyddwyr, gan sicrhau bod ganddyn nhw offer pwerus i brofi'r we a'r cyfan sydd ganddo i'w gynnig. Mae'r we ar gyfer pawb, a dylai pawb fod â rheolaeth dros eu profiad ar-lein. Dyna pam rydym yn gosod offer Firefox i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr ac nid ydym byth yn gwerthu data defnyddwyr i hysbysebwyr.

Adnoddau

Cymerwch reolaeth o'ch porwr.

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox