Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mozilla VPN

Beth yw cyfeiriad IP?

Mae Mozilla yn ateb eich holl gwestiynau am gyfeiriadau IP o'r hyn sy'n gyfeiriad IP, i sut mae'n gweithio, ac a ddylech chi ei guddio.

Bob tro rydych ar y rhyngrwyd, mae cyfeiriadau IP yn chwarae rhan hanfodol yn y cyfnewid gwybodaeth i'ch helpu chi i weld y gwefannau rydych chi'n gofyn amdanyn nhw. Ac eto, mae siawns nad ydych chi'n gwybod beth yw un, felly rydyn ni'n cynnig atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin isod.

Beth yw cyfeiriad IP?

Mae eich cyfeiriad IP yn ddynodwr unigryw, yn debyg i gyfeiriad postio, sy'n gysylltiedig â'ch gweithgaredd ar-lein. Pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r rhyngrwyd (siopa ar-lein, anfon e-byst, ffrydio teledu), rydych chi'n gofyn am fynediad i gyrchfan ar-lein benodol, ac yn gyfnewid am hynny, mae gwybodaeth yn cael ei anfon nôl atoch chi. Sut mae hynny'n gweithio? Wel, mae'r IP yn sefyll am Internet Protocol, sy'n nodi'r safonau a'r rheolau (ie, sydd hefyd yn cael eu galw'n brotocol) ar gyfer llwybro data a chysylltu â'r rhyngrwyd. Mae'r protocol hwn yn set o reolau y mae'n rhaid i bob parti eu dilyn i ganiatáu llif data dau-gyfeiriadol. Mae eich cyfeiriad IP yn ddynodwr unigryw, yn debyg i gyfeiriad postio, sy'n gysylltiedig â'ch gweithgaredd ar-lein. Pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r rhyngrwyd (siopa ar-lein, anfon e-byst, ffrydio teledu), rydych chi'n gofyn am fynediad i gyrchfan ar-lein benodol, ac yn gyfnewid am hynny, mae gwybodaeth yn cael ei anfon nôl atoch chi. Sut mae hynny'n gweithio? Wel mae'r IP yn sefyll am Internet Protocol, sy'n nodi'r safonau a'r rheolau (ie, sydd hefyd yn cael eu galw'n brotocol) ar gyfer llwybro data a chysylltu â'r rhyngrwyd. Mae'r protocol hwn yn set o reolau y mae'n rhaid i bob parti eu dilyn i ganiatáu llif data dau-gyfeiriadol.

Enghraifft o gyfeiriad IP sy'n ddilyniant o bedwar rhif, wedi'u gwahanu gan ddegolion: 123.45.67.89
Os fyddwch yn chwilio am eich cyfeiriad IP, bydd yn edrych rhywbeth fel hyn.

A yw'n teithio gyda chi?

Na. Dim ond un lleoliad y mae eich cyfeiriad IP yn gysylltiedig ag ef, oni bai eich bod yn defnyddio VPN (byddwn yn edrych yn fanylach ar hynny yn nes ymlaen). Pan fyddwch yn eich cartref ac yn cysylltu â'r rhyngrwyd ac yn talu amdano, rydych chi'n defnyddio un. Fodd bynnag, os gwiriwch eich e-bost gartref yn y bore, yna edrych ar y newyddion mewn siop goffi leol wrth aros am eich coffi, ac yna gweithio o swyddfa, byddwch wedi defnyddio cyfeiriadau IP gwahanol ym mhob lleoliad.

A yw eich cyfeiriad IP yn newid?

Ydy. Hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r rhyngrwyd gartref yn unig, gall cyfeiriad IP eich cartref newid. Gallwch gysylltu â'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i'w newid, ond gall hyd yn oed rhywbeth mor gyffredin ag ailgychwyn eich modem neu'ch llwybrydd oherwydd problemau cysylltiad rhyngrwyd arwain at newid.

A all mwy nag un ddyfais gael yr un cyfeiriad IP?

Mae hwn yn un anodd - yr ateb yw gall a na. Gall mwy nag un ddyfais rannu'r un cyfeiriad IP allanol (cyhoeddus), ond bydd gan bob dyfais ei chyfeiriad IP lleol (preifat) ei hun. Er enghraifft, mae eich ISP (darparwr gwasanaeth rhyngrwyd) yn sefydlu'ch cartref gydag un cyfeiriad IP allanol. Gan mai eich llwybrydd yw'r hyn sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd mewn gwirionedd, mae'r cyfeiriad IP yn cael ei roi i'ch llwybrydd. Yna bydd eich llwybrydd yn aseinio cyfeiriad IP lleol i bob dyfais sydd wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd ar y tro. Y cyfeiriad IP allanol yw'r hyn sy'n cael ei rannu gyda'r byd y tu allan. Nid yw eich cyfeiriad IP lleol yn cael ei rannu y tu allan i'ch rhwydwaith cartref preifat.

A allwn ni redeg allan ohonyn nhw?

Pan ddyluniwyd y Rhyngrwyd yn wreiddiol, roedd yn defnyddio cyfeiriadau “fersiwn 4”. Mae'r rhain yn 32 darn, sy'n golygu y gallem gael hyd at 4.2bn cyfeiriad. Roedd hyn yn ymddangos fel digon ar y pryd, ond nid yw unrhyw le'n ddigon mewn byd lle mae gan gartref cyffredin yn yr Unol Daleithiau tua 11 dyfais gysylltiedig.

Bellach mae gennym gyfeiriadau IP fersiwn 6, sydd â 128 darn i bob cyfeiriad. Yn anffodus, nid yw fersiwn 4 a fersiwn 6 yn gallu siarad â’i gilydd yn uniongyrchol, felly bydd angen cyfeiriadau fersiwn 4 ar bobl am gyfnod maith.

A ddylech chi guddio'ch cyfeiriad IP?

Does dim angen i chi guddio'ch cyfeiriad IP, ond mae yna rai adegau efallai yr hoffech chi wneud hynny. Y rheswm mwyaf cyffredin yw preifatrwydd. Yn yr Unol Daleithiau, gwrthwynebodd y Gyngres reoliadau preifatrwydd a ddyluniwyd i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr band eang. Gall darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd weld eich arferion pori, beth rydych chi'n defnyddio'r rhyngrwyd i'w wneud, a pha mor hir rydych chi'n ei dreulio ar bob tudalen. Nid yw'r cyfathrebiad hwn wedi'i amgryptio, felly gall trydydd parti weld pa wefan rydych chi'n ymweld â hi. Un ffordd o frwydro yn erbyn hyn yw DNS-dros-HTTPS (DoH). Mae hyn yn amgryptio eich traffig DNS (System Enw Parth), gan ei gwneud hi'n anoddach i ISPau weld y gwefannau rydych chi'n ceisio ymweld â nhw. Ar gyfer defnyddwyr Firefox, yn yr Unol Daleithiau mae eich ymholiadau DoH yn cael eu cyfeirio at weinyddion DNS dibynadwy yn ragosodedig, gan ei gwneud yn anoddach eich cysylltu â'r gwefannau rydych chi'n ceisio i ymweld â nhw.

Mae yna hefyd resymau sefyllfaol i guddio'ch cyfeiriad IP. Efallai yr hoffech ei guddio wrth deithio. Bydd VPN hefyd yn rhoi mwy o breifatrwydd i chi wrth gysylltu â WiFi i ffrydio a siopa wrth i chi deithio'r byd.

Sut ydych chi'n ei guddio?

Mae VPN yn ffordd i guddio'ch cyfeiriad IP. Pan fyddwch yn defnyddio'ch VPN, bydd eich cyfeiriad IP allanol yn dod o IP allanol gweinydd VPN, yn hytrach na chyfeiriad IP allanol eich lleoliad. Felly os yw'ch gweinydd VPN cysylltiol wedi'i leoli yng Nghaliffornia, bydd eich IP allanol yn edrych fel ei fod wedi'i gysylltu o California, lle bynnag rydych chi mewn gwirionedd. Hefyd, mae eich gweithgaredd ar-lein yn cael ei anfon dros gysylltiad diogel wedi'i amgryptio i'ch gweinydd VPN, gan gynnig diogelwch a phreifatrwydd ychwanegol. Mae Mozilla VPN yn un ffordd i guddio'ch cyfeiriad IP. Nid ydym yn cadw cofnodion gweithgaredd nac yn partneru gyda llwyfannau dadansoddeg trydydd parti. Rydym yn cynnig diogelwch dyfais lawn ar gyfer hyd at bum dyfais gyda gweinyddwyr mewn 30+ gwlad, gallwch gysylltu ag unrhyw le, o unrhyw le.