Croeso i Mozilla
O dechnoleg ddibynadwy i bolisïau sy'n diogelu eich hawliau digidol, chi yw ein blaenoriaeth - bob tro.
Caru'r rhyngrwyd eto
Torrwch yn rhydd rhag y cwmnïau technoleg mawr — mae ein cynnyrch yn gadael i chi reoli eich profiad rhyngrwyd i fod yn fwy diogel a phreifat.
- Firefox: Y safon aur ar gyfer pori cyflym, preifat a rheolaeth.
- Thunderbird: Symleiddio eich bywyd gydag un ap ar gyfer eich holl e-byst, calendrau a chysylltiadau.
- Mozilla VPN: Cadw eich lleoliad ac anturiaethau ar-lein yn breifat - ffrydio fel person lleol, yn unrhyw le.
- Mozilla Monitor: Cael gwybod os yw'ch manylion personol mewn perygl a'u diogelu'n iawn.
- Firefox Relay: Cuddio eich e-bost a'ch rhif ffôn fel mai dim ond y negeseuon rydych chi eu heisiau y byddwch chi'n eu cael.
Rhoi i'r Mozilla Foundation
Mae'r Mozilla Foundation yn adeiladu dyfodol lle mae technoleg yn cael ei phweru gan bobl, ac wedi'i gynllunio i fod yn agored. Dyna pam rydyn ni'n cefnogi technoleg sy'n canolbwyntio ar y gymuned trwy eiriolaeth, addysg, cyllid ac arloesi - i wneud yn siŵr bod dyfodol technoleg yn dda i bawb. Ond dim ond os ydym yn ei wneud gyda'n gilydd y mae hynny'n bosibl.
Rydym yn falch ein bod yn gorff dim-er-elw. A wnewch chi gyfrannu at Mozilla heddiw?
Ymunwch â'r symudiad:
AI ar gyfer y bobl
Ein cenhadaeth yw ei gwneud hi'n hawdd i bobl adeiladu a chydweithio ar AI cod agored a dibynadwy.
Common Voice

Cyfrannwch eich llais i wneud technoleg lleferydd yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
Cyfrannwch eich llais
A all AI fod yn ddibynadwy?

Mewn byd lle mae arloesedd AI yn cael ei yrru gan ychydig ddethol, rydym mewn perygl o fonopoleiddio'r dechnoleg hon. Gallai cymhwyso cysyniadau cod agored i AI newid hynny.
Gwyliwch nawr
Lumigator

Dewch o hyd i'r LLM cywir ar gyfer eich anghenion, achos defnydd a data.
Cychwyn arni
Unrhyw Asiant

Peidio rhaffu offer at ei gilydd a gwarchod awtomatiaethau brau. Gyda'r Llwyfan Asiant Mozilla.ai, rydych chi'n disgrifio'ch nod, rydyn ni'n cynhyrchu asiantau AI addasol sy'n gweithio gyda'ch offer a'ch prosesau.
Cychwyn arni
Mozilla Ventures

Oes gennych chi gwmni cychwynnol cyfnod cynnar? Cynigiwch eich cwmni i Mozilla Ventures a chael cyllid i greu newid cadarnhaol ar gyfer dyfodol AI a'r rhyngrwyd.
Darllen rhagor
Chi, AI a'r rhyngrwyd — beth sy'n digwydd mewn gwirionedd?
-
MathPwncCyflwyniad
-
ErthyglNewyddionShake to Summarize in TIME’s Best Inventions of 2025
-
ErthyglNewyddionMozilla welcomes Raffi Krikorian as Chief Technology Officer
-
ErthyglAI Cod AgoredPrif Swyddog Gweithredol Mozilla.ai yn sôn am fanteision AI cod agored
-
ErthyglCynnyrchDyma Thundermail a Thunderbird Pro
-
FideoPreifatrwydd a DiogelwchWhat comes next in tech is a choice. Choose with us.
-
ErthyglAI Cod AgoredHow Ventures Investee Germ is Strengthening Encryption
-
ErthyglNewyddion‘A good moment in time for us’: Firefox head on AI browsers and what’s next for the web
-
ErthyglNewyddionCyfweliad: Taking Open Source Into the AI Era
-
ErthyglNewyddionMae Mozilla Ventures yn ariannu platfform rhwydweithio Filament
-
ErthyglNewyddionNeges newydd Mozilla: Ni yw'r unig borwr nad yw'n cael ei gefnogi gan biliwnyddion
-
FideoAI Cod AgoredWill AGI Be a Reality — and Are We Ready?
-
PodlediadDeallusrwydd ArtiffisialSgwrs: Charting a future to access and agency
-
ErthyglDeallusrwydd ArtiffisialOpen By Design: How Nations Can Compete in the Age of AI
-
ErthyglNewyddionMae Mozilla.ai yn dilyn cwrs newydd gyda thro tuag at bod yn broffidiol
Mozilla Data Collective
Creu. Curadu. Rheoli.
Mae Data Collective Mozilla yn ailadeiladu'r ecosystem ddata AI gyda chymunedau yn ganolog iddo. Cewch fynediad at dros 300 o setiau data byd-eang o ansawdd uchel, wedi'u hadeiladu gan y gymuned ac ar ei chyfer mewn ffordd dryloyw a moesegol.
Safbwynt Mozilla
Mae Mozilla yn ailddyfeisio ei hun, gan arallgyfeirio o amgylch clwstwr o sefydliadau, ail-ddychmygu hysbysebu a chreu ecosystem AI cod agored. Darllenwch amdano yn adroddiad State of Mozilla 2024.
2024
m24-home-explore-issues-shaping
Y Peiriannau Dilysu

Yn The Atlantic, mae Mozilla CTO Raffi Krikorian yn gofyn pam mae sgwrsfotiau ac AI cynhyrchiol mor awyddus i'n plesio ni, a beth mae'n ei olygu i ddynoliaeth. (llun trwy garedigrwydd The Atlantic)
Darllen rhagor
Podlediad IRL

Mae ein podlediad wedi ennill sawl gwobr drwy gyflwyno’r rhai sy’n creu newid ac yn gweithio i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel a deallusrwydd artiffisial yn fwy dibynadwy.
Gwrando nawr
Outside the Fox
Dyma lle rydyn ni'n archwilio beth sy'n digwydd ar-lein a pham ei fod yn bwysig, o pam fod slop yn cymryd drosodd y rhyngrwyd i ddiwylliant rhyngrwyd firaol.
