Mozilla VPN

VPN ar gyfer Android gan Mozilla

Lleddfwch eich Pryderon Diogelwch gyda Mozilla VPN ar gyfer Android

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

P'un a ydych gartref, yn y gwaith, neu'n dychmygu enw doniol ar gyfer eich archeb coffi wrth dalu, diogelu eich diogelwch ar-lein yw prif flaenoriaeth Mozilla. Fel llawer o gynnyrch technoleg glyfar, mae gan ddyfeisiau Android nodweddion diogelwch integredig sy'n amddiffyn eich dyfais. Gyda VPN ar gyfer Android gan Mozilla, gallwch gymryd eich diogelwch ymhellach gyda dim ond tap o'ch bys.

Gan ddefnyddio'r protocol VPN cyflym a diogel WireGuard, mae ein VPN yn gallu amgryptio'r traffig rhyngrwyd rhwng eich dyfais a rhwydwaith gweinyddwyr VPN. Mae hyn yn ein helpu i ddiogelu eich traffig gwe pan fyddwch ar daith. Mae fel y caead sy'n amddiffyn eich te gwyrdd gyda mêl rhag y pryf sy'n hedfano amgylch y bwrdd.

Sut mae VPN yn diogelu fy nyfais Android?

Mae VPNs yn helpu i atal:

  • Eich gweithgaredd rhyngrwyd rhag bod yn weladwy, ac yna ei werthu neu ei rannu gyda hysbysebwyr.
  • Ansawdd ffrydio fideo isel oherwydd lled band arafach a chyfyngedig gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP)
  • Eich data personol yn cael ei ddwyn wrth ddefnyddio rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus.

Pam ddylwn i lwytho i lawr Mozilla VPN ar gyfer Android?

  • Porwch y rhyngrwyd heb ddatgelu eich lleoliad.
  • Bod yn fwy cyfforddus yn defnyddio Wi-Fi cyhoeddus mewn caffis, meysydd awyr, a mwy.
  • Osgoi hysbysebu ymwthiol seiliedig ar leoliad.

Mae ap symudol Mozilla VPN yn fach, felly nid yw'n defnyddio gormod o'ch cof, ac ni fydd yn arafu'ch ffôn nac yn llosgi trwy'ch batri.

Yn wahanol i VPNs neu wefannau dirprwy am ddim, a all dalu am eu gweinyddwyr trwy ysbïo arnoch chi a gwerthu eich manyion, nid yw Mozilla yn cadw cofnodion o ble rydych chi'n mynd a beth rydych chi'n ei wneud.