Er bod Microsoft’s Internet Explorer yn dal i fod wedi ei osod ar y mwyafrif o gyfrifiaduron personol Windows, mae'n amlwg y byddai’n well gan Microsoft i chi ddefnyddio eu porwr Edge, wedi ei osod yn barod pan fyddwch yn prynu eich cyfrifiadur.
Daeth Microsoft ag Internet Explorer i ben sawl blwyddyn yn ôl, gan ddod â porwr newydd, Edge ar gyfer Windows 10. Fodd bynnag, yn araf iawn y cafodd Edge ei fabwysiadu gan greu lle i Internet Explorer barhau, yn bennaf am resymau cydnawsedd busnes.
Yma byddwn yn cymharu ein porwr Firefox Browser ag Internet Explorer o ran diogelwch, gwasanaethau a hygludedd. Byddwn yn eich helpu i ddeall y gwahaniaethau rhwng sut mae porwr modern fel Firefox sy'n cadw at safonau gwe yn cymharu â'r porwr rydych chi'n ei ddefnyddio at ddibenion busnes neu oherwydd eich bod chi wedi hen arfer ag e.

Diogelwch a Phreifatrwydd
Diogelwch a Phreifatrwydd | ![]() |
|
---|---|---|
Modd Pori Preifat | ||
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti | ||
Yn rhwystro sgriptiau cryptogloddio | ||
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol |
Os nad ydych wedi symud ymlaen o ddefnyddio Internet Explorer, dylai'r ffactor risg diogelwch yn unig fod yn ddigon i'ch argyhoeddi. Mae pennaeth diogelwch Microsoftei hun wedi rhybuddio miliynau o bobl sy’n parhau i ddefnyddio Internet Explorer fel eu prif borwr gwe eu bod yn gosod eu hunain mewn “perygl.”
Nid yw Microsoft bellach yn cynnal unrhyw ddatblygu ar Internet Explorer, sy'n golygu bod pryderon diogelwch yn rhemp. Yn y bôn, mae Microsoft yn cydnabod yn agored y ffaith bod gwendidau'n bodoli ym mhob fersiwn o Internet Explorer.
Felly beth yw'r ateb os yw'ch cwmni'n rhedeg apiau blaenorol sydd ddim ond yn gweithio ar Internet Explorer? Ein cyngor gorau yw, peidiwch â chymysgu busnes â phleser. Rydym mewn gwirionedd yn argymell defnyddio'r estyniad Legacy Browser Support ar gyfer Windows. Mae'r estyniad hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr agor set o URLau wedi'u diffinio ymlaen llaw yn Internet Explorer yn awtomatig a newid yn ôl i Firefox wrth lywio i barth gwahanol.
Gwasanaethau:
Gwasanaethau | ![]() |
|
---|---|---|
Yn rhwystro awtochwarae | ||
Pori tabiau | ||
Rheolwr nodau tudalen | ||
Yn llenwi ffurflenni yn awtomatig | ||
Dewis peiriant chwilio | ||
Testun i leferydd | ||
Modd darllen | ||
Gwirio sillafu | ||
Estyniadau gwe/Ychwanegion | ||
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr |
Yn rhyfeddol, mor ddiweddar â 2009 roedd 4 i 5% o'r holl draffig gwe bwrdd gwaith yn dod trwy Internet Explorer. Efallai nad yw hynny'n ymddangos yn llawer, ond mewn gwirionedd mae'n golygu bod miliynau o bobl yn cael profiad rhyngrwyd gwael gydag amseroedd llwytho a rendro araf, tudalennau nad ydyn nhw'n eu dangos yn iawn - yn ychwanegol at y materion diogelwch dybryd hyn.
Mewn gwirionedd yr unig resymau dros ddefnyddio Internet Explorer yw i ddatblygwyr brofi sut olwg sydd ar eu gwefannau ar borwr hŷn neu os oes gan gwmni raglenni sy'n hanfodol i fusnes sy'n gweithio gyda'r porwr Internet Explorer yn unig.
Ar ben arall y sbectrwm, mae Firefox yn un o'r porwyr sy'n cael eu diweddaru amlaf, ac mae'n llawn o nodweddion defnyddiol a diddorol, fel Pocket sy'n awgrymu cynnwys diddorol bob tro y byddwch chi agor tab newydd. Mae ein bar chwilio a chyfeiriad cyfun, neu'r Bar Quantum fel rydyn ni'n ei alw, hefyd yn cynnig awgrymiadau yn seiliedig ar eich nodau tudalen a'ch tagiau presennol, hanes, tabiau agored a chwiliadau mynych. A chyda chyfrif Firefox am ddim rydych hefyd yn cael mynediad i'ch holl leoliadau a'n cynnyrch Firefox eraill ar unrhyw ddyfais dim ond trwy fewngofnodi. Mae hyn yn ogystal â'r tawelwch meddwl o wybod bod eich porwr yn rhagweithiol yn diogelu'ch data personol.
Cludadwyedd:
Cludadwyedd | ![]() |
|
---|---|---|
Argaeledd OS | ||
Argaeledd OS symudol | ||
Yn cydweddu gyda dyfeisiau symudol | ||
Rheoli cyfrineiriau | ||
Prif gyfrinair |
Gan fod Microsoft wedi symud i gau Internet Explorer, nid yw bellach yn cefnogi unrhyw fersiwn ar gyfer iOS, ac ni fu erioed ar gael ar gyfer Android. Sy'n golygu oni bai eich bod chi'n rhedeg gliniadur neu fwrdd gwaith Windows, nid oes gennych fynediad i'ch nodau tudalen, hanes pori, cyfrineiriau wedi'u cadw, na manylion arall y mae porwyr modern yn ei gydweddu ar draws dyfeisiau.
Mae Firefox yn gweithio ar unrhyw blatfform, gan gynnwys Windows, macOS, Linux, Android ac iOS. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwch gydweddu'ch holl fanylion ar draws llwyfannau. Felly os ydych yn pori ar liniadur Windows, gallwch ailgychwyn lle wnaethoch chi adael pan wnaethoch chi symud i bori ar eich iPhone neu ddyfais Android. Dylai'r cyfleustra hwn ddod yn safonol ar unrhyw borwr gwe modern, ond nid yw ar gael ar Internet Explorer.
Asesiad Cyffredinol
Heb fod yn hir yn ôl Internet Explorer oedd y porwr mwyaf poblogaidd ac yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws y byd. Mae amser wedi newid ac felly hefyd dechnoleg, ond yn anffodus mae Internet Explorer wedi aros yn ei unfan. Mae Microsoft ei hun yn awyddus iawn i ddefnyddwyr roi'r gorau i ddefnyddio Internet Explorer a newid i'w porwr Edge diweddar sy'n seiliedig ar Chromium.
Ein barn ni yw ei ddefnyddio gyda phorwr preifat dibynadwy y mae ganddo hanes o ddarparu profiad gwych ar draws dyfeisiau. Mewn cymhariaeth, does dim cystadleuaeth. Yn syml, Firefox yw'r gorau ar draws pob categori asesu. Os byddwch chi'n cael eich hun yn nhŷ ffrind sy'n defnyddio Internet Explorer, byddwch yn gwneud cymwynas fawr â nhw drwy lwytho Firefox i lawr ar eu cyfer.
Gwnaethpwyd y cymariaethau hyn gyda'r gosodiadau rhagosodedig ac ar draws fersiynau rhyddhad porwr fel a ganlyn:
Firefox (81) |
Internet Explorer (11)
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf ac efallai na fydd bob amser yn adlewyrchu'r diweddariadau diweddaraf.