Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mae cynnych Firefox wedi'u cynllunio i ddiogelu eich preifatrwydd

Dylech allu penderfynu pwy sy'n gweld eich manylion personol. Nid yn unig ymhlith eich ffrindiau, ond gyda phob hysbysebwr a chwmni ar y rhyngrwyd - gan gynnwys ni.

Dyna pam mae popeth rydyn ni'n ei greu a'i wneud yn anrhydeddu ein Addewid Data Personol

Cymryd Llai

Rydym yn gwneud pwynt o wybod llai amdanoch chi

Mae pob cwmni technoleg yn casglu data i wella eu cynnyrch. Ond nid oes angen iddo gynnwys cymaint o'ch manylion personol. Yr unig ddata rydyn ni ei eisiau yw'r data sy'n eich gwasanaethu chi yn y diwedd. Rydyn ni'n gofyn i ni'n hunain: ydyn ni angen hyn mewn gwirionedd? Ar gyfer beth mae ei angen arnom? A phryd allwn ni ei ddileu?

Ei gadw'n ddiogel

Rydym ni'n gwneud y gwaith caled o ddiogelu eich manylion personol

Mae diogelwch data yn gymhleth - neu o leiaf dylai fod. Dyna pam rydyn ni'n cymryd y camau ychwanegol i ddosbarthu'r data sydd gennym ni, cynnal rheolau ar gyfer sut rydyn ni'n storio ac yn amddiffyn pob math, a pheidio byth â pheidio byth ag ailadrodd ein prosesau. Rydym yn blaenoriaethu eich preifatrwydd. Rydym yn buddsoddi ynddo. Rydym wedi ymrwymo iddo. Rydyn ni hyd yn oed yn dysgu cwmnïau eraill sut i wneud hynny.

Dim cyfrinachau

Byddwch bob amser yn gwybod ble rydych chi'n sefyll gyda ni

Does dim agenda gudd yma. Nid yw ein busnes yn dibynnu ar gam-ddefnyddio eich ymddiriedaeth yn dawel fach. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn hawdd i'w ddarllen. Os ydych chi am gloddio i bob pwynt data rydyn ni'n ei gasglu, mae ein cod yn agored. Ac felly ninnau hefyd.

  • Pam ymddiried yn Firefox?

    Oherwydd ein bod ni'n blaenoriaethu pobl. Mewn gwirionedd, mae nid-er-elw yn gefn inni. O'r cychwyn cyntaf, ein cenhadaeth oedd amddiffyn y rhyngrwyd a phawb arno.

    Dysgu rhagor am ein cenhadaeth

  • Eich preifatrwydd, yn ôl y cynnyrch

    Mae cynnyrch Firefox yn gweithio'n wahanol - oherwydd eu bod wedi'u cynllunio i flaenoriaethu ddiogelu eich preifatrwydd.

    Dysgu am ein cynnyrch

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd ein cynnyrch