Y peiriant Firefox diweddaraf: Firefox Quantum

Roedd Firefox Quantum yn chwyldroadol yn natblygiad Firefox. Yn 2017, fe wnaethon ni greu porwr newydd, eithriadol o gyflym sy'n gwella'n barhaus. Firefox Quantum yw Firefox Browser.

Rhagor am Firefox Quantum

  • Preifatrwydd yn gyntaf

    Nid yw Firefox yn ysbio arnoch chi ar-lein. Rydym yn atal llawer o gwcis tracio trydydd parti ac yn rhoi rheolaeth lawn i chi.

  • Cyflym Iawn

    Cael cyflymder a diogelwch. Mae Firefox yn gyflym oherwydd nad ydym yn tracio'ch symudiadau.

  • Yn esblygu'n barhaus

    Darganfyddwch yr holl nodweddion anhygoel sydd yn Firefox.