Mozilla VPN

VPN ar gyfer cyfrifiadur personol neu liniadur gan Mozilla

Os ydych chi'n chwilio am VPN i ddiogelu eich gliniadur neu'ch cyfrifiadur personol, ystyriwch Mozilla VPN. Mae Mozilla VPN yn cael ei gefnogi gan gwmni dim-er-elw. Dysgwch sut mae VPN yn eich amddiffyn a pham y dylech ymddiried yn Mozilla gyda'ch preifatrwydd a'ch diogelwch.

Cael Mozilla VPN

Sut mae VPN yn diogelu fy ngliniadur neu gyfrifiadur personol?

Gall VPNs ddarparu haen ychwanegol o ddiogelwch ar gyfer eich gliniadur neu gyfrifiadur personol a helpu i'ch amddiffyn rhag ymdrechion hacio, ymosodiadau gwe-rwydo, a bygythiadau ar-lein eraill. Mae VPNs yn amgryptio'ch data a'ch lleoliad trwy greu “twnnel” rhwng eich cyfrifiadur a'r rhyngrwyd. Os nad yw'ch gliniadur neu'ch cyfrifiadur personol yn defnyddio VPN, efallai y bydd hacwyr a thrydydd partïon yn gallu rhyng-gipio'ch traffig, gan roi eich preifatrwydd mewn perygl.

Mae yna sawl rheswm pam y dylech chi ddefnyddio VPN i ddiogelu eich hun wrth ddefnyddio'ch gliniadur neu'ch cyfrifiadur personol:

  • Preifatrwydd cryfach: Gan fod VPN yn cuddio'ch cyfeiriad IP, gallwch bori'r rhyngrwyd yn fwy preifat, gan wybod na all casglwyr data pwytho'ch gweithgaredd sy'n defnyddio'ch IP fel dynodwr unigryw.
  • Yn fwy diogel rhag ysbïo: Mae amgryptio'ch data trwy VPN yn ei gwneud bron yn amhosibl i unrhyw un sy'n ceisio gwrando ar eich cysylltiad rhwydwaith wybod beth rydych chi'n cyfathrebu a gyda phwy.