Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Cenhadaeth rymus. Pŵer pobl.

Nid ydym yn gwmni technoleg arferol. Mae'r pethau rydyn ni'n eu creu yn rhoi pobl yn gyntaf a'u preifatrwydd dros elw. Rydym yn bodoli i wneud y rhyngrwyd yn lle iachach ac hapusach i bawb.

“Iechyd y rhyngrwyd a bywyd ar-lein yw pam rydyn ni’n bodoli.”

Mitchell Baker, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Mozilla Foundation

Mae Mozilla yn creu cynnyrch sy'n parchu preifatrwydd

“Mae Mozilla yn hyderus bod modd dangos i’r byd bod modd gwneud busnes gydag AI dibynadwy. Mae hynny’n cynnwys rhoi pethau fel hawliau dynol, diogelu data a thryloywder wrth wraidd y ffordd y mae’r systemau cymhleth hyn yn gweithio.”

Gwleidyddiaeth

A yw Mozilla yn gorfforaeth neu'n gorff dim-er-elw? Y gwir yw, y ddau.

Mae Mozilla yn cynnwys dau sefydliad. Mae'r Mozilla Corporation yn eiddo'n gyfan gwbl y Mozilla Foundation y corff dim-er-elw 501(c). Mae hyn yn golygu nad ydym ynghlwm wrth unrhyw gyfranddalwyr - dim ond i'n cenhadaeth.

Rhagor am y Mozilla Foundation

Ymunwch â'r frwydr dros rhyngrwyd iach

Eich llais. Eich cod. Eich syniadau. Mae yna filoedd o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu at Mozilla.

Gwirfoddoli gyda Mozilla

Y tro hwnnw i ni roi ein cod ffynhonnell i ffwrdd…

Sefydlwyd project Mozilla yn San Francisco yn 1998, pan wnaeth porwr Netscape y penderfyniad radical i roi cod ei raglen i'r cyhoedd i adeiladu arno a'i wella. Bryd hynny, roedd gan un cwmni fonopoli llawn ar brofiad pobl o'r rhyngrwyd.

Yn y pen draw, trawsnewidiodd project cod agored Mozilla i'r fersiwn gyntaf hynod boblogaidd o Firefox.

Heddiw, mae Mozilla yn parhau â'i symudiad tuag at well rhyngrwyd gyda miliynau o aelodau gweithgar o'r gymuned ar draws y byd, gan eiriol dros dechnoleg foesegol, AI dibynadwy ac yn cynhyrchu cynnyrch sy'n blaenori preifatrwydd ac yn rhoi mwy o bŵer i'r bobl.