Firefox Focus

Pori symudol preifat

Firefox Focus yw eich porwr preifatrwydd pwrpasol gyda diogelwch rhag tracio awtomatig. Gyda Focus, mae eich tudalennau'n llwytho'n gyflymach ac mae'ch data'n aros yn breifat.

Mae Firefox Focus ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android.

Cael Firefox Focus

Sganiwch y cod QR i gychwyn

Sganiwch y cod QR i gael Firefox Focus

Dilëwch eich hanes

Dilëwch eich hanes, cyfrineiriau a chwcis yn hawdd, felly nid yw hysbysebion diangen yn eich dilyn o gwmpas ar-lein. Tapiwch y botwm dileu ar y maes chwilio ac mae wedi mynd.

Ewch â'r modd preifat i'r lefel nesaf

Nid yw “pori preifat” ar y mwyafrif o borwyr yn breifat iawn. Mae Firefox Focus yn fwy preifat drwy ragosodiad ac yn cael ei gefnogi gan Mozilla, y corff dim-er-elw sy'n brwydro dros eich hawliau ar y we.

Diogelwch rhag Tracio

Mae Firefox Focus yn rhwystro ystod eang o dracwyr cyffredin fel rhagosodiad gan gynnwys tracwyr cymdeithasol a'r rhai gludiog hynny sy'n dod o bethau fel hysbysebion Facebook.

Gweld y cyfan yn gyflymach

Mae Focus yn dileu tracwyr, felly mae angen llai o ddata ar y tudalennau rydych chi'n edrych arnyn nhw ac yn llwytho'n gynt o lawer. Hefyd, piniwch hyd at bedwar llwybr byr ar eich sgrin gartref a chyrraedd eich hoff wefan yn gynt heb deipio dim.

Gwnaed gan Mozilla

Rydym yn credu y dylai pawb reoli eu bywydau ar-lein. Dyna beth rydyn ni wedi bod yn ymladd drosto ers 1998.