Mozilla VPN
Diogelwch eich hun ar-lein gyda Mozilla VPN ar gyfer iOS
Sicrhewch ddiogelwch cyflym, hawdd ar eich iPhone neu iPad drwy Mozilla, un o'r enwau mwyaf dibynadwy mewn technoleg.
Gweld y prisio a'r argaeledd

Eich preifatrwydd yw ein haddewid
Teimlwch yn ddiogel rhag hacwyr a llygaid busneslyd pan fyddwch ar-lein — gartref ac allan o gwmpas — gyda Mozilla VPN. Am ffi fisol isel, mae'n defnyddio protocol uwch WireGuard® i amgryptio data personol ar eich iPhone, iPad a'r mwyafrif o ddyfeisiau eraill, gan adael i chi ffrydio sioeau, chwarae gemau, siopa, a mynd ymlaen â'ch bywyd bob dydd ar-lein gan wybod eich bod yn ddiogel.
Fel gwneuthurwr y porwr gwe Firefox ac un o amddiffynwyr mwyaf ffyrnig preifatrwydd ar y rhyngrwyd, mae gan Mozilla ymrwymiad dwfn i'ch preifatrwydd a'ch diogelwch bob tro y byddwch chi'n mynd ar-lein.

Beth gewch chi gyda Mozilla VPN:
- Diogelwch hyd at 5 o ddyfeisiau
- Mynediad i weinyddion mewn 30+ gwlad
- Amgryptio ar lefel dyfais
- Dim cyfyngiadau lled band
- Dim cofnodi gweithgaredd ar-lein nawr na byth

Cadwch yn ddiogel ar-lein pan fyddwch chi ar grwydr
Yn defnyddio wifi cyhoeddus? Dim problem. Mae Mozilla VPN yn gadael i chi deimlo'n rhydd i wirio'ch cyfrif banc o gaffi, golygu'ch cyfrineiriau ar gornel stryd - yn y bôn, gallwch chi wneud popeth rydych chi'n ei wneud fel arfer ar eich iPhone neu iPad gyda thawelwch meddwl.

Cysylltiad 1 clic
Mae Mozilla VPN yn hawdd iawn i'w ddefnyddio. Tapiwch fotwm a bydd yn amgryptio'ch cysylltiad ac yn cymylu'r cyfeiriad IP ar eich iPhone neu iPad gan ddefnyddio protocol uwch WireGuard®.

Cysylltu i 500+ gweinydd ledled y byd
Siopwch o'r Swistir. Ffrydiwch o Ganada. Syrffiwch o Awstralia. Gyda Mozilla VPN, gallwch osod eich lleoliad iPhone neu iPad i un o 30+ gwlad, gan eich agor i fyd o gynnwys cyffrous.

Sicrhewch fynediad ar gyfer 5 dyfais
Gydag un tanysgrifiad, gallwch gael Mozilla VPN ar hyd at 5 dyfais wahanol, gan gynnwys iOS ar gyfer iPhone a iPad, Android, Mac, Windows a Linux.

Cyflymder uchaf. Data diderfyn.
Chwaraewch gemau ar-lein, ffrydio'ch hoff sioeau, a theithio amgylch y we ar gyflymder uchel iawn. Peidiwch â phoeni am eich lled band ar Mozilla VPN - mae'n ddiderfyn.

Mae eich data yn aros yn breifat. Dyna ni.
Mae rhai darparwyr VPN yn cofnodi eich gweithgaredd ar eu gweinyddwyr. Nid yn unig nid yw Mozilla VPN yn eich tracio ar-lein - rydym yn gwrthwynebu hynny'n gryf. Mae'n rhan amlwg o'r hyn rydyn ei gredu fel cwmni.